19/3/2024
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi mai Kier sydd wedi cael ei ddewis fel y cynigydd a ffefrir i adeiladu adeilad newydd ar gyfer 'Ysgol Cynefin', a alwyd yn Ysgol y Court gynt.
Bydd y prosiect newydd gwerth £23m yn cynyddu capasiti'r ysgol drwy ei hadleoli a'i hailadeiladu ar draws dau safle. Bydd un ohonynt wedi ei leoli ar dir i'r de o Ysgol Gynradd y Tyllgoed ar Wellwright Road, a bydd y llall i'r de o Ysgol Gynradd Pen y Bryn ar Dunster Road yn Llanrhymni. Bydd hyn yn defnyddio tir ar safle presennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, ar ôl iddi gael ei symud i adeilad newydd ar ddatblygiad Sant Edern.
Ysgol CynefinTyllgoed
Wedi ei gyflwyno o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy Band B Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, cafodd cynllunio ar gyfer y cynllun ei gymeradwyo ym mis Gorffennaf a chyhoeddwyd enw newydd yr ysgol hefyd. Dewiswyd enw newydd yr ysgol, Ysgol Cynefin, gan yr ysgol a rhanddeiliaid allweddol i gyfleu'r berthynas rhwng pobl a'r byd naturiol, a sut y gall cysylltu pobl a'r amgylchedd ffurfio ymdeimlad o hunaniaeth a lles.
Ysgol CynefinLlanrhymni
Bydd yr ysgol newydd yn tyfu o 42 i 74 o leoedd, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o flwyddyn academaidd 2025-26, gan helpu i ateb galw'r ddinas am ddarpariaeth arbenigol oedran cynradd. Bydd gan y ddau safle amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr gan gynnwys ardaloedd chwaraeon aml-ddefnydd, ardaloedd chwaraeon a chwarae meddal, caeau chwaraeon ac ardaloedd garddwriaethol.
Bydd y datblygiad yn cynnwys:
- Adeiladu dau adeilad ysgol unllawr newydd ar safle'r Tyllgoed a safle Llanrhymni
- Creu mannau amwynder awyr agored newydd, ardaloedd chwaraeon aml-ddefnydd, mannau chwarae a darpariaeth chwaraeon
- Tirlunio, mannau parcio, draenio a gwaith cysylltiedig
- Dymchwel yr adeiladau presennol sy'n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg (safle Llanrhymni)
Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:"Ar hyn o bryd, mae Caerdydd yn cychwyn ar drawsnewidiad chwyldroadol o ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac mae Ysgol Cynefinyn rhan o'r cynlluniau arwyddocaol hyn, i fynd i'r afael â'r diffyg mewn lleoedd sydd eu hangen ar draws y ddinas.
"Dyfarnu'r contract i adeiladu'r safleoedd ysgol newydd yw'r garreg filltir nesaf wrth gyflawni'r ddarpariaeth gyffrous hon y mae ei hangen yn fawr. Trwy adleoli ac ailadeiladuYsgol Cynefindros ddau safle, gall gwelliannau gael eu gwneud i safon y cyfleusterau tra'n cynnig mwy o leoedd i blant sydd angen darpariaeth arbenigol. Yn ogystal, bydd cydleoli'r ysgol gyda dwy ysgol gynradd prif ffrwd nid yn unig yn galluogi rhannu arfer da rhwng ysgolion, ond bydd hefyd yn helpu i gefnogi cyfleoedd i ddisgyblion elwa o amgylcheddau prif ffrwd."
Dywedodd Jason Taylor, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Gorllewin Lloegr a Chymru: "Rydym wrth ein bodd mai ni yw'r cynigydd a ffefrir ar gyfer y Court, ac i barhau â'n perthynas â Chyngor Caerdydd ar ôl cyflawni cynllun blaenllaw Ysgol Uwchradd Fitzalan y llynedd.
"Mae darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol o ansawdd uchel yng Nghaerdydd yn hynod bwysig ac yn rhywbeth y mae Kier yn falch o fod yn rhan ohono."
Mae cyd-leoli'r ysgol newydd gydag ysgolion cynradd prif ffrwd hefyd wedi darparu buddsoddiad i'r ysgolion cyfagos; bydd Ysgol Gynradd Pen y Bryn wrth ymyl safle Llanrhymni ac Ysgol Gynradd y Tyllgoed wrth ymyl safle'r Tyllgoed, ill dwy'n elwa o welliannau awyr agored gan gynnwys cyllid tuag at ierdydd ysgol llawn bwyd, ardaloedd ysgol goedwig, ystafelloedd dosbarth awyr agored, darpariaeth chwaraeon awyr agored ac offer iard chwarae.
Disgwylir i'r gwaith o adeiladuYsgol Cynefinddechrau yn nhymor yr hydref 2024.