The essential journalist news source
Back
15.
March
2024.
Buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn blociau fflatiau uchel yn Butetown

15/03/24

Mae cynlluniau am fuddsoddiad o £25m mewn dau floc o fflatiau yn y ddinas ar y gweill fel rhan o gynllun ailgladio blociau fflatiau uchel y cyngor.

Nelson House a Loudoun House yn Butetown yw'r nesaf o flociau'r Cyngor i gael eu hailgladio a'u gwella yng ngham dau y rhaglen.

Cafodd cladin ei dynnu oddi ar bum bloc fflatiau uchel y Cyngor yn sgil trasiedi Tŵr Grenfell. Er nad oedd y cladin allanol ar flociau uchel y Cyngor yr un fath â'r math ACM hynod fflamadwy a ddefnyddiwyd yn Grenfell, nid oedd yn bodloni'r safonau diogelwch tân presennol ac felly gallai beri risg ychwanegol yn ystod tân. 

Ni chafodd cladin ei dynnu oddi ar Loudoun House bryd hynny oherwyddystyriwyd bod yr adeilad yn un risg is gyda dwy set o risiau a goruchwylydd tân 24/7, sy'n parhau i fod mewn lle.

Gan fod gwaith ailgladio a gwella, gan gynnwys ffenestri a balconïau newydd, yn y tri bloc yn Fflatiau Lydstep, yn agosáu at gael ei gwblhau, mae cynigion ar gyfer ail gam y prosiect yn Nelson House a Loudoun House bellach yn cael eu dwyn ymlaen a byddant yn cael eu hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 21 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Mae diogelwch preswylwyr yn ein blociau fflatiau uchel yn hollbwysig ac, er bod y cynllun ailgladio yn Fflatiau Lydstep yn cymryd mwy o amser nag yr oeddem yn ei ddisgwyl am wahanol resymau, mae'r canlyniad yn werth chweil gydachladin o'r lefel diogelwch tân uchaf, gwell effeithlonrwydd thermol i breswylwyr, ac edrychiad gwell i'r tri bloc, sy'n gwella'r amgylchedd lleol.

"Rydyn ni wedi dysgu rhai gwersi ar hyd y ffordd a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth honno wrth i ni ddechrau'r broses ar gyfer Nelson House a Loudoun House."

Mae'r gwaith yn cynnwys cael gwared argladin o Loudoun House, gosod system gladin newydd ar y ddau floc, ffenestri newydd, gorchudd to newydd ar floc y gofalwyr a disodli boeleri a gwaith nwy.

Fel rhan o'r gwaith adeiladu, bydd y system gladin newydd yn cael ei phrofi rhag tân i roi sicrwydd bod y cynhyrchion a'r systemau arfaethedig yn ddiogel i'w defnyddio. Bydd preswylwyr y 181 o fflatiau ar draws y ddau flocyn cymryd rhan ar bob cam wrth i'r cynllun ddatblygu, gan gynnwys yn y dewis terfynol o ddyluniad cladin.

Argymhellir bod y Cabinet yn cymeradwyo'r llwybr caffael arfaethedig ar gyfer tros-gladin Nelson House a Loudoun House ac yn cytuno ar ddechrau'r broses gaffael. Nod y Cyngor yw penodi contractwr cyn diwedd y flwyddyn hon a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Ionawr 2026.

Bydd yr adroddiad llawn a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar gael  yma.

Cyn y cyfarfod hwnnw ar 21 Mawrth, bydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yn trafod y cynigion yn ei gyfarfod ddydd Llun, 18 Mawrth am 4.30pm yn Neuadd y Sir. Bydd papurau ar gael  yma  a bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu  yma.