The essential journalist news source
Back
14.
March
2024.
Y Cyngor yn addo mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil yn y gweithle

14.03.24
Cyngor Caerdydd yw’r awdurdod lleol diweddaraf i arwyddo siarter gwrth-hiliaeth UNSAIN.

Mae'r siarter, sy'n ceisio mynd i'r afael â hiliaeth yn y sector cyhoeddus, yn ymrwymo sefydliadau a'u harweinwyr i gael polisi cydraddoldeb hiliol clir a gweladwy, yn ogystal â rhaglen o fentrau gwrth-hiliaeth.

Cafodd ei datblygu mewn ymateb i arolwg gan UNSAIN - undeb mwyaf y sector cyhoeddus - o 1,000 o weithwyr du yn Llundain a ddatgelodd mai dim ond 30% oedd yn teimlo bod eu cyflogwr yn cymryd cydraddoldeb hiliol o ddifrif.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae'r siarter hon yn cyd-fynd yn berffaith ag ymrwymiad craidd y Cyngor i fod yn 'gryfach, tecach, gwyrddach' ac yn tanlinellu ein nod i feithrin gweithle cynhwysol a theg a'r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

"Mae gan y Cyngor eisoes rwydwaith sefydledig sy'n cefnogi ein hymdrechion i greu gweithle mwy cynhwysol, ond mae llofnodi'r siarter hon yn ddigwyddiad allweddol wrth i ni, ynghyd â'n partneriaid gwerthfawr, gadarnhau ein hymroddiad i chwalu’r rhwystrau a ddaw yn sgil hiliaeth.

"Rydym yn addo adeiladu ar ddiwylliant sy'n dathlu amrywiaeth, yn croesawu cydraddoldeb ac yn sicrhau bod pob llais nid yn unig yn cael ei glywed, ond yn cael ei werthfawrogi'n wirioneddol."

Yn rhan o'r siarter mae cyfres o addewidion sy'n ymrwymo'r Cyngor i gyflwyno mesurau o fewn y 12 mis nesaf, gan gynnwys:

  •  Cydnabod yr angen a'r budd o hyrwyddo gweithlu sy’n amrywiol o ran hil
  • Herio hiliaeth yn fewnol ac yn allanol lle bynnag mae'n dod i’r amlwg yn y sefydliad
  • Darparu hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod a gwrth-hiliaeth i bob aelod o staff
  • Adolygu prosesau recriwtio i nodi a mynd i'r afael â gwahaniaethau ar sail hil o ran cyfle cyfartal, a
  • Bod yn wrth-hiliol, nid dim ond peidio â bod yn hiliol, ym mhopeth y mae’n ei wneud

Dywedodd Emma Richards, ysgrifennydd cangen UNSAIN ar gyfer Sir Caerdydd ar ôl y llofnodi: "Fel rhan o'n hymrwymiad i wella amodau gwaith i aelodau du, rydym wedi gweithio gydag arweinwyr y Cyngor i wneud Caerdydd yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â'n Siarter Gwrth-Hiliaeth.

“Mae'r addewid yn sicrhau ymrwymiad parhaus Cyngor Caerdydd fel cyflogwr i gydnabod yr anghydraddoldeb y mae gweithwyr du yn ei wynebu ac i weithredu polisi cydraddoldeb hiliol clir a gweladwy, rhaglen o fentrau gwrth-hiliaeth a chamau gweithredu cryf i ddileu unrhyw achosion o wahaniaethu ar sail hil yn ei holl ffurfiau."