The essential journalist news source
Back
12.
March
2024.
Gwaith adeiladu yn dechrau ar system newydd amddiffyn llifogydd i warchod cartrefi Caerdydd

Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau ar gynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd newydd a fydd yn amddiffyn 2,800 o gartrefi rhag perygl llifogydd.

Yn ymestyn dros 1.5 cilomedr ar hyd y blaendraeth, o Tidefields Road i aber Afon Rhymni, bydd y cynllun £35 miliwn, y mae'r rhan fwyaf ohono'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cymryd tua thair blynedd i'w gwblhau ac fe'i cynlluniwyd i:

  • amddiffyn eiddo rhag cynnydd yn lefelau'r môr am y 100 mlynedd nesaf.
  • darparu amddiffyniad yn erbyn digwyddiad tywydd garw 1-waith-mewn-200-mlynedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd.

A road near waterDescription automatically generated with medium confidence

Safle'r Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd newydd. Credyd Knights Brown.

 

Dwedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd: "Fel dinas arfordirol gyda thair afon yn rhedeg drwyddi, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr i amddiffyn cartrefi, busnesau a seilwaith allweddol rhag y risg uwch o lifogydd y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd." 

"Trwy ein strategaeth Caerdydd Un Blaned rydym yn chwarae ein rhan i gyfyngu ar godiadau tymheredd byd-eang a gwneud peth gwaith da iawn i leihau allyriadau carbon: adeiladu rhwydwaith gwres carbon isel newydd, y fferm solar newydd yn Ffordd Lamby, datblygu ein rhwydwaith o feicffyrdd ar wahân, plannu degau o filoedd o goed yn flynyddol, a mwy - ond mae effeithiau newid hinsawdd yn digwydd i'r ddinas yn barod ac mae lefelau'r môr eisoes wedi codi, felly bydd camau rhagweithiol fel yr amddiffynfeydd llifogydd hyn hefyd yn hanfodol i sicrhau bod Caerdydd yn ddigon gwydn i ymdopi yn y blynyddoedd i ddod."

Bydd y gwaith yn golygu y bydd 150,000 tunnell o amddiffynfeydd creigiog yn cael eu gosod ar hyd y glannau i reoli erydiad a llanw uchel yn ogystal â gosod pyst seiliau a dalenni a chynnal a chadw argloddiau pridd ar hyd aber yr afon.

Fel rhan o'r prosiect, gwneir gwelliannau hefyd i gyflwr rhan o Lwybr Arfordir Cymru sydd wedi'i leoli o fewn ffiniau'r cynllun, law yn llaw â gwelliannau mynediad i'r llwybr.