The essential journalist news source
Back
5.
March
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 05 Mawrth 2024

Diweddariad Dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Mae eiddo gwag hirdymor yn wynebu premiwm treth gyngor o 300% mewn ymgais i ddefnyddio cartrefi unwaith eto
  • Rôl allweddol Cyngor Caerdydd yn sicrhau Rolls Royce ar gyfer Llaneirwg
  • Cyngor Teithio diwrnod gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar 10 Mawrth yng Nghaerdydd

 

Mae eiddo gwag hirdymor yn wynebu premiwm treth gyngor o 300% mewn ymgais i ddefnyddio cartrefi unwaith eto

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig mesurau newydd anodd i helpu i ddefnyddio tai gwag hirdymor yn y ddinas unwaith eto.

Mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor, cytunodd cynghorwyr ar argymhellion i godi'r premiwm treth gyngor ar rai eiddo gwag i gymaint â 300%.

Yn 2019, cyflwynodd y Cyngor bremiwm Treth Gyngor o 50% ar gartrefi a adawyd yn wag a heb eu dodrefnu am flwyddyn, ac ym mis Mawrth y llynedd, cynyddodd hyn i 100%. Mae'r cynigion newydd yn golygu y bydd y premiwm yn cynyddu'n raddol yr hiraf y mae'r tŷ wedi'i adael, felly bydd cartrefi sydd wedi bod yn wag am ddwy flynedd yn wynebu tâl o 200% tra bydd cartrefi sydd wedi bod yn wag am dair blynedd neu fwy yn wynebu'r premiwm uchaf o 300%.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Ein nod yw helpu i ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Rydym yn wynebu argyfwng tai ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein pwerau i helpu i gartrefu'r bobl hynny sydd angen llety. Mae defnyddio cartrefi gwag unwaith eto yn un ffordd o helpu.

"Po hiraf y bydd yr eiddo hyn yn parhau i fod allan o ddefnydd, y mwyaf y byddant yn felltith ar ein cymunedau ac yn denu tipio anghyfreithlon, niwsans, fandaliaeth a gweithgarwch troseddol ac os ydynt yn cael eu bordio i fyny, gallant leihau apêl yr ardal i bawb."

Darllenwch fwy yma

 

Rôl allweddol Cyngor Caerdydd yn sicrhau Rolls Royce ar gyfer Llaneirwg

Mae penderfyniad Rolls Royce Submarines i agor swyddfa newydd ym Mharc Busnes Llaneirwg yng Nghaerdydd, fydd yn creu 130 o swyddi newydd, wedi cael ei groesawu gan Gyngor Caerdydd.

Bydd y buddsoddiad yn Llaneirwg yn cefnogi Rhaglenni Llongau Tanfor parhaus y DU, gan gynnwys rhaglen AUKUS, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraethau'r DU, Awstralia ac UDA.

Mae'r Cyngor wedi bod wrthi'n gweithio gyda'r cwmni, datblygwr y safle, a'n partneriaid, i ddod â'r prosiect hwn i Gaerdydd ac mae'r penderfyniad yn ‘gymeradwyaeth wych' i waith partneriaeth yn y farchnad lafur fedrus yng Nghaerdydd a Dinas-ranbarth Caerdydd.

Un o ofynion allweddol y cwmni oedd bod y lleoliad sydd ei angen i ddenu pobl â chefndir mewn dylunio mecanyddol, peirianneg deunyddiau, dadansoddi uniondeb saernïol, dadansoddi thermol a dynameg hylif ac roeddem yn gallu dangos bod y sgiliau hyn yn bodoli - ac yn bwysig - y gellir eu tyfu yma yn y brifddinas.

Fel rhan o'r broses hon, bu'r Cyngor yn gweithio gyda'r cwmni i sefydlu ffair recriwtio arbrofol yn Neuadd y Ddinas, gyda chefnogaeth Prifysgol Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro, wnaeth ganiatáu i Rolls Royce Submarines gwrdd â thalent leol a phrofi'r cyflenwad sgiliau yn gynnar yn y broses i ddangos y sgiliau sydd ar gael yma i'r cwmni. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, ac roedd hefyd yn amlwg o drafodaethau cynnar y cyngor gyda Rolls Royce Submarines bod datblygu seilwaith gorsaf yn Parcffordd hefyd yn ffactor cryf yn y cwmni'n dewis Caerdydd a Llaneirwg ar gyfer y prosiect cyffrous hwn.

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor Teithio diwrnod gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar 10 Mawrth yng Nghaerdydd

Bydd Cymru'n herio Ffrainc ddydd Sul 10 Mawrth yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 3pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11pm tan 7pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon.

Bydd y gatiau'n agor am 12.45pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.   Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig ynprincipalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma