The essential journalist news source
Back
5.
March
2024.
Agoriad swyddogol ysgol gynradd iaith dwy ffrwd gyntaf Caerdydd

05/03/24

Mae Ysgol Gynradd Groes-wen wedi dathlu ei hagoriad swyddogol yn ystod digwyddiad arbennig ym mhresenoldeb Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry. Mwynhaodd y gwesteion berfformiad gan rai o ddisgyblion ieuengaf yr ysgol a thaith o amgylch yr adeilad.

A group of people standing outside a buildingDescription automatically generated

Yn un o ysgolion cynradd mwyaf newydd Caerdydd, agorodd yr ysgol £9 miliwn ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf ym mis Medi. Yr ysgol gynradd gwerth £9 miliwn yw'r gyntaf o'i math i Gaerdydd ac i Gymru, gan gynnig ffrwd iaith ddeuol a ffrwd iaith Gymraeg.  Bydd y ffrwd iaith ddeuol yn cynnwys 50% o Gymraeg a 50% o Saesneg, a elwir yn rhaniad 50/50.  Yn ogystal, mae darpariaeth feithrin rhan amser â 96 lle sy'n cael ei chefnogi gan Gylch Meithrin i gynnig darpariaeth gofleidiol. Bydd y Cylch hefyd yn gweithredu clwb ar ôl ysgol i ddisgyblion.

Wedi'i lleoli yn natblygiad Plasdŵr Caerdydd yng ngogledd-orllewin Caerdydd, ar dir i'r de o Heol Llantrisant, mae Ysgol Gynradd Groes-wen, a adeiladwyd gan Andrew Scott Ltd, yn ddau ffrwd fynediad ac mae'n cynnig cyfanswm o 420 o leoedd, sy'n gwasanaethu ardaloedd yng ngogledd-orllewin Caerdydd. Mae'n cynnwys pensaernïaeth gyfoes ac amrywiaeth o fwynderau sy'n hygyrch i'r cyhoedd, gan roi cyfleoedd i ddod â thrigolion a theuluoedd newydd at ei gilydd.

A group of children in a classroomDescription automatically generated

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:  "Mae agoriad swyddogol Ysgol Gynradd Groes-wen yn achlysur pwysig i ddisgyblion, staff a'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu.  Yn amrywiad arloesol ar yr ysgol gynradd draddodiadol, mae eisoes yn llwyddo i roi cyfleoedd newydd a chyffrous trwy gyflwyno'r model iaith ddeuol sy'n ceisio cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd strategol.

"Gan gefnogi dyhead Caerdydd i dyfu'r Gymraeg fel y nodir yn ein strategaeth ddwyieithog, mae'r ysgol newydd yn helpu i ddatblygu dwyieithrwydd, mewn amgylchedd dysgu modern newydd, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael yr addysg orau bosibl."

"Mae Plasdŵr eisoes yn boblogaidd iawn, gan greu cynnydd sylweddol yn y galw am leoedd ysgol yn yr ardal. Mae ffocws cymunedol yr ysgol yn rhoi cyfleoedd i bobl leol ddefnyddio'r cyfleusterau yn ogystal â sicrhau bod lleoedd ysgol ar gael."

Richard Carbis, Pennaeth:  "Mae'n gymaint o fraint cael bod yn Bennaeth Ysgol Groes-wen.  Mae'r disgyblion, y rhieni a'r staff yn rhan o greu teulu Groes-wen a fydd yn dathlu'r ardal, ein hunaniaeth Gymreig ac wrth gwrs bod yn rhan o gymuned fywiog a newydd ym mhrifddinas Cymru. 

"Rydym am i'r llwybrau a'r strydoedd ddathlu'r Gymraeg, i deimlo bod croeso iddynt yn yr ysgol a bod yn rhan o ganolfan gymunedol i'n holl randdeiliaid neu fel y mae'n well gennym eu galw, ein ffrindiau."

Mae Plasdŵr yn ddatblygiad o hyd at 7,000 o gartrefi a gaiff eu codi ar y safle sy'n ffinio â Radur, y Tyllgoed, Pentre-baen a Sain Ffagan ynghyd â siopau, caffis, bwytai a swyddfeydd.  Mae'r uwchgynllun ar gyfer Plasdŵr yn cynnwys tair ysgol gynradd newydd arall ac un ysgol uwchradd, i'w cyflwyno wrth i'r datblygiad ymffurfio dros y blynyddoedd nesaf.

Wayne Rees yw Cyfarwyddwr Prosiect Plasdŵr.  Meddai: "Mae wedi bod yn wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd ar gyfer agoriad swyddogol Ysgol Gynradd Groes-wen. Mae Plasdŵr wedi cymryd camau breision yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae agor ysgol gynradd ddwyieithog gyntaf Cymru yn dyst i'r addysg o ansawdd uchel y bydd Plasdŵr yn ei gynnig i'r rhai sy'n byw yn y datblygiad a'r ardaloedd cyfagos.

"Gyda phedair ysgol ychwanegol i'w darparu ym Mhlasdŵr dros y 10-15 mlynedd nesaf, rydym yn gyffrous i barhau i wireddu ein gweledigaeth fel cymuned fywiog lle gall preswylwyr fyw, gweithio, dysgu a chwarae."

Darparwyd yr ysgol gan brif ddatblygwr Plasdŵr Redrow, o dan gytundeb Adran 106. Wedi'i gyflwyno fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd, mae'r ysgol newydd yn rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B gwerth £284m Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, i ddarparu ysgolion newydd ac estynedig.