The essential journalist news source
Back
5.
March
2024.
Cyngor Teithio diwrnod gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar 10 Mawrth yng Nghaerdydd

05/03/24


Bydd Cymru'n herio Ffrainc ddydd Sul 10 Mawrth yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 3pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11pm tan 7pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon.

Bydd y gatiau'n agor am 12.45pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 11am tan 7pm

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Heol Clare i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o'r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r gêm orffen ac am hyd at awr wedi'r chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr trên sy'n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau:  
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Trenau

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu capasiti lle y bo modd i gyrraedd/adael Caerdydd ddydd Sul 10 Mawrth ond y disgwyl yw y bydd gwasanaethau'n brysur iawn felly teithiwch yn gynnar.

Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau'r brif lein yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i'r orsaf. Bydd Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 15:30 heblaw am fynediad hygyrch a theithwyr sy'n dymuno teithio i Fae Caerdydd.

Ewch itfw.cymruneu'r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd y cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad yn Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd -CF11 0JS.

Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.

Bydd y safle parcio a theithio yn agor ychydig cyn 9am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 8.30pm gyda'r safle yn cau'n fuan wedi hynny.

Y gost yw £12. Arian parod yn unig.

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad(Ceir a Bysus)

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 am fws - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 
 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 ar gyfer ceir a £30 i fysus - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.  

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio'n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw'n seiclo ar hyn o bryd roi cynnig arni.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11am ac yn ailagor am 7pm.