The essential journalist news source
Back
4.
March
2024.
Cynlluniau i helpu Clwb Rygbi Rhiwbeina i gael gafael ar gyllid newydd

4.3.24

Mae cynlluniau i helpu Clwb Rygbi Rhiwbeina i gael cyfleoedd ariannu newydd a sicrhau buddsoddi mewn cyfleusterau presennol ym Mharc Caedelyn wedi cael eu datgelu.

Dyma'r clwb chwaraeon cymunedol diweddaraf yng Nghaerdydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoli a chynnal cyfleusterau a chaeau yn y parc lle maent yn chwarae.

Mae'r trefniadau newydd, a gynigir am dymor o 40 mlynedd, yn cynnwys yr ystafelloedd newid, y toiledau, a'r byngalo, yn ogystal â chaniatáu defnydd ffafriol i'r clwb o'r caeau chwaraeon cyfagos. Bydd y trefniant yn galluogi'r clwb i gael gafael ar ffrydiau ariannu newydd nad ydynt ar gael i awdurdodau lleol, ac yn helpu i sicrhau buddsoddiad i wella'r cyfleusterau.

O ganlyniad i'r cynlluniau, cyhoeddwyd hysbysiadau cyfreithiol yn hysbysebu 'gweinyddiad' 1,861 metr sgwâr o adeiladau a thir cyfagos ym Mharc Caedelyn.

Mae 'gweinyddiad' yn derm cyfreithiol sydd, yn yr achos hwn, yn cyfeirio at roi prydles. Bydd yr holl gyfleusterau yn parhau ym mherchnogaeth Cyngor Caerdydd.