The essential journalist news source
Back
4.
March
2024.
Rôl allweddol Cyngor Caerdydd yn sicrhau Rolls Royce ar gyfer Llaneirwg

04/03/24


Mae penderfyniad Rolls Royce Submarines i agor swyddfa newydd ym Mharc Busnes Llaneirwg yng Nghaerdydd, fydd yn creu 130 o swyddi newydd, wedi cael ei groesawu gan Gyngor Caerdydd.

Bydd y buddsoddiad yn Llaneirwg yn cefnogi Rhaglenni Llongau Tanfor parhaus y DU, gan gynnwys rhaglen AUKUS, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraethau'r DU, Awstralia ac UDA.

Mae'r Cyngor wedi bod wrthi'n gweithio gyda'r cwmni, datblygwr y safle, a'n partneriaid, i ddod â'r prosiect hwn i Gaerdydd ac mae'r penderfyniad yn ‘gymeradwyaeth wych' i waith partneriaeth yn y farchnad lafur fedrus yng Nghaerdydd a Dinas-ranbarth Caerdydd.

Un o ofynion allweddol y cwmni oedd bod y lleoliad sydd ei angen i ddenu pobl â chefndir mewn dylunio mecanyddol, peirianneg deunyddiau, dadansoddi uniondeb saernïol, dadansoddi thermol a dynameg hylif ac roeddem yn gallu dangos bod y sgiliau hyn yn bodoli - ac yn bwysig - y gellir eu tyfu yma yn y brifddinas.

Fel rhan o'r broses hon, bu'r Cyngor yn gweithio gyda'r cwmni i sefydlu ffair recriwtio arbrofol yn Neuadd y Ddinas, gyda chefnogaeth Prifysgol Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro, wnaeth ganiatáu i Rolls Royce Submarines gwrdd â thalent leol a phrofi'r cyflenwad sgiliau yn gynnar yn y broses i ddangos y sgiliau sydd ar gael yma i'r cwmni. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, ac roedd hefyd yn amlwg o drafodaethau cynnar y cyngor gyda Rolls Royce Submarines bod datblygu seilwaith gorsaf yn Parcffordd hefyd yn ffactor cryf yn y cwmni'n dewis Caerdydd a Llaneirwg ar gyfer y prosiect cyffrous hwn. 

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Mae penderfyniad Rolls Royce i ddewis Llaneirwg yng Nghaerdydd ar gyfer eu buddsoddiad i ddarparu swyddfa beirianneg newydd i gefnogi twf eu busnes niwclear yn y DU yn hwb mawr nid yn unig i economi Caerdydd a'i dinas-ranbarth ond hefyd i Gymru. Roeddwn yn falch iawn o allu cwrdd â thîm Rolls Royce yn gynnar yn eu proses benderfynu a chynnig cefnogaeth lawn y cyngor iddynt wrth sefydlu eu swyddfa yn Llaneirwg.

 "Mae'r buddsoddiad nid yn unig yn dod â busnes rhyngwladol eiconig i Gaerdydd ond hefyd sgiliau newydd i gefnogi sector diwydiannol byd-eang sy'n tyfu. O ran ei effaith hirdymor ar yr economi, mae gan y prosiect mewnfuddsoddiad hwn y potensial i ddilyn buddsoddiadau trawsnewidiol eraill gan gwmnïau fel Admiral, IQE a Legal and General, y gwnaeth y cyngor hefyd eu cefnogi'n helaeth. 

"Bydd y buddsoddiad yn darparu gwaith medrus hirdymor sy'n talu'n dda ar draws ein cymunedau, gan roi hwb aruthrol i arloesedd ac ymchwil ymhlith Prifysgolion a Cholegau ledled Cymru ac rwy'n deall bod rhai o'r partneriaethau arloesi hyn eisoes wedi'u sefydlu. 

 "Yn ein trafodaethau, roedd hefyd yn amlwg fod penderfyniad Rolls Royce i ddewis Llaneirwg wedi'i ddylanwadu'n fawr gan yr orsaf reilffordd newydd arfaethedig i wasanaethu'r parc busnes ac rwy'n falch iawn bod tîm y Cyngor wedi gallu gweithio'n agos gyda'r datblygwr yn Llaneirwg i sicrhau'r prosiect pwysig hwn."