04.03.24
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig mesurau newydd anodd i
helpu i ddefnyddio tai gwag hirdymor yn y ddinas unwaith eto.
Mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor, cytunodd cynghorwyr ar argymhellion i godi'r premiwm treth gyngor ar rai eiddo gwag i gymaint â 300%.
Yn 2019, cyflwynodd y Cyngor bremiwm Treth Gyngor o 50% ar gartrefi a adawyd yn wag a heb eu dodrefnu am flwyddyn, ac ym mis Mawrth y llynedd, cynyddodd hyn i 100%. Mae'r cynigion newydd yn golygu y bydd y premiwm yn cynyddu'n raddol yr hiraf y mae'r tŷ wedi'i adael, felly bydd cartrefi sydd wedi bod yn wag am ddwy flynedd yn wynebu tâl o 200% tra bydd cartrefi sydd wedi bod yn wag am dair blynedd neu fwy yn wynebu'r premiwm uchaf o 300%.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Ein nod yw helpu i ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Rydym yn wynebu argyfwng tai ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein pwerau i helpu i gartrefu'r bobl hynny sydd angen llety. Mae defnyddio cartrefi gwag unwaith eto yn un ffordd o helpu.
"Po hiraf y bydd yr eiddo hyn yn parhau i fod allan o ddefnydd, y mwyaf y byddant yn felltith ar ein cymunedau ac yn denu tipio anghyfreithlon, niwsans, fandaliaeth a gweithgarwch troseddol ac os ydynt yn cael eu bordio i fyny, gallant leihau apêl yr ardal i bawb."
Clywodd y cyfarfod, ers mis Rhagfyr y llynedd, bod 1,563 eiddo wedi bod yn wag ers dros chwe mis ar unrhyw un adeg, gyda 200 yn cael eu monitro’n weithredol gan swyddogion y cyngor. Er mwyn annog defnyddio’r eiddo unwaith eto, mae'r Cyngor yn gweithio gyda pherchnogion, gan eu hannog i ymuno â'r cynllun benthyciadau Troi Tai’n Gartrefi, gan awgrymu cyswllt â datblygwyr eiddo preifat a rhoi prawf o statws gwag i alluogi lleihau TAW ar gostau adnewyddu.
Mae'r arian a godwyd o'r premiymau wedi helpu i ariannu gwaith y Cyngor ar ddefnyddio tai gwag unwaith eto a helpu i ddiwallu anghenion tai lleol.
Ar ôl cyflwyno mesurau llymach y llynedd, fe wnaeth y Cyngor godi premiwm treth gyngor ar 74 yn llai o eiddo - 808, i lawr o 882.
"Mae hwn yn ddechrau, ond mae'n awgrymu efallai na fydd lefel bresennol y premiwm yn ddigon i berswadio perchnogion i ddod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i feddiannaeth unwaith eto," ychwanegodd y Cynghorydd Weaver.
Bydd y cynigion i gynyddu'r premiwm nawr yn cael eu
cyflwyno i'r cyngor llawn, sy'n eistedd ddydd Iau, 7 Mawrth. Bydd ffrwd fideo fyw o'r cyfarfod hwnnw ar gael i’w
weld yma o 4.30pm ar y diwrnod Agendai'r Cyngor Ddydd Iau, 7 Mawrth, 2024, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd(moderngov.co.uk)