The essential journalist news source
Back
27.
February
2024.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 27 Chwefror 2024

Diweddariad Dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Gwaith wedi dechrau i adeiladu Beicffordd Parc y Rhath
  • Dadorchuddio portread yn y Plasty o bencampwr manwerthu Caerdydd
  • Addysg Caerdydd: Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio

 

Gwaith wedi dechrau i adeiladu Beicffordd Parc y Rhath

Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar y cam cyntaf o Feicffordd Parc y Rhath Caerdydd.

Yn ogystal â darparu beicffordd newydd o fewn Tir Hamdden Parc y Rhath a gwella llwybrau troed, bydd y gwaith yn arwain at welliannau i droedffyrdd, cyffyrdd priffyrdd, a theithio ar fws, yn ogystal â chynyddu capasiti'r system ddraenio o amgylch Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan a oedd yn dueddol o ddioddef llifogydd dŵr wyneb.

Mae'r llwybrau troed newydd yn y maes chwarae hefyd yn cynnwys mesurau draenio fydd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion presennol lle mae rhai llwybrau troed yn gorlifo ac yn amhosibl mynd heibio iddynt pan fydd hi'n bwrw glaw.

Ar ôl ei chwblhau, bydd y llwybr beicio lletach yn rhedeg o ogledd Parc y Rhath, ger Ysgol Uwchradd Caerdydd, i Heol Casnewydd, lle bydd yn cysylltu â beicffordd arall (Beicffordd 2) fydd yn rhedeg i Dredelerch, Llanrhymni, ac yna ymlaen i Barc Busnes Llaneirwg.

Mae cam cyntaf cynllun beicffordd newydd Parc y Rhath yn cynnwys:

  • Beicffordd ar wahân newydd rhwng Heol Wellfield a Heol y Gwernydd a llwybrau troed gwell yn y cae chwarae
  • Gwelliannau i faes parcio Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Pen-y-lan
  • Gwelliannau sylweddol i'r system ddraenio o amgylch y ganolfan gymunedol gan
  • ddefnyddio technegau draenio cynaliadwy a siambrau casglu newydd.
  • Gwelliannau i gyffordd Heol Wellfield, Heol Marlborough, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian i wella amserau aros teithwyr, capasiti cyffyrdd a theithio ar fysiau
  • Croesfan feicffordd newydd ar draws y gyffordd hon fydd yn cysylltu beicffordd dros dro bresennol Heol Wellfield â beicffordd newydd Parc y Rhath
  • Disodli'r rhwystrau culhau'r ffordd ar Heol Tŷ Draw gyda phedair croesfan i gerddwyr â ramp
  • Gwelliannau i deithio ar fysiau, gan gynnwys safle bws newydd wrth deithio tua'r gogledd
  • ar Ffordd Ninian ac adeiladu rhai o'r safleoedd presennol allan i wella mynediad
  • Gwella'r groesfan sebra ar Heol Ninian wrth Pen-y-Wain Road ac adeiladu troedffordd a rennir i feicwyr a cherddwyr tuag at Ysgol Gynradd Parc y Rhath.

Darllenwch fwy yma

 

Dadorchuddio portread yn y Plasty o bencampwr manwerthu Caerdydd

Am fwy na 150 mlynedd, roedd siop adrannol James Howell ar Heol Eglwys Fair gyfystyr â'r profiad manwerthu gorau y gallai Caerdydd ei gynnig.

Sefydlodd y dilledydd o Sir Benfro ei fusnes yn y ddinas ym 1865, gan ei adeiladu i fod yn fusnes teuluol helaeth wedi'i leoli mewn adeilad godidog a allai gystadlu ag unrhyw beth oedd gan Lundain i'w gynnig.

Ond a wyddech chi fod Howell wedi gwneud ei farc ar Gaerdydd mewn modd arall? Adeiladodd dŷ ffrynt dwbl godidog ar Heol Richmond fel cartref teuluol, i'w wraig a'i blant. The Grove oedd yr enw gwreiddiol arno, ac fe'i prynwyd gan yr hen Gorfforaeth Caerdydd ym 1912 a flwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei agor yn swyddogol fel y Plasty - preswylfa swyddogol Arglwydd Faer y ddinas.

Er bod y Plasty heddiw yn cael ei ddefnyddio gan yr Arglwydd Faer i gynnal swyddogaethau dinesig, mae cysylltiad James Howell â'r eiddo rhestredig Gradd II bellach wedi'i gydnabod yn swyddogol diolch i'r rhodd o bortread ohono.

Arferai'r paentiad, gan yr artist nodedig o oes Fictoria, Parker Hagarty, hongian yn swyddfeydd siop Howell ond pan gaeodd y siop - erbyn hynny wedi ei ailfrandio fel yr House of Fraser - ym mis Mawrth 2023 fe'i rhoddwyd i'r cyngor yn y gobaith y byddai'n cael lle yn ei hen gartref.

Darllenwch fwy yma

 

Addysg Caerdydd: Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio

Gallai dull newydd o ddarparu addysg yng Nghaerdydd olygu bod mwy o ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd drwy drefniadau cydweithredu a ffedereiddio ffurfiol, i ddarparu system addysg hynod effeithiol a chynaliadwy.

Os caiff ei gytuno gan Gabinet Cyngor Caerdydd, byddai Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio yn darparu fframwaith i annog mwy o ysgolion i ddod at ei gilydd drwy gydweithredu, gan adeiladu ar gyflawniadau a llwyddiant trefniadau partneriaeth a ffedereiddio ffurfiol sydd eisoes yn gweithredu'n effeithiol ar draws y ddinas.

Mae ymchwil ac ymarfer wedi dangos manteision cydweithredu, ffedereiddio a threfniadau eraill lle mae ysgolion yn cael eu dwyn ynghyd i ddarparu addysg.  Mae hyn wedi cynnwys adolygiad thematig ESTYN (2019) a Chanllawiau ar gyfer Proses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir ar gyfer Awdurdodau Lleol ac Ysgolion (2023) sydd wedi ystyried yr ymchwil yn feirniadol a nodwyd y manteision allweddol canlynol fel rhan o'u casgliad: 

  • Strwythurau arweinyddiaeth strategol, llywodraethu a rheoli cryf i ganolbwyntio ar ddysgu, addysgu a chodi safonau 
  • Dysgu ehangach a phrofiadau cymdeithasol i ddysgwyr
  • Cyfleoedd recriwtio deniadol a chadw staff
  • Cyfleoedd newydd i staff gydweithio, cynyddu cymhelliant, lleihau llwyth gwaith drwy gynllunio a gweithgareddau ar y cyd
  • Rhannu adnoddau
  • Cyfrifoldebau ac atebolrwydd ar y cyd i blant ar draws cymunedau
  • Gwasanaethau estynedig ar draws ysgolion ac amrywiaeth o weithgareddau, gofal plant, cymorth i rieni a mynediad cymunedol gan gefnogi cydlyniant cymunedol a helpu i gynnal darpariaeth addysg  

 

Byddai Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio yn adeiladu ar y dystiolaeth hon gan ddefnyddio profiad a gwybodaeth gweithwyr proffesiynol Cyngor Caerdydd a Chonsortiwm Canolbarth y De (CCD), a phenaethiaid sy'n fedrus wrth gydweithio ac sydd â gallu amlwg i arwain sefydliadau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel sy'n cynnwys dwy ysgol neu fwy. Mae'n cydnabod rôl arweinyddiaeth a llywodraethu cryf wrth hyrwyddo canlyniadau addysg i blant a theuluoedd, gan fanteisio i'r eithaf ar sgiliau a phrofiad arweinwyr addysg mwyaf dawnus Caerdydd a llywodraethwyr hynod o alluog.

Darllenwch fwy yma