Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
- Datgelu cynigion Cyllideb Cyngor Caerdydd wrth i'r Awdurdod geisio cau bwlch o £30.3m
- Disgyblion Ysgol Gynradd Coed Glas yn paratoi ar gyfer antur wrth ymweld â safle dymchwel yn Nhŷ Glas
- Ysgol Gynradd yn y Ddinas yn Cael ei Chanmol am 'Amgylchedd Tawel a Hapus'
Datgelu cynigion Cyllideb Cyngor Caerdydd wrth i'r Awdurdod geisio cau bwlch o £30.3m
Mae cyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, yn cefnogi gwasanaethau cymdeithasol ac yn amddiffyn y bobl sydd mwyaf agored i niwed, wedi ei ddatgelu gan Gyngor Caerdydd wrth iddo wynebu 'argyfwng ariannu'r sector cyhoeddus' sy'n effeithio ar awdurdodau lleol ym mhob rhan o'r DU.
Mae costau cynyddol a'r galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol yn golygu bod gan y Cyngor 'benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud' os am gau'r bwlch o £30.3 miliwn yn ei gyllideb.
Yn gynharach eleni ymgynghorodd y Cyngor â thrigolion ledled y ddinas a gofynnwyd iddynt am eu barn ar nifer o gynigion i arbed arian a syniadau i gynhyrchu arian.
Cymerodd dros 9,000 o bobl - y nifer uchaf erioed - ran yn yr ymgynghoriad pedair wythnos ar y dewisiadau anodd sydd o'n blaenau.
Nawr, yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, mae'r Cyngor yn cyflwyno cynigion i ddiogelu gwasanaethau allweddol tra'n cau'r bwlch yn y gyllideb.
Mae'r cynigion yn cynnwys pennu unrhyw godiad y Dreth Gyngor ar 6% - tua £1.60 yr wythnos ar gyfer aelwyd Band D. Byddai hyn ymhlith y cynnydd isaf yn y Dreth Gyngor a welwyd yng Nghymru eleni a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal rhai o'r gwasanaethau y gofynnodd preswylwyr iddynt gael eu diogelu neu eu harbed rhag toriadau. Mae'r rhain yn cynnwys:
Rhoi codiad o 4.3% i ysgolion, gwerth £12.8 miliwn y flwyddyn i helpu i ddelio â chostau cynyddol sy'n cyfateb i gynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru i'r Cyngor, a chael gwared ar unrhyw ofyniad am arbedion effeithlonrwydd. Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant hefyd yn derbyn £26.3 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae cynigion eraill yn cynnwys:
- Dim toriadau i wasanaethau ieuenctid
- Gwario £6.7m ar barciau'r ddinas gan wella a diogelu ein statws Baner Werdd
- Gwario £7.1m ar atgyweirio priffyrdd
- £308m ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion y flwyddyn nesaf
Bydd ffioedd yn cynyddu ar gyfer rhai gwasanaethau, gan gynnwys:
- Cynyddu cost llogi meysydd chwarae - cynnydd o 10%
- Cynyddu pris claddedigaethau (+10.6%) a'r gwasanaeth amlosgi (+6.1%)
- Cynyddu cost prydau ysgol gan 10c, er y bydd y gwasanaeth hwn yn parhau i gael ei gymorthdalu
- Cynyddu rhai costau parcio.
Mae sawl ffactor gan gynnwys chwyddiant, prisiau ynni, pwysau o ran galw a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus, yn golygu y bydd cyllideb y Cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio dros £57 miliwn yn fwy yn y flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2024 - Mawrth 2025) nag eleni.
Bydd cynnydd grant Llywodraeth Cymru o 4.3% i Gaerdydd - llai na hanner yr hyn a dderbyniodd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, yn dod â £27 miliwn yn ychwanegol, sy'n golygu y bydd angen i'r Cyngor ddod o hyd i £30.3 miliwn. Bydd hyn yn gofyn am doriadau i wasanaethau, arbedion effeithlonrwydd, a chynyddu ffioedd.
Disgyblion Ysgol Gynradd Coed Glas yn paratoi ar gyfer antur wrth ymweld â safle dymchwel yn Nhŷ Glas
Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Coed Glas yn Llanisien wedi mwynhau cyfle unigryw i ymweld â'r safle dymchwel yn hen adeilad swyddfa CThEF yn Nhŷ Glas.
Ymwelodd 120 o blant mewn hetiau caled a gwasgodau llachar â'r safle gan gynnwys disgyblion dosbarth Derbyn, Blwyddyn 5 a disgyblion Canolfan Adnoddau yr ysgol i blant â nam ar eu clyw.
Yn ystod yr ymweliad, a gafodd ei gynnal gan Erith, y contractwr dymchwel a ddewiswyd i ymgymryd â'r gwaith, cafodd y plant eu hebrwng i ardal ddiogel lle cawsant gyfle i eistedd yng nghab lori godi a dysgu am yr agweddau diogelwch ar y cerbydau. Cawsant hefyd gyfle i wylio'r broses o ddymchwel Gleider House o fan diogel a gofyn cwestiynau i uwch bersonél y prosiect, cyn derbyn bag o nwyddau. Pan ofynnwyd iddynt am eu barn ar yr ymweliad, fe wnaeth Jude a Theo, disgyblion dosbarth Derbyn, ymateb; "siwper-diwper."
Dywedodd Sophie Notley, Pennaeth Ysgol Gynradd Coed Glas: "Mae'r plant wedi rhyfeddu gyda'r safle dymchwel ac roedden nhw wrth eu boddau gyda'r ymweliad. Dywedodd un rhiant mai dyma oedd hoff daith ei mab hyd yn hyn! Mae cael profiadau lleol a pherthnasol i'r plant yn bwysig iawn. Rydym yn ddiolchgar iawn i Erith am y rhodd hael o Chromebooks sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r plant yn eu hystafelloedd dosbarth."
Mae'r ymweliad yn rhan o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol Erith sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad gwerth tua £200,000. Mae 22 o Chromebooks a thrwyddedau wedi eu rhoi i Ysgol Coed Glas ac mae Erith hefyd yn awyddus i weithio gydag ysgolion lleol eraill gan gynnwys Ysgol Uwchradd Llanisien a Choleg Caerdydd a'r Fro.
Ysgol Gynradd yn y Ddinas yn Cael ei Chanmol am 'Amgylchedd Tawel a Hapus'
Mae ysgol gynradd dawel, bwrpasol a hapus yng Nghaerdydd wedi cael ei chanmol gan arolygwyr Estyn am ei hamgylchedd dysgu cynhwysol a meithringar lle mae disgyblion yn gwneud cynnydd da.
Roedd gan Ysgol Gynradd Gabalfa, yn Heol Colwill, 252 o ddisgyblion ar y gofrestr adeg yr arolygiad, gyda 43.8% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a 16.8% gyda Saesneg fel iaith ychwanegol.
Mae'r ysgol wedi cael ei chanmol am ei hethos a'i chwricwlwm, ansawdd ei staff addysgu ac effeithiolrwydd ei chorff llywodraethu.
Canmolodd yr arolygwyr yr ysgol am gynnig 'amgylchedd cynhwysol a meithringar' i'w disgyblion, lle maent yn teimlo'n 'ddiogel ac wedi'u gwerthfawrogi'. Nodwyd bod y disgyblion yn gwneud 'cynnydd cyffredinol da mewn amgylchedd tawel, pwrpasol a hapus,' a bod gan y staff 'ddisgwyliadau uchel ohonyn nhw eu hunain a'u disgyblion'.
Nododd yr adroddiad fod "y staff a'r disgyblion yn dathlu'r gwahanol ddiwylliannau, ieithoedd a chrefyddau a gynrychiolir yng nghymuned yr ysgol yn dda." Mae'r disgyblion hefyd yn datblygu sgiliau digidol cryf, tra bod y disgyblion hŷn yn dechrau defnyddio codio. Maent hefyd yn datblygu eu sgiliau corfforol a chreadigol yn dda.
Yn ôl yr adroddiad mae ymddygiad y disgyblion yn un o gryfderau'r ysgol, ac mae'r rhan fwyaf yn deall y ffordd y mae'r ysgol yn disgwyl iddynt ymddwyn ac yn awyddus i wneud eu gorau. (Arwyddair yr ysgol yw ‘Only Our Best is Good Enough')
Mae ethos meithringar a gofalgar yr ysgol yn cynnwys annog y disgyblion i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau. Mae'r Grwpiau Ysgol (Cyngor Ysgol) yn yr ysgol yn gweithio'n agos gyda llywodraethwyr ac arweinwyr yr ysgol i rannu effaith cyfranogiad disgyblion ar wella'r ysgol.