16.01.24
Mae Caerdydd wedi sgorio'n uchel mewn arolwg newydd mawr
gan yr UE sy'n asesu ansawdd bywyd mewn dinasoedd mawr yn Ewrop - ac mae wedi’i
datgan fel y ddinas orau i deuluoedd â phlant ifanc.
Mae'r arolwg, gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn ganlyniad
arolwg helaeth o o leiaf 839 o drigolion mewn 83 dinas mewn 36 gwlad - 71,153 o
gyfweliadau i gyd – ar faterion, gan gynnwys:
- Diogelwch
- Swyddi
- Seilwaith Trafnidiaeth
- Diwylliant
- Iechyd ac
- Ansawdd gweinyddiaeth leol
Ers yr arolwg diwethaf, a gynhaliwyd yn 2019, mae lefelau boddhad cyffredinol ar draws y rhan fwyaf o ddinasoedd Ewrop wedi gostwng wrth i ddigwyddiadau fel pandemig Covid-19, yr argyfwng costau byw, ac ymosodiad Rwsia o Wcráin adael eu hôl a rhoi pwysau ar systemau gofal iechyd, economïau a llai o dwristiaeth.
Ac eto, dangosodd yr arolwg fod rhwng 91% a 93% o bobl yng Nghaerdydd yn cytuno eu bod yn fodlon yn byw yn y ddinas, ar yr un lefel â phobl yng nghytref Tyneside ac yn uwch na dinasoedd eraill y DU yn yr arolwg - Glasgow, Llundain, Manceinion a Belfast - ac yn llawer uwch na phrifddinasoedd mawr Ewrop fel Rhufain, Athen a Belgrad.
Mewn dau gategori, perfformiodd Caerdydd yn well na phob
un o'r 83 dinas, gan gynnwys holl brif brifddinasoedd Ewrop:
- Lle da i deuluoedd â phlant ifanc fyw, ac yn
- Lle da i fewnfudwyr fyw
Fe'i gosodwyd hefyd yn y 10 uchaf mewn categorïau eraill:
- Lle da i bobl LHDTRhC fyw (pumed)
- Boddhad â mannau gwyrdd (nawfed), a
- Boddhad gyda lefel sŵn (10fed)
Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae'n dda gweld Caerdydd yn sgorio mor uchel mewn sawl maes o'r adroddiad hwn. Mae Caerdydd yn ddinas wych i fyw ynddi ac rwy'n croesawu'r canfyddiadau annibynnol hyn sy'n cefnogi hynny.
"Fel cyngor, rydym wedi gweithio'n galed i ennill statws Caerdydd fel y ddinas gyntaf yn y DU i gael statws sy'n Dda i Blant UNICEF ac, wrth gwrs, mae gennym draddodiad hir o oddefgarwch ac o groesawu mewnfudwyr i'r ddinas."
Mewn categorïau eraill, gwnaeth Caerdydd drechu dinasoedd eraill y DU, gan gynnwys y prif gategori, boddhad â chyfleusterau diwylliannol (dros 90% o'r ymatebwyr), boddhad â mannau cyhoeddus (85%), ansawdd aer, glendid a'r amser y mae'n ei gymryd i gael cais wedi’i ddatrys gan y cyngor. Roedd yr arolwg hefyd yn nodi’r ganran isaf o bobl yn ninasoedd y DU a holwyd a oedd yn cytuno bod llygredd yn y cyngor (tua 36%).
Ni pherfformiodd y ddinas cystal o ran canfyddiad o'i seilwaith trafnidiaeth, o'i gymharu â dinasoedd eraill, gydag un o'r lefelau uchaf o ran defnyddio ceir yn Ewrop (58%, y tu ôl i Tyneside a Manceinion) a'r lefel isaf o ran defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a cherdded, yn y DU.
Dwedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae Covid-19 a'r argyfwng costau byw, sy'n dal i effeithio arnom ym Mhrydain heddiw, wedi rhoi straen aruthrol ar allu'r cyngor i fwrw ymlaen â chynlluniau i wneud Caerdydd yn brifddinas gryfach, decach a gwyrddach, ond mae'n wych gweld y cynnydd rydym wedi'i wneud yn cael ei gydnabod yma ac rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i wella ein dinas i'n trigolion, ein gweithwyr a’n hymwelwyr.
"Rydyn ni hefyd yn cydnabod - fel mae'r adroddiad yn nodi - bod mwy o bobl yn defnyddio ceir yma nag mewn llawer o ddinasoedd eraill ar draws Ewrop. Gwyddom fod hyn yn achosi llygredd aer a thagfeydd a dyna pam ein bod yn adeiladu lonydd beicio ac yn gwella llwybrau cerdded, gan hefyd edrych ar ffyrdd newydd o ariannu opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus well.
"Rydym i gyd yn gwybod bod angen i opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ledled y ddinas wella os ydym am annog pobl i beidio â defnyddio’u ceir. Nid ydym erioed wedi cuddio rhag hynny, ond bydd angen i ni ddod o hyd i ffordd o ariannu'r hyn sydd ei angen, a bydd angen i ni gael sgyrsiau agored a gonest gyda thrigolion a'n cymdogion ar sut rydym yn gwneud hynny.
"Ond mae'r adroddiad hwn yn newyddion da ac yn dangos i ni i gyd fod Caerdydd ar y trywydd iawn ac yn lle gwych i fyw."
Yn ei grynodeb, dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd: "Mae cael offeryn sy'n gallu datgelu sut mae pobl yn gwerthuso ansawdd bywyd yn eu dinas yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i lunwyr polisi ar lefelau Ewropeaidd, cenedlaethol a dinasoedd, gan arwain strategaethau ar gyfer datblygu trefol cydlynol a meithrin amodau byw gwell ledled Ewrop."
I ddarllen yr adroddiad llawn, dilynwch y ddolen hon