12/1/2024
Fel rhan o'u hastudiaethau wythnos STEM, mae disgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Howardian wedi croesawu Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Jas Pal Badyal FRS.
Ymwelodd â'r ysgol i siarad am fiomimeteg a rhoddodd sgwrs ddiddorol yn arddangos sut mae gwyddonwyr yn dysgu oddi wrth natur a'i hefelychu at ddibenion peirianneg a gweithgynhyrchu.
Dysgodd y plant am rwyllau arbennig yn seiliedig ar chwilen Stenocara a all dynnu dŵr o'r awyr, a gorchudd gwrth-ddŵr eithriadol ar gyfer ffonau symudol, yn seiliedig ar wyneb bresych!
Dywedodd y pennaeth Helen Hoyle fod y sgwrs yn afaelgar. "Roedd yn anhygoel dysgu sut roedd natur bob dydd yn rhoi'r syniadau i wyddonwyr ar gyfer datrys rhai o broblemau mwy cymhleth yr oes fodern trwy archwilio natur a sut mae'n addasu i'r amgylchedd. Cafodd y plant eu hysbrydoli a'u cyffroi i weld sut y cafodd gwyddonwyr ysbrydoliaeth o'r byd o'u cwmpas.
@HowardianPS