1/11/2024
Bydd adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn argymell bod cynlluniau'n cael eu cymeradwyo i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd yn Cathays a rhannau o Gabalfa, Y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd.
Yn ei gyfarfod ddydd Iau 18 Ionawr 2024, bydd y Cabinet hefyd yn adolygu'r pum gwrthwynebiad a dderbyniwyd i'r hysbysiad statudol a gyhoeddwyd mewn perthynas â'r cynigion.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gydag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a phlant yn gynharach eleni, mae'r cynigion diweddaraf wedi'u cynllunio i wella cyfleoedd dysgu a chefnogi ysgolion sy'n wynebu pwysau ariannol yn yr ardal ar hyn o bryd.
"Os cytunir arnynt, bydd ad-drefnu pedair ysgol gynradd hefyd yn helpu i sicrhau'r cydbwysedd cywir o ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel y gellir bodloni'r galw yn yr ardal yn awr ac yn y dyfodol."
Mae'r cynigion yn cynnwys:
- Uno Ysgol Gynradd Allensbank ac Ysgol Gynradd Gladstone i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) gyda dosbarth meithrin ar safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.
- Trosglwyddo Ysgol Mynydd Bychan i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank.
- Cynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd (0.9DM) i 420 o leoedd (2DM), a chynyddu nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Mynydd Bychan o 64 i 96.
- Trosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan gan alluogi'r ysgol i gael darpariaeth feithrin, yn dilyn cytundeb Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.
Byddai'r dosbarth ymyrraeth gynnar lleferydd ac iaith a gynhelir ar hyn o bryd gan Ysgol Allensbank yn parhau a gallai drosglwyddo i'r ysgol newydd, yn amodol ar gytundeb Corff Llywodraethu'r ysgol newydd, neu gallai drosglwyddo i ysgol arall ym mis Medi 2025.
Cododd Corff Llywodraethu Ysgol Mynydd Bychan bryderon ynghylch cyflwr a chostau rhedeg adeilad ysgol Allensbank ac a ellid ei addasu i ddarparu cyfleusterau tebyg i'r rhai ar safle presennol Ysgol Mynydd Bychan.
Mae'r adroddiad yn egluro bod cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru o £1.8m wedi'i sicrhau gan y Cyngor i alluogi ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ac y byddai'n cael ei ddefnyddio i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r adeiladau a'r ardaloedd allanol. Byddai'r Cyngor yn nodi ac yn cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y buddsoddiad, mewn partneriaeth â Chorff Llywodraethu Ysgol Mynydd Bychan.
Sgôr perfformiad ynni gweithredol cyffredinol Allensbank ac Ysgol Mynydd Bychan yw 'C' gyda phob ysgol yn derbyn cyllid ar gyfer defnydd o ynni o fewn ei chyllideb ddirprwyedig.
Byddai cyllideb Ysgol Mynydd Bychan yn cynyddu yn unol â'r nifer uwch o ddisgyblion ar y gofrestr a byddai'r ysgol yn cael ei chefnogi i gynllunio a blaenoriaethu gwariant gyda swyddog rheoli ariannol lleol pwrpasol yn darparu cyngor.
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Trwy uno Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone, gellid datrys sefyllfaoedd o ddiffyg cyllideb, a buddsoddi adnoddau mewn addysgu a dysgu. Byddai'n gyfle cyffrous i ddwy ysgol gymunedol cyfrwng Saesneg ffurfio un ysgol gynradd fwy a fyddai'n sicrhau pontio esmwyth i ddisgyblion o dair oed hyd at yr ysgol uwchradd leol.
"Mae'n hanfodol bod y cyllid sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i bob dysgwr ac ni fyddai cadw'r patrwm presennol o ddarpariaeth ysgol yn darparu'r trefniant mwyaf priodol o ddarpariaeth yn yr ardal. Mae'r cynigion hyn yn caniatáu i'r Cyngor fuddsoddi ym mhob un o'r safleoedd ysgol, i gynnal a gwella ymhellach ar ansawdd uchel y ddarpariaeth a gynigir gan yr ysgolion presennol."
Cododd Corff Llywodraethu Ysgol Glan Ceubal bryderon y gallai ehangu Ysgol Mynydd Bychan effeithio ar nifer y disgyblion sy'n gwneud cais ar gyfer yr ysgol.
Mae dalgylch Ysgol Glan Ceubal o faint digonol i gefnogi ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg un dosbarth mynediad a chaniatáu ar gyfer twf yn nifer y bobl sy'n derbyn lleoedd sy'n cyd-fynd â'r targedau a osodwyd yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg cymeradwy Caerdydd. Gallai newidiadau i ddalgylchoedd yn y dyfodol gael eu dwyn ymlaen er mwyn cael cydbwysedd rhwng nifer y lleoedd sydd ar gael, a'r galw a ragwelir am leoedd, a gallai ganiatáu cynnydd yn y nifer sy'n derbyn lleoedd cyfrwng Cymraeg ar draws yr ardal ehangach.
"Dros y deng mlynedd diwethaf, cafodd y galw cynyddol am leoedd cyfrwng Cymraeg ei gefnogi trwy agor ysgolion newydd ac ehangu ysgolion cyfrwng Cymraeg presennol. Byddai'r cynigion hyn i drosglwyddo darpariaeth rhwng safleoedd sydd yn agos at ei gilydd yn helpu i ail-gydbwyso nifer y lleoedd mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg sy'n golygu y bydd nifer fwy o blant yn cael mynediad i'w hysgol leol. Yn ei dro, bydd hyn yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu addysg Gymraeg a chyflawni targedau Llywodraeth Cymru a nodwyd yn 'Cymraeg 2050' dywedodd y Cynghorydd Thomas.
"Cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau bod cydbwysedd priodol yn y nifer a mathau gwahanol o leoedd ysgol sy'n gwasanaethu pob ardal, gyda lefel gynaliadwy o leoedd dros ben. Rhaid i bob darpariaeth ysgol a gynigir ddiwallu anghenion amrywiol y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu a gwneud y gorau o botensial ei staff addysgu a dysgu i sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau, a thrwy hynny sicrhau'r effaith fwyaf ar gyfleoedd dysgwyr a chanlyniadau i bawb.
"Yn ogystal, drwy ailddefnyddio asedau presennol yn fwy effeithlon a thrwy weithio ar y cyd, byddai'r ysgolion dan sylw yn mwynhau nifer o fanteision gan gynnwys adnoddau a chyfleoedd dysgu gwell ar gyfer disgyblion a staff. Mae'r cynnig yn cadw'r holl adeiladau presennol fel y gall cymuned yr ysgol fod â sicrwydd y bydd digon o leoedd i ymateb i unrhyw newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol."
Gallai'r newidiadau arfaethedig ar gyfer pob opsiwn ddod i rym o fis Medi 2025.