The essential journalist news source
Back
19.
December
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 19 Rhagfyr 2023

Dyma'r diweddaraf, gan gynnwys:

  • Lansio Cynllun Byw yn y Gymuned o'r radd flaenaf cyntaf y Cyngor
  • Cyngor Caerdydd yn gweithredu argymhellion adfer natur Coed Cadw
  • Hyrwyddwr Pleidleisio Hygyrch Cyntaf ar gyfer Prif Weithredwr y Cyngor

 

Lansio Cynllun Byw yn y Gymuned o'r radd flaenaf cyntaf y Cyngor

Lansiwyd y cyntaf o ddatblygiadau Byw yn y Gymuned o'r radd flaenaf Cyngor Caerdydd ar gyfer pobl hŷn yn swyddogol ddydd Mawrth, 19 Rhagfyr.

Ymunodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, a'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, â Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AoS, ,  a Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Wates, Edward Rees, gyda'r Cyfarwyddwr Datblygu Stuart Jones yn Addison House i ddadorchuddio plac yn nodi agoriad swyddogol y cynllun newydd - y cyntaf o ddeg cynllun adeiladu newydd sy'n cael eu cyflawni gan y Cyngor fel rhan o'i Raglen Datblygu Arloesol. Mae'r cynlluniau newydd yn ymateb yn uniongyrchol i'r anghenion a nodwyd yn strategaeth tai Pobl Hŷn y cyngor.

Mae Addison House yn cynnwys 44 o fflatiau ynni-effeithlon, un a dwy ystafell wely iawn ar gyfer rhent y cyngor, wedi'u hadeiladu i'r safon uchaf mewn adeilad pedwar llawr ar ddatblygiad newydd Llwyn Aethnen, oddi ar Heol Casnewydd yn Nhredelerch. Mae'r datblygiad yn rhan o raglen partneriaeth Cartrefi Caerdydd y Cyngor gyda'r datblygwr cenedlaethol, Wates Group.

Wedi'i enwi ar ôl Deddf 'Addison' 1919, a oedd yn gyfrifol am awdurdodau lleol i ddatblygu cartrefi newydd i wrthsefyll prinder tai ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd y bloc hynod  arloeso newyddl yn darparu fflatiau eang, hygyrch ac addasadwy i bobl hŷn, gan hyrwyddo byw'n annibynnol, yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol gan gynnwys lolfeydd, teras to sy'n edrych dros Fôr Hafren, ystafell feddygol a gardd gymunedol fawr.

Mae cynllun datblygu penigamp Llwyn Aethnen wedi elwa o fwy na £4m drwy gynllun datblygu Cronfa Gofal Tai Llywodraeth Cymru. Mae Cartrefi Caerdydd wedi gweithio gyda chwmni gwasanaethau ynni cynaliadwy o Gaerdydd, Sero, i ymgorffori technolegau carbon isel ym mhob un o'r 214 eiddo ar y safle, gan gynnwys y 65 o dai cyngor. 

Gan gyfrannu at strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor i fod yn ddinas garbon niwtral erbyn 2030 a dull parhaus Wates o ddatblygu carbon isel/ynni, mae pob cartref ar y datblygiad yn ymgorffori pympiau gwres o'r ddaear, storio thermol, paneli ffotofoltäig, pwyntiau gwefru cerbydau trydan storio batri a rheolaethau System Ynni Deallus, gan eu gwneud yn fwy caredig i'r blaned, yn annibynnol ar danwydd ffosil ac yn fwy fforddiadwy i drigolion eu rhedeg.

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor Caerdydd yn gweithredu argymhellion adfer natur Coed Cadw

Mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu papur polisi Coed Cadw a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n nodi pwysigrwydd coed a choedwigoedd ar gyfer adfer natur yng Nghymru ac sy'n gwneud pum argymhelliad allweddol ar gyfer awdurdodau lleol.

Argymhellion Coed Cadw ar gyfer Awdurdodau Lleol yw:

Datgan argyfwng natur wrth baratoi ar gyfer Deddf Natur Gadarnhaol ac ymgorffori yn Strategaeth Coed a Choetir y Cyngor y camau sydd eu hangen i adfer natur.

Cyflogi ecolegydd arbenigol a swyddog coed i sicrhau bod bioamrywiaeth wrth wraidd pob penderfyniad.

Darparu mwy o fentrau ar y cyd â sawl tirfeddiannwr, yn enwedig mewn parciau cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEau), gan ddefnyddio gorchudd coed i helpu i yrru adfer natur ar raddfa tirwedd a chyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd mewn Datganiadau Ardal.

Mewn ardaloedd trefol, gwarchod coed a choedwigoedd a chynefinoedd lled-naturiol cysylltiedig, a chefnogi dulliau rheoli cadwraeth gweithredol trwy gymhwyso canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn drwyadl i leihau'r pwysau ar natur.

Cyd-ddylunio a gweithredu strategaethau coed gyda chymunedau - gan ddatblygu dealltwriaeth a gwydnwch cymunedol ar draws pob adran a darparu mwy o fynediad i fyd natur wrth gefnogi ymdrechion i'w adfer.

Yr hyn rydym wedi'i wneud:

  • Datgan argyfwng natur.
  • Cyflogi swyddogion coed ac ecolegydd.
  • Gweithio gyda chymunedau i nodi safleoedd posibl a mathau o goed, ar gyfer plannu.
  • Plannu 50,000 o goed newydd fel rhan o'n prosiect coedwig drefol 'Coed Caerdydd' gyda chymorth gwirfoddolwyr cymunedol sydd hefyd yn darparu gofal ychwanegol ar gyfer y coed wrth iddynt dyfu.
  • Sefydlu Planhigfa Goed newydd yn Fferm y Fforest.
  • Cytuno i amddiffyn ymhell dros 5,500 hectar o gefn gwlad a dyffrynnoedd afonydd yn y ddinas rhag cael eu datblygu fel rhan o'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer ein Cynllun Datblygu Lleol newydd.
  • Hyfforddi gwirfoddolwyr i adnabod coed hynafol a hynod yng Nghaerdydd.

Ein nod:

  • Plannu 30,000 o goed ychwanegol yn ystod y tymor plannu hwn.
  • Cynyddu gorchudd y canopi coed yng Nghaerdydd o 18.9% i 25% erbyn 2030, trwy blannu ardal o oddeutu 839 hectar gyda rhywogaethau brodorol o goed yn bennaf.
  • Tyfu ein cyflenwad ein hunain o goed brodorol lleol o hadau, i'w plannu yng Nghaerdydd.
  • Sicrhau bod pob datblygiad yn cyflawni cynnydd net mewn bioamrywiaeth.
  • Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol sy'n nodi'r camau sydd eu hangen i gynnal natur yng Nghaerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Hyrwyddwr Pleidleisio Hygyrch Cyntaf ar gyfer Prif Weithredwr y Cyngor

Mae Paul Orders o Gyngor Caerdydd wedi dod yn brif weithredwr cyntaf awdurdod lleol y DU i ddod yn Hyrwyddwr Pleidleisio Hygyrch.

Mr Orders yw'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer pob etholiad a gynhelir yng Nghaerdydd a thrwy ddod yn Hyrwyddwr Pleidleisio Hygyrch gydag elusen anabledd y DU, United Response, mae wedi addo helpu i wneud pleidleisio ac etholiadau yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau ac awtistiaeth yn y ddinas.

Mae Fy Mhleidlais Fy Llais yn ymgyrch genedlaethol i helpu i ddod â phleidleisio anhygyrch i ben ar gyfer cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a ddatblygwyd gan United Response, Dimensions, Mencap, Ambitious About Autism a'r bobl sy'n manteisio ar eu cefnogaeth a'u gofal.

Ar ôl ymgymryd â rôl y Swyddog Canlyniadau yn 2019 ac fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i gyfle cyfartal, mae Mr Orders wedi goruchwylio'r ymgyrch i wella ymgysylltiad â'r broses ddemocrataidd yng Nghaerdydd a hygyrchedd y broses ddemocrataidd.

Os ydych chi'n rhan o grŵp neu sefydliad cymunedol ac yn dymuno cael gwybod mwy am waith y Cyngor ar bleidleisio hygyrch, cysylltwch â Swyddog Ymwybyddiaeth y Cyhoedd, Selma Abdalla drwy e-bostio  Selma.abdalla@cardiff.gov.uk

I gael gwybod mwy am ymgyrch Fy Mhleidlais Fy Llais, ewch i  https://www.myvotemyvoice.org.uk/

Darllenwch fwy yma