The essential journalist news source
Back
12.
December
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 12 Rhagfyr 2023

Dyma'r diweddaraf, gan gynnwys:

  • Sky i agor Hyb Digidol Sky Up cyntaf yng Nghymru mewn partneriaeth â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd
  • Heriau digynsail yn arwain at argyfwng tai yn y ddinas
  • Y Cyngor yn cynllunio Canolfan newydd i hyrwyddo byw'n annibynnol

 

Sky i agor Hyb Digidol Sky Up cyntaf yng Nghymru mewn partneriaeth â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd

Mewn partneriaeth â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd, mae Sky wedi agor ei hyb digidol cyntaf i Gymru, yng Nghanolfan Ieuenctid Eastmoor yn y Sblot. Mae'r hyb yn darparu mynediad i 27 o ddyfeisiau digidol newydd, cysylltiad WiFi Sky am ddim a gweithdai sgiliau digidol rheolaidd, sy'n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr.

 

  • Bydd yr Hyb Digidol newydd yng Nghanolfan Ieuenctid Eastmoor yn rhoi mynediad i bobl ifanc i gysylltiad WiFi Sky am ddim ac amrywiaeth o ddyfeisiau technoleg newydd gan gynnwys Sky Glass TV, cyfrifiaduron llechen, gliniaduron a mwy. 

 

  • Bydd gwirfoddolwyr o Wasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd a Sky yn cynnal rhaglenni uwchsgilio digidol rheolaidd. 

 

  • Mae cyflwyniad hybiau digidol Sky yn buddsoddi hyd at £100,000 ym mhob lleoliad, fel rhan o'i gronfa Sky Up gwerth £10 miliwn i fynd i'r afael ag allgáu digidol.  

 

Mae'r prosiect yn cynnwys adnewyddu gofod cymunedol Canolfan Ieuenctid Eastmoor lle mae hyd at 150 o bobl ifanc yn mynychu sesiynau a chyrsiau bob wythnos.  Mae'r Sblot wedi cael ei rhestru fel y deuddegfed ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru gyda 42% o blant a phobl ifanc yn byw mewn tlodi.   

Yn y seremoni agoriadol swyddogol, torrwyd rhuban gyda'r Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc a chwaraewr canol cae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chapten tîm cenedlaethol Cymru, Aaron Ramsey a rododd araith gyweirnod ar bwysigrwydd darparu mannau fel Yr Hyb i helpu cymunedau i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

Yn ystod yr agoriad swyddogol rhoddwyd cyfle i westeion archwilio Esports Gaming, cerddoriaeth, codio/rhaglennu, creu digidol, profiadau chwaraeon realiti rhithwir a realiti estynedig.  

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc : "Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb digidol, lleddfu rhwystrau i addysg a rhagolygon y dyfodol a allai fod yn gysylltiedig â chael eu hallgáu'n ddigidol. Yn ystod cyfnodau clo'r pandemig, darparwyd dros 30,000 o ddyfeisiau i ysgolion fel y gallai plant a phobl ifanc barhau i ddysgu wrth bod ysgolion ar gau, un o lawer o fentrau sy'n cefnogi cydnabyddiaeth ddiweddar Caerdydd fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf y DU. 

"Mae'r hyb digidol newydd yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth a bydd yn darparu gofod newydd gwych i bobl ifanc o Ganolfan Ieuenctid Eastmoor, ac amrywiaeth o gyfleoedd gan gynnwys technoleg a chysylltedd am ddim.   Yn ogystal â mynd i'r afael â fforddiadwyedd, bydd y rhaglen gyffrous o sesiynau digidol yn helpu i ddatblygu sgiliau a hyder ar gyfer y dyfodol." 

Darllenwch fwy yma

 

Heriau digynsail yn arwain at argyfwng tai yn y ddinas

Mae Caerdydd yn wynebu sefyllfa o argyfwng tai, gyda phwysau eithriadol ar wasanaethau digartrefedd a galw parhaus amdanynt.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, mewn cyfarfod diweddar o'r Cyngor Llawn fod y ddinas yn wynebu cyfnod 'anhygoel o heriol', ond nid Caerdydd yw'r unig ddinas i ddioddef. Mae dinasoedd mawr eraill fel Glasgow a Chaeredin hefyd yn datgan argyfwng tai.

"Mae Caerdydd yn llygad storm y mater hwn yng Nghymru," meddai'r Cynghorydd Thorne. "Dyma'r cyfnod mwyaf heriol o ran tai ers degawdau.

"Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i ateb ac mae ystod o gamau gweithredu'n cael eu cynnig i leddfu'r pwysau hyn."

Oherwydd prinder tai fforddiadwy a chan fod perchentyaeth allan o gyrraedd llawer o bobl, mae nifer ddigynsail o deuluoedd ac unigolion yn ddigartref yn y ddinas ac mae angen cymorth gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cymryd camau i gynyddu argaeledd ac ansawdd llety dros dro yn y ddinas yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly erbyn hyn mae yna tua 1,700 o unedau llety dros dro ar gyfer teuluoedd, unigolion a phobl ifanc. Mae dwy ganolfan ddigartrefedd ychwanegol i deuluoedd wedi cael eu hagor eleni'n unig.

Er gwaethaf y cyflenwad da hwn o lety dros dro, mae'r ddarpariaeth yn llawn a disgwylir i'r pwysau sy'n dod i'r amlwg roi mwy fyth o straen ar wasanaethau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Darllenwch fwy yma

 

Y Cyngor yn cynllunio Canolfan newydd i hyrwyddo byw'n annibynnol

Mae Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn cynnig adeiladu Canolfan Lles Byw'n Annibynnol newydd gwerth £14.5m i helpu mwy o bobl i gael gofal yn eu cartrefi eu hunain a lleddfu'r pwysau ar ysbytai a chyfleusterau gofal.

Mae adroddiad newydd, a fydd yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau (14 Rhagfyr), yn amlinellu'r angen i gefnogi byw'n annibynnol, fel y nodir yn Strategaeth Heneiddio'n Dda'r Cyngor. Wedi'u cynnwys yn y cefnogaeth hon mae cynlluniau i adeiladu canolfan newydd yn Grangetown i gynnwys:

  • Warws ar gyfer offer sydd ei angen i alluogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain ar ôl derbyn gofal;
  • Hyb Lles sy'n cynnig gwasanaethau gan gynnwys therapi, dosbarthiadau a chyfleusterau cymunedol; a
  • Chanolfan arddangos 'tŷ clyfar' newydd sy'n arddangos cymhorthion, addasiadau ac atebion ar gyfer byw'n annibynnol.

 

Byddai'r prosiect partneriaeth yn darparu offer a chymorth ailalluogi mawr eu hangen ar draws y rhanbarth, gan hwyluso'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty yn gynnar a lleihau'r angen am wasanaethau gofal.

Byddai cyfleuster newydd yn canoli danfoniadau ac yn dod ag elfen glanhau ac ailgylchu'r gwaith yn fewnol, ac ar yr un pryd bydd yn darparu swyddi y mae mawr eu hangen i bobl ag anghenion ychwanegol a/neu anabledd dysgu.

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Cymdeithasol (Oedolion), y byddai'r ganolfan newydd, os caiff ei chymeradwyo, yn hwb enfawr i wasanaethau iechyd yng Nghaerdydd a'r Fro. "Rydyn ni i gyd yn gwybod bod cynnydd rhagamcanol yn nifer y bobl hŷn a'r rhai sy'n byw gyda salwch a dementia sy'n cyfyngu ar fywyd," meddai.

"Erbyn hyn, mae'r gwasanaethau i ofalu am y bobl hyn a'u galluogi i fyw'n annibynnol gartref wedi tyfu'n fwy na'u cyfleusterau presennol ac mae angen canolfan newydd arnom sy'n hygyrch i drigolion Caerdydd a'r Fro.

"Byddai'r safle arfaethedig yn natblygiad y Gasworks yn Grangetown yn cyflawni ein holl ofynion gyda chyfleuster o'r radd flaenaf sy'n darparu popeth sydd ei angen ar y gwasanaeth mewn un lleoliad."

Darllenwch fwy yma