Back
5.
December
2023.
Trefniadau Derbyn i Ysgolion yng Nghaerdydd ar gyfer 2025/26
5/12/2023
Mae ymgynghoriad yn fyw sy'n gyfle i bobl ddysgu am newidiadau arfaethedig i Drefniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-2026
Mae gofyn i Awdurdodau Lleol adolygu eu Trefniadau Derbyn i Ysgolion yn flynyddol. Mae'r newidiadau arfaethedig i drefniadau 2025/26 yn cynnwys:
- Dileu'r adran ar blant sy'n derbyn datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
- Eglurhad ar drefniadau derbyn i ysgolion cydlynol
- Eglurhad ar newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd
- Gwybodaeth am y trefniadau derbyn ar gyfer Ysgol Gynradd Groes-wen
- Eglurhad ar seiliau meddygol/cymdeithasol cymhellol
- Ychwanegu paragraff ar frodyr a chwiorydd yn yr un flwyddyn ysgol nad ydynt yn frodyr a chwiorydd genedigaeth luosog
- Eglurhad ar gyflwyno dogfennau sy'n ymwneud â chyfeiriad cartref Plentyn
Mae'r cyfnod ymgynghori yn rhedeg tan ddydd Gwener, 19 Ionawr 2024.
Mae manylion yr ymgynghoriad ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen yma: www.caerdydd.gov.uk/trefniadauderbyn
Gall aelodau'r cyhoedd roi eu barn drwy e-bostio ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk neu drwy'r post i'r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgol, Ystafell 463, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW
Contact
Newyddion CaerdyddCategory
Children, Youths & Family Life
Work & Education