30.10.23
Fampirod, bleidd-ddynion, sombis, yr Ieti, Bigfoot,
ac Anghenfil y Loch Ness. I’r rhestr
yma o greaduriaid cas yma, allwn ni nawr ychwanegu chwilen Ynys Echni sy’n
bwydo ar gig a gwaed?
Wel,
ddim yn hollol. Ond roedd newyddiadurwyr
wedi cyffroi’n lân am y pryfetyn prin yma yn y cyfryngau cenedlaethol ac yn ein
hannog i redeg nerth ein traed y mis yma yn dilyn gwyddonwyr yn gwneud y
darganfyddiad yng ngwarchodfa bywyd gwyllt yr ynys.
Rydyn
ni'n gwybod mai dyma'r tymor gwirion - pan mae stori fach yn gallu troi’n
benawd arswyd yn hawdd - ond y rhybuddion am y chwilen yma oedd y pryf enghraifft
eleni!
Dyfynnwyd
swyddog ymgysylltu cymunedol Ynys Echni, Sarah Morgan, – yn gywir – yn
disgrifio'r pryfyn (enw tacsonomeg: dermestes undulatus) fel "nid
i’r gwangalon", ond gan ychwanegu, "mae'r chwilod bychain hyn yn
bwydo ar groen ac esgyrn anifeiliaid marw. O’r herwydd, maen nhw’n dipyn o boen
mewn amgueddfeydd, ond maen nhw’n hynod ddefnyddiol mewn gwyddoniaeth fforensig
i helpu i benderfynu pa mor hir mae corff wedi bod yn llonydd.”
Fe
ysgogodd hynny o leiaf dau bapur newydd cenedlaethol i gyhoeddi 'rhybudd', a
rhoi cynorthwyydd bach y corffdy yn yr un cae chrancod mitten Tsieineaidd
ymledol a'r pryfed gwely sy'n creu panig ar hyn o bryd o strydoedd Paris i
fysiau Manceinion!
Dywedodd
Sarah: "Dim ond 5-7mm o hyd yw'r
creaduriaid bach hyn, ond maen nhw’n gwbl ddiniwed a dim ond yn bwydo ar gnawd
marw.
"Ac
oherwydd eu bod yn bwydo ar garcasau, mae'r chwilod hyn yn gwneud gwaith pwysig
iawn o glirio deunydd sy'n pydru yn yr amgylchedd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn gwarchod ein
bywyd gwyllt arall ac mae'n golygu eu bod yn rhan naturiol a phwysig o'r
ecosystem.
"Gallaf
eich sicrhau nad ydyn nhw'n ddim byd i'w ofni a dim ond ychwanegu at y
bioamrywiaeth anhygoel sydd gennym ar Ynys Echni, gan gynnwys llyngyr araf, y
tryffl Scarlet Berry prin a chennin gwyllt."
Os ydych chi am ymweld ag Ynys Echni a gweld harddwch yr ynys, mae'n bosibl mwynhau diwrnod neu deithiau dros nos trwy gydol y flwyddyn. Mae pob arhosiad dros nos yn cynnwys hunanarlwyo a thaith nôl mewn cwch, rhannu llety hostel, a hyfforddiant a gweithgareddau gyda hyfforddwyr profiadol. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.ynysechni.com
Ffeil Ffeithiau Ynys Echni
- A hithau ond yn un rhan o ddeg o filltir sgwâr mae gan Ynys Echni hanes mawr. Bu’n drigfan am y tro cyntaf yn ystod yr Oes Efydd (900-700CC) ac yn y 5ed-6ed Ganrif OC roedd yn encil i Sant Cadoc a fu’n byw ar ei ben ei hun ar yr ynys
- Mae gan yr ynys gysylltiadau â'r Eingl-Sacsoniaid a'r Llychlynwyr, ac ym 1542 rhoddodd Harri’r VIII brydles i Edmund Tournor i ffermio ar yr ynys
- Yn y 18fed Ganrif roedd yn safle delfrydol ar gyfer smyglo
- Er gwaethaf y goleudy a adeiladwyd ym 1737, mae wedi gweld nifer o longddrylliadau. Ym 1817, suddodd y slŵp Brydeinig William a Mary ar ôl bwrw’r creigiau oddi ar Ynys Echni gan golli 54 o deithwyr ac mae 50 ohonynt wedi'u claddu ar yr ynys.
- Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gosodwyd 350 o filwyr y Magnelwyr Brenhinol ar yr ynys i amddiffyn llyngesau gosgordd rhwng Caerdydd, Y Barri ac Ynys Echni.
- Yn 2008, ym mhennod 'Adrift' o sgil-gynhyrchiad Dr Who y BBC, Torchwood, cafodd yr ynys ei chynnwys fel cartref i gyfleuster meddygol cyfrinachol.
- Ar hyn o bryd mae'r ynys yn cael ei rheoli gan Gyngor Caerdydd, ac yn cael ei chynnal drwy Brosiect Ynys Echni, sy'n elusen gofrestredig