Heddiw, gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi'n falch fod y ddinas wedi'i datgan yn swyddogol yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF -y gyntaf o'r fath yn y DU.
Mae'r statws clodfawr a gydnabyddir yn rhyngwladol wedi'i ddyfarnu i Gaerdydd i gydnabod y camau y mae'r cyngor a'i bartneriaid wedi'u cymryd dros y pum mlynedd diwethaf i ddatblygu hawliau dynol plant a phobl ifanc ledled y ddinas.
Ymunodd Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid â Phwyllgor y DU ar gyfer rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant UNICEF (UNICEF UK) yn 2017 fel rhan o garfan arloesol. Ers hynny, mae wedi bod yn gweithredu strategaethau i wreiddio hawliau plant - fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn - yn ei bolisïau a'i wasanaethau.
Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc y ddinas, mae Caerdydd wedi blaenoriaethu chwe maes allweddol: Arweinyddiaeth a Chydweithrediad; Cyfathrebu; Diwylliant; Iechyd; Teulu a Pherthyn; Addysg a Dysgu.
Mae'r blaenoriaethau a'r nodau hyn wedi'u hymgorffori yn Strategaeth sy'n Dda i Blant Caerdydd ers 2018. Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y ddinas, cynhaliwyd nifer sylweddol o brosiectau, mentrau a chamau gweithredu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar eu hawliau, ffynnu a chyrraedd eu potensial, tra'nmynd i'r afael â'r rhwystrau a allai gyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd.
Dywedoddy Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Ers lansio Strategaeth sy'n Dda i Blant Caerdydd, mae'r ddinas wedi cychwyn ar daith o drawsnewid gyda'r nod i bob plentyn, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, deimlo'n ddiogel, bod ganddynt lais, eu bod yn cael eu meithrin a'u bod yn gallu ffynnu,i fod yn fan lle mae eu hawliau yn cael eu parchu gan bawb.
"Trwy uchelgais gyffredin gwasanaethau cyhoeddus eraill, mae gwaith helaeth wedi'i wneud i sicrhau bod Caerdydd yn fan lle mae pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo'u cred, ethnigrwydd, cefndir neu gyfoeth, yn ddiogel, yn iach, yn hapus ac yn gallu rhannu llwyddiant y ddinas gyda chyfle cyfartal i wneud y gorau o'u bywydau a'u doniau.
"Sylfaen y newid hwn oedd datblygudiwylliant sy'n parchu hawliau ar draws y cyngor ac ymysg partneriaid ledled y ddinas i sicrhau bod ein staff yn wybodus ac yn hyderus ynghylch hawliau a'r broses o'u harfer. Cefnogwyd hyn gan bolisi sydd wedi grymuso plant a phobl ifanc i gymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sy'n bwysig iddynt, gan alluogi gwasanaethau i fodloni eu hanghenion ac oedolion i fod yn fwy atebol am y ffordd y mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu diogelu a'u cyflawni."
Mae rhai uchafbwyntiau hyd yn hyn yn cynnwys;
- Mae 40,000 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn rhaglenni lles gan gynnwys digwyddiadau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.
- Mae 42,254 o blant a phobl ifanc wedi cael cymorth a chefnogaeth gynnar drwy'r Porth Cymorth i Deuluoedd newydd ers mis Ebrill 2019.
- Mae 66,324 o blant 5-14 oed wedi manteisio ar ddarpariaeth chwarae'r awdurdod lleol ers mis Ebrill 2020
- Mae 73% o ysgolion Caerdydd yn gweithio i wreiddio hawliau plant fel rhan o Wobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF UK.
- Mae 3,995 o blant a phobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant cyfranogiad a hawliau
- Mae bron i 14,000 o oriau dinasyddiaeth weithgar wedi cael eu rhoi gan bobl ifanc drwy grwpiau gan gynnwys y Panel Dinasyddion Plant a Phobl Ifanc, Dylanwadwyr Caerdydd a'r Cyngor Ieuenctid Plant.
- Mae 4,807 aelod o staff y Cyngor wedi derbyn hyfforddiant hawliau
- Mae dros 700 o gyfleoedd wedi bod i blant a phobl ifanc gyfrannu'n ystyrlon at y broses o wneud penderfyniadau yng Nghyngor Caerdydd.
- Rydym wedi dod â 50 tîm o blant ynghyd i ddylunio ardaloedd newydd o'r ddinas drwy Minecraft Education
- Mae 2,785 o blant wedi cymryd rhan mewn dylunio, monitro a gwerthuso gwasanaethau'r Cyngor
- Mynegodd 12,000 o bobl ifanc farn trwy'r Arolwg Dinas sy'n Dda i Blant.
- Mae mwy na 155,000 mil o becynnau o gynhyrchion wedi'u dosbarthu i ysgolion i gefnogiAddewid Caerdydd i hyrwyddo urddas mislif ers mis Mawrth 2019.
- Mae 19 o strydoedd wedi cael eu gwneud yn fwy diogel drwy'r Cynllun Strydoedd Ysgol, gan helpu i leihau traffig yng nghyffiniau 22 ysgol.
- Mae naw Llwybr Stori awyr agored wedi cael eu datblygu ledled y ddinas i deuluoedd eu mwynhau.
- Mae mwy na 2861 o blant wedi cael mynediad at dros 90 o weithgareddau allgyrsiol am ddim drwy'r fenter Pasbort i'r Ddinas gan eu helpu i ddatblygu ymdeimlad o falchder yn eu cymuned a'u dinas.
- Mae 43 o bartneriaid wedi cyflwyno cannoedd o fentrau ar gyfer pobl ifanc mewn meysydd fel gwyddoniaeth a thechnoleg, y celfyddydau a diwylliant ac iechyd a lles i gyfoethogi eu profiadau dysgu yn yr ystafell ddosbarth a'r tu hwnt.
Ychwanegoddy Cynghorydd Thomas: "Mae ennill statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn garreg filltir allweddol yng nghynlluniau hirdymor Caerdydd o ran ei strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant. Mae'r gwaith o wneud dinas lle mae lleisiau, anghenion, blaenoriaethau a hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, rhaglenni a phenderfyniadau wedi datblygu'n sylweddol ond mae gwaith i'w wneud o hyd ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wireddu hawliau plant ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu ein hymagwedd at hawliau ymhellach.
"Hoffwn longyfarch a diolch i dîm Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd a'n holl sefydliadau partner sydd wedi helpu i wireddu uchelgeisiau'r ddinas ac sydd wedi creu hanes, gan roi Caerdydd ar y map am ei gwaith caled a'i phenderfyniad i roi plant yn gyntaf ym mhopeth a wnawn."
Dywedoddy Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Ddeng mlynedd yn ôl, rhoddodd Cymru hawliau plant wrth wraidd eu cyfreithiau gyda holl weinidogion Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cenedlaethol mawr yn talu sylw i hawliau plant ym mhopeth a wnânt. Mae Caerdydd wedi adeiladu ar y diwylliant hwn ac ers 2018 rydym wedi cyflawni pethau gwych er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan y pandemig.
"Mae ein Hadferiad Covid, er enghraifft, wedi bod yn un o lawer o strategaethau sy'n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc sy'n arbennig o agored i niwed, gan ddatblygu atebion sy'n ceisio gwella canlyniadau addysg ac iechyd a rhoi'r gefnogaeth iawn i deuluoedd ar yr adeg iawn.
"Rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o brofiadau byw ystod ehangach o blant a phobl ifanc i hyrwyddo eu hurddas ac rydym wedi ymdrechu i hyrwyddo'r pwysigrwydd o fabwysiadu ymagwedd hawliau plentyn ar draws gwasanaethau, polisi a rhaglenni.
"Mae cael cydnabyddiaeth Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF ffurfiol yn goron ar bron i bum mlynedd o waith caled, ymrwymiad ac ymroddiad gan dimau ledled y ddinas sydd wedi gweithio'n ddiflino i gyflawni'r statws hwn.
"Dylai Caerdydd deimlo'n falch a chyffrous iawn wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol sy'n dda i blant, lle byddwn yn parhau â'n huchelgais o wneud Caerdydd yn ddinas y mae plant a phobl ifanc wrth ei chalon a lle mae lleisiau, anghenion a hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu parchu."
Dywedodd Jon Sparkes, Prif Weithredwr Pwyllgor y DU dros UNICEF (UNICEF UK): "Mae dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf y DU yn dyst i'r ymrwymiad a'r gwaith caled sylweddol a wnaed gan Gyngor Caerdydd a'i bartneriaid dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn addewid i blant a phobl ifanc y ddinas - y bydd y cyngor yn parhau i sicrhau bod lleisiau plant wrth wraidd penderfyniadau lleol, ac i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc - yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai sydd ar yr ymylon - yn gweld bod eu hawliau'n cael eu cynnal, nawr ac yn y dyfodol."
Arthur Lilley Templeman (Is-gadeirydd) o Fwrdd Cynghori Caerdydd sy'n Dda i Blant"Mae dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn dangos y cynnydd y mae Caerdydd wedi'i wneud dros y 5 mlynedd a mwy diwethaf o ran sicrhau bod pob plentyn yn gwybod am ei hawliau ac yn gallu cael mynediad atynt. Mae lleisiau pobl ifanc wedi bod wrth wraidd y daith hon o'r cychwyn cyntaf, a dyna pam mai nawr yw'r amser i ni ddathlu ein llwyddiant a pharhau i ymgysylltu â phobl ifanc mewn ffordd ystyrlon, a chael ein hysbrydoli i barhau i wneud hawliau'n realiti yng Nghaerdydd am flynyddoedd i ddod."
I nodi cydnabyddiaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd, bydd digwyddiad dathlu yn cael ei gynnal heddiw, Ddydd Gwener 27 Hydref, yn Stadiwm Dinas Caerdydd rhwng 10.00am a 2.00pm.
Wedi'i threfnu gan Caerdydd sy'n Dda i Blant, bydd 'Gŵyl Hawliau' yn gwahodd mwy na 300 o blant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn llu o weithgareddau, gan gynnwys gweithdai, perfformiadau a gweithgareddau sy'n archwilio hawliau plant, yn ogystal â gwobrau cyntaf erioed Caerdydd sy'n Dda i Blant.
Bydd cynrychiolwyr o UNICEF UK, Cyngor Caerdydd a Chymdeithas Ddinesig y ddinas yn ymuno yn y dathliadau ac yn llofnodi'n ffurfiol Gytundeb Cydnabyddiaeth Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF UK.
Bydd y ddinas yn disgleirio'n las i ddathlu'r achlysur gyda deunydd hyrwyddo yn strydoedd canol y ddinas, baneri'n hedfan yng Nghastell Caerdydd ac adeiladau eiconig y ddinas i gyd yn cael eu goleuo yn lliw Caerdydd sy'n Dda i Blant.
Gallwch ddysgu mwy am Caerdydd sy'n Dda i Blant yma: Caerdydd sy'n Dda i Blant
#CDYDDSynDdaiBlant