The essential journalist news source
Back
24.
October
2023.
Mae Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin yn enghraifft o arfer gorau yn ôl Estyn

24/10/2023

Mae Estyn wedi cyhoeddi chwe maes o arfer effeithiol nodedig ar gyfer Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin yn Nhrelái.

Yn dilyn ymweliad ym mis Tachwedd y llynedd, gwahoddodd Arolygiaeth Addysg Cymru dair ysgol y ffederasiwn; Riverbank, Tŷ Gwyn a Woodlands i baratoi astudiaethau achos ar rywfaint o'r gwaith cadarnhaol sy'n digwydd, fel y gall lleoliadau addysgol eraill ddysgu oddi wrthynt.

Canmolwyd Ysgol Arbennig Riverbank am ei hymdrechion mewn cysylltiad â gwaith y swyddog cyswllt â theuluoedd, yn enwedig y ffordd y mae rhieni a gofalwyr yn cael eu cefnogi o ran mynd i'r afael â'r agenda tlodi a defnydd yr ysgol o ddysgu yn yr awyr agored i fodloni anghenion disgyblion ag anghenion cymhleth a synhwyraidd.

Cydnabu'r arolygwyr gefnogaeth Tŷ Gwyn i deuluoedd, gan gynnwys y rhai sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol, a'i gwaith o fewn y cwricwlwm i gefnogi disgyblion ag anghenion cymhleth i fynd i apwyntiadau ar gyfer eu gofal personol.

Yn olaf, canmolwyd Ysgol Uwchradd Woodlands am y ffordd y mae'n cefnogi agweddau disgyblion at ddysgu, rhannu profiadau'r cwricwlwm a dysgu, a datblygu diwylliant sy'n cefnogi lles staff.

Wrth fyfyrio ar y newyddion cadarnhaol, dywedodd pennaeth Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin, Wayne Murphy: "Mae Astudiaethau Achos Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi dangos tystiolaeth o'r holl waith caled sy'n cael ei wneud gan ddisgyblion, rhieni a gofalwyr, staff, llywodraethwyr a phob partner i yrru Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin yn ei flaen. 

"Rwy'n falch iawn o bawb am eu holl waith caled. Mae manteision cydweithio a manteisio ar arbenigedd ar draws y tair ysgol, Riverbank, Tŷ Gwyn a Woodlands, yn cael effaith gadarnhaol ar wella ansawdd bywyd pawb sy'n rhan o'r Ffederasiwn."


Dywedodd Bianca Rees, Cadeirydd y Llywodraethwyr: "Mae mor wych gweld bod yr ymroddiad a'r cydweithio wedi eu cydnabod yn y fath fodd. Mae'r ffaith bod chwe astudiaeth achos wedi'u dewis o bob rhan o'r ffederasiwn yn dangos pa mor dda y mae gweledigaeth a gwerthoedd Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin wedi'u hymgorffori ym mhob un o'r tair ysgol. Y cwestiwn sydd wrth wraidd popeth yw 'beth yw'r effaith ar y plentyn?'

 

"Rwy'n hynod falch o Riverbank, Tŷ Gwyn a Woodlands, a'r gwaith caled sy'n cael ei wneud gan yr holl randdeiliaid cysylltiedig, ond yn enwedig yr holl staff sef ein hadnodd mwyaf gwerthfawr. Mae'n gyfnod cyffrous iawn, mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yma yn cael effaith gadarnhaol ar bob plentyn ag anghenion ychwanegol ledled Caerdydd a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at barhau â'r gwaith hwn gyda Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin i barhau i wneud bywydau a dysgu'n well i'n disgyblion mwyaf agored i niwed."


Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae gwaith gwych yn cael ei wneud yn Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin, o ganlyniad i gydweithio agos ar draws y tair ysgol sydd o fudd i ddisgyblion a staff ac sy'n helpu i ddatblygu a gwella capasiti arweinyddiaeth, wrth gynnal hunaniaeth unigol Riverbank, Tŷ Gwyn a Woodlands.

 

"Rwy'n falch iawn bod y gwaith cadarnhaol hwn wedi ei gydnabod gan Estyn. Mae cael un astudiaeth achos o arfer gorau wedi'i chyhoeddi yn wych ond mae cael chwech yn rhagorol ac mae hyn oherwydd gwaith caled, ymrwymiad a brwdfrydedd y staff, y llywodraethwyr a'r gymuned ysgol ehangach."

Mae'r astudiaethau achos o arfer gorau bellach wedi eu cyhoeddi ar wefan Estyn. Gallwch eu darllen yma:

Ysgol Arbennig Riverbank:

Cefnogi teuluoedd trwy'r argyfwng costau byw - https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/cefnogi-teuluoedd-trwyr-argyfwng-costau-byw

 

Defnydd yr ysgol o ddysgu awyr agored i ddiwallu anghenion cymhleth a synhwyraidd disgyblion. - https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/defnydd-yr-ysgol-o-ddysgu-awyr-agored-i-fodloni-anghenion-cymhleth-synhwyraidd

A group of kids sitting on a wooden structureDescription automatically generated

 

Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn:

Cefnogaeth i deuluoedd -https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/cefnogaeth-i-teuluoedd

 

Prosiect Ymyrraeth Drama ac Iechyd -https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/prosiect-ymyrraeth-drama-ac-iechyd

 

A person and a child looking at a lightDescription automatically generated

Ysgol Uwchradd Woodlands:

Cefnogi agweddau disgyblion at ddysgu a rhannu profiadau'r cwricwlwm a dysgu trwy ddigwyddiadau lledaenu -https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/cefnogi-agweddau-disgyblion-ddysgu-rhannu-profiadaur-cwricwlwm-dysgu-trwy

 

Datblygu diwylliant sy'n cefnogi lles staff -https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/datblygu-diwylliant-syn-cefnogi-lles-staff

A person lying on his stomach in a gardenDescription automatically generated