The essential journalist news source
Back
13.
October
2023.
Cyngor Caerdydd yn cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect ysgolion blaenllaw

13/10/23 

Mae un o brosiectau blaenllaw Cyngor Caerdydd i drawsnewid addysg ar draws y ddinas ar fin goresgyn rhwystr mawr gyda chyllid yn cael ei gymeradwyo i ddechrau adeiladu Campws Cymunedol arloesol y Tyllgoed. 

An aerial view of a large buildingDescription automatically generated

Mae adroddiad newydd, sy'n mynd gerbron Cabinet y cyngor yr wythnos nesaf (19 Hyd), yn argymell cymeradwyo cyllid a fydd yn caniatáu i'r prif waith adeiladu fynd rhagddo ar ailddatblygu safle Ysgol Uwchradd Cantonian.

Pan fydd y campws wedi'i gwblhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27, bydd yn ymgorffori tair ysgol bresennol - Cantonian, Woodlands a Riverbank - ac yn ffurfio'r prosiect mwyaf yn rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, dirprwy arweinydd y Cyngor, a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae cymeradwyo'r adroddiad hwn a rhoi sêl bendith i'r cyllid yn gam sylweddol tuag at greu campws addysgol ar y cyd cyntaf Caerdydd.

"Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn esiampl wych i weddill y ddinas ei dilyn ac yn gaffaeliad enfawr i ddisgyblion, staff a'r gymuned leol a fydd i gyd yn elwa o'r amwynderau modern, rhagorol hyn."

Yn unol â'r cynllun, bydd Campws Cymunedol newydd y Tyllgoed yn:

  • Cynyddu darpariaeth Ysgol Uwchradd Cantonian o chwe dosbarth mynediad i wyth, gyda darpariaeth chweched dosbarth ar gyfer hyd at 250 o ddisgyblion mewn adeiladau newydd
  • Ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr â Chyflwr Sbectrwm Awtistig (CSA) yn Cantonian o 20 i 30 lle mewn adeilad pwrpasol newydd
  • Trosglwyddo Ysgol Arbennig Woodlands i safle presennol Cantonian a chynyddu ei chapasiti o 140 i 240 o leoedd mewn adeilad newydd, a
  • Throsglwyddo Ysgol Arbennig Riverbank i safle presennol Cantonian a chynyddu ei chapasiti o 70 i 112 o leoedd mewn adeilad newydd.

Bydd yr ysgol newydd yn golygu cyfleusterau o'r radd flaenaf a therfyn ar y defnydd o ystafelloedd dosbarth dros dro, yn ogystal â chynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion arbennig i bobl ifanc 4-19 oed ag anghenion dysgu cymhleth.

Bydd yna gyfleusterau chwaraeon newydd o ansawdd uchel hefyd, gan gynnwys cae rygbi 3G gyda safle i wylwyr, cae pêl-droed 7 bob ochr, a chanolfan chwaraeon a lles sy'n cynnwys neuadd chwaraeon pedwar cwrt, stiwdio weithgareddau, campfa a wal ddringo hygyrch, yn ogystal ag ardaloedd chwaraeon aml-ddefnydd. Bydd yr holl gyfleusterau hyn ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau ysgol a defnydd yr ysgol.

Yn ogystal, byddai lleoedd eraill o fewn y campws hefyd ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau ysgol:

  • Dau faes chwarae allanol i hyrwyddo profiadau therapi galwedigaethol i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol
  • Caffi cymunedol o fewn y campws
  • Man arddangos lle gallai artistiaid preswyl weithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol a disgyblion.

Bydd y safle hefyd yn cynnwys Hyb Menter galwedigaethol, gan alluogi sefydliadau partner Addewid Caerdydd y cyngor i weithio gyda disgyblion ADY, adeiladu llwybrau gyrfa a helpu'r pontio o addysg i gyflogaeth.

Y campws newydd fydd yr ysgol gyntaf yng Nghaerdydd i fod yn garbon sero-net gweithredol yn unol â safonau Llywodraeth Cymru, tra bydd y gwaith adeiladu ei hun yn cynnwys gostyngiad sylweddol mewn carbon ymgorfforedig. Bydd Campws Cymunedol y Tyllgoed yn gasgliad o adeiladau hynod ynni-effeithlon wedi'u pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan helpu Caerdydd i weithredu ar ei Strategaeth Un Blaned sy'n amlinellu uchelgais y ddinas i liniaru newid yn yr hinsawdd.

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod ar gyfer ei gymeradwyo mewn cyfarfod Cabinet ddydd Iau, 19 Hydref, am 2pm. I weld yr adroddiad llawn, agenda'r cyfarfod, a gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod ar y diwrnod,  dilynwch y ddolen hon.

Cyn penderfyniad y Cabinet, bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad am 4.30pm ddydd Mawrth, 17 Hydref. Bydd gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod ar y diwrnod ar gael  yma.