The essential journalist news source
Back
22.
September
2023.
Blwyddyn hanesyddol i'r Arglwydd Faer yn dod â llawenydd i Cŵn Tywys Cymru

22.09.23
Yn ôl unrhyw safonau, gallai'r flwyddyn y treuliodd y Cynghorydd Graham Hinchey fel Arglwydd Faer Caerdydd gael ei hystyried yn wirioneddol ryfeddol.

Gwnaeth ei gyfnod o 12 mis fel y 117fed Prif Ddinesydd gynnwys Jiwbilî Platinwm y Frenhines a'i marwolaeth, yn ogystal â'r 40fed pen-blwydd Rhyfel y Falklands, sawl ymweliad brenhinol a chyhoeddiad y Brenin newydd.

Ac eto i Graham a'r Arglwyddes Faeres – ei wraig Anne – o’r 300 a mwy o ddyletswyddau eraill a berfformiodd, y peth fwynhasant fwyaf oedd ymweld â digwyddiadau cymunedol, milwrol ac elusennol, ysgolion, cartrefi gofal a grwpiau ffydd, a chodi mwy na £85,000 ar gyfer Cŵn Tywys Cymru.

"Fel Caerdydd gydol oes, roedd yn anrhydedd ac yn fraint enfawr cael fy ethol yn unfrydol i wasanaethu ein prifddinas ac i fod wedi cael croeso mor gynnes gan filoedd lawer o bobl dros y flwyddyn," meddai.

"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'm cydweithwyr yn y ward, Mike Ash-Edwards a Julie Sangani, i'n hysgolion lleol, grwpiau busnes a chymunedol a ffrindiau a chymdogion yn y Mynydd Bychan am eu holl gefnogaeth leol.

"Roedd hi'n sicr yn flwyddyn hanesyddol a phroffil uchel, un y gwnaethon ni roi pob owns o egni i wasanaethu ein dinas wych ac yn un na fyddwn ni byth yn ei hanghofio."

Dywedodd olynydd y Cynghorydd Hinchey, yr Arglwydd Faer presennol Bablin Molik: "Cafodd Graham lwyddiant mawr gyda'i ymdrechion codi arian a bydd yr arian a gododd yn helpu i ariannu dau gi tywys. Mae cŵn tywys yn werthfawr ac yn gwneud byd o wahaniaeth i unigolion. Rwy'n dymuno'r gorau iddo ar gyfer y dyfodol ac rwy'n gobeithio y gallaf lwyddo i godi arian y mae mawr ei angen ar gyfer cynyrchiadau UCAN."

Mae UCAN (Rhwydwaith Celfyddydau Creadigol Unigryw) yn elusen berfformio a chelfyddydau creadigol arobryn ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion dall a rhannol ddall ac mae ganddo dros 700 o aelodau â nam ar eu golwg ledled Cymru. Mae'n arbenigo mewn gweithgareddau dysgu creadigol seiliedig ar ddrama i godi dyheadau a gwella hyder corfforol a lleisiol. Mae'r sefydliadau yn bodoli i brofi nad yw nam ar y golwg yn rhwystr i lwyddiant. Am fwy o wybodaeth, ac i gyfrannu at UCAN, dilynwch y ddolen