07.08.23
Gallai hen dafarn boblogaidd yng Nghaerdydd -
Castell Rompney - gael ei hachub rhag bygythiad dymchwel ar ôl i Gyngor
Caerdydd gamu i'r adwy i'w hatal rhag cael ei dymchwel.
Mae'r Rompney wedi bod yn ffefryn yn ardal Tredelerch y ddinas ers y 1870au a'r llynedd gwrthodwyd cynllun datblygwr i ddymchwel yr adeilad ac ailddatblygu'r safle gan adran gynllunio Cyngor Caerdydd ar sail y byddai'r datblygiad yn arwain at golli adeilad hanesyddol sydd o arwyddocâd sylweddol i'r gymuned leol.
Fodd bynnag, dychwelodd y datblygwr ym mis Gorffennaf eleni gyda chais newydd yn hysbysu o'u bwriad i ddymchwel yr adeilad. O dan y rheolau cynllunio presennol, nid oes angen caniatâd ar berchennog eiddo i ddymchwel eiddo y mae'n berchen arno, dim ond caniatâd gan y Cyngor i gytuno ar ddull o ddymchwel.
Nawr, mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar berchennog y Rompney, gan ddileu'r hawliau datblygiad a ganiateir hyn - yn yr achos hwn gan atal dymchwel y dafarn oni roddir caniatâd cynllunio llawn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De’Ath: "Mae'r Rompney yn adeilad o arwyddocâd hanesyddol go iawn yn yr ardal leol. Mae wedi sefyll ar Ffordd Gwynllŵg ers y 1870au ac mae trigolion yn hoff iawn ohoni, sy’n amlwg o ddyfnder y teimladau a fynegwyd yn yr ardal pan gyflwynwyd y cynlluniau cyntaf i ailddatblygu'r safle.
"Mae Rompney Castle yn adeilad, sydd, er nad yw wedi'i rhestru gan Cadw, yn llawn haeddu mesur o amddiffyniad, sef yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni drwy'r weithred hon. Byddwn ni nawr yn ymgysylltu â'r perchennog/datblygwr i geisio dod o hyd i ddyfodol cynaliadwy i'r trysor lleol hwn.
"Y mis hwn byddwn ni hefyd yn dod ag adroddiad i'r Cabinet a fydd yn ein gweld yn ailedrych ar ein rhestr leol o adeiladau o ddiddordeb hanesyddol ledled y ddinas. Nid oes gan y rhestr leol hon unrhyw beth tebyg i'r un pwerau ag adeiladau sydd wedi'u rhestru gan Cadw, ond bydd yn ein helpu i weithio gyda datblygwyr i geisio diogelu a dathlu adeiladau lleol fel tafarndai, mannau cymunedol a lleoliadau cerddoriaeth – yn enwedig y rhai sy'n gyfoethog o ran hanes dosbarth gweithiol y ddinas.
"Trwy gryfhau ein rheoliadau cynllunio a pharhau i lobïo Llywodraeth Cymru am bwerau cryfach, bydd Rhestr Leol newydd a diwygiedig yn chwarae rhan allweddol wrth gydnabod a gwarchod yr asedau hyn."
Nodiadau i Olygyddion
"Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y gall awdurdodau cynllunio ddatblygu rhestrau o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig, nad oes ganddynt warchodaeth statudol, ond sy'n gwneud cyfraniad pwysig at arbenigrwydd lleol ac sydd â'r potensial i gyfrannu at wybodaeth gyhoeddus.
Mae'r Rhestr Adeiladau Teilyngdod Leol bresennol yn cynnwys 202 o geisiadau, rhai ohonynt yn cynnwys nifer o adeiladau grŵp. Cymeradwywyd y rhestr gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Tachwedd 1997, gyda 323 o adeiladau wedi'u nodi bryd hynny. Nid yw'r rhestr wedi'i chynnal na'i hadolygu'n gynhwysfawr yn y 26 mlynedd diwethaf, er bod tua thraean o'r adeiladau hynny wedi'u rhestru gan Cadw ers hynny, gan roi diogelwch statudol iddynt.
Oherwydd y diffyg rheolaethau cynllunio cenedlaethol cymharol a roddwyd i restru'n lleol, mae rhai adeiladau wedi'u newid yn sylweddol, neu mewn achosion eithafol wedi'u dymchwel. Felly, mae'r rhestr yn gofyn am ddiwygio i fodloni'r newidiadau hyn, cynnwys rhai newydd, a chyflwyno rheolaethau newydd ar ddymchwel ac addasu lle bo hynny'n berthnasol.
Yn wahanol i adeiladau rhestredig, nid yw adeiladau
ar y rhestr leol yn destun unrhyw reolaethau cynllunio ychwanegol ar newid neu
ddymchwel. Mae'r statws yn golygu, wrth asesu ceisiadau cynllunio, y gellir ystyried
diddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol arbennig yr adeilad cyn gwneud
penderfyniad.