The essential journalist news source
Back
18.
August
2023.
Cyfleoedd cyflogaeth i rymuso pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

18/8/2023

Mae cynllun sy'n rhoi'r cymorth a'r hyfforddiant angenrheidiol i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) er mwyn iddynt allu cael cyflogaeth yn llwyddiannus wedi dechrau'n llwyddiannus.

Mae'r Llwybr Cyflogaeth â Chymorth Hyblyg yn gynllun gan Gyngor Caerdydd a ddarperir gan Addewid Caerdydd mewn partneriaeth â Thîm ADY ôl-16 yr Awdurdod Lleol a Gwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd, fel y partner cyflogaeth.

Mae'r cynllun yn cynnig hyfforddiant a lleoliadau profiad gwaith am 12 mis i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu awtistiaeth, a'i nod yw eu paratoi a'u cefnogi wrth iddynt bontio o'r ysgol i gyflogaeth amser llawn.

Ers ei lansio ym mis Mai, mae pedwar disgybl 16-18 oed o'r Canolfannau Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Uwchradd Cantonian a Llanisien wedi ennill profiad ymarferol mewn cegin fasnachol ac wedi cael hyfforddiant sgiliau gwaith, gan gynnwys y Cymhwyster Hylendid Bwyd Lefel 2.

Byddan nhw bellach yn cael mynediad i gyfle unigryw, ac yn pontio i gyflogaeth â thâl drwy'r fenterBwyd a Hwyl, rhaglen cyfoethogi gwyliau'r ysgol arobryn Caerdydd sy'n cynnig darpariaeth iechyd a lles i blant yn ystod gwyliau'r ysgol.

Yn ogystal â'r manteision a welir gan y dysgwyr dan sylw, mae'r cynllun hefyd yn galluogi'r Gwasanaeth Arlwyo Addysg i gael mynediad at weithlu nad oedd yn cael ei gydnabod o'r blaen, gan hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn eu staff.

Ar ddiwedd gwyliau'r haf, bydd y bobl ifanc yn cael cymorth i wneud cais am swyddi gwag o fewn y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion a thu hwnt.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae'r Llwybr Cyflogaeth â Chymorth Hyblyg yn cyfrannu at amcanion Caerdydd i gefnogi plant a phobl ifanc sydd angen darpariaeth ac arweiniad ychwanegol, trwy ddarparu cyfleoedd diriaethol a mynediad at leoliadau profiad gwaith o ansawdd da fel y gallant symud ymlaen i ddod o hyd i gyflogaeth yn y dyfodol.

"Yn ogystal â rhoi cyfle i ddysgwyr gael profiad o amgylchedd gwaith a'r hyn a ddisgwylir ganddynt, fe'u hanogir hefyd i integreiddio fel gweithiwr, gan ymgymryd â'r dyletswyddau y byddai aelod cyflogedig o staff yn eu cyflawni. Mae hyn yn meithrin annibyniaeth a hyder, gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth iddynt i ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.

"Mae'r cynllun yn dibynnu ar sefydliadau i ddod ymlaen i gefnogi a chynnal lleoliadau, ac yn ei dro mae'n rhoi cyfle i gyflogwyr ehangu amrywiaeth eu gweithlu eu hunain, hwyluso cysylltiadau cymunedol, cydlyniant a chyfrannu at wella canlyniadau ein cymunedau ledled y ddinas. Maent yn amhrisiadwy o ran helpu i gefnogi mwy o bobl ifanc i ddod yn uchelgeisiol, yn alluog ac yn barod i weithio wrth hyrwyddo unigolion hyderus sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o'n cymunedau."

Dywedodd Charlie Batten, Pennaeth y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Uwchradd Llanisien: "Gall disgyblion ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a chael cyfle i ennill cymwysterau sy'n berthnasol i'r diwydiant fel hylendid bwyd yn ystod eu lleoliadau.

"Mae'r prosiect yn cynnig cyfle hanfodol i'r bobl ifanc yn ein darpariaeth ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i weithio'r diwydiant arlwyo."

Dywedodd Lucy Warner, Rheolwr Arlwyo yn Ysgol Uwchradd Llanisien: "Sylwais fod cael Kai gyda ni wedi rhoi hwb i forâl gweddill y tîm, mae ei gwmni'n wirioneddol fel chwa o awyr iach, rydyn ni i gyd wrth ein bodd yn sgwrsio gyda fe ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar ein gweithle." 

Caiff pobl ifanc eu cyfeirio i'r Llwybr Cyflogaeth â Chymorth Hyblyg gan eu hysgol rhwng 16 a 18 oed.

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwch gefnogi'r cynllun, cysylltwch âcarly.davies@caerdydd.gov.ukneutcallender@caerdydd.gov.uk

Mae'r llwyfan wedi'i ddatblygu gan Addewid Caerdydd, sef menter y Cyngor i ddwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ymmydgwaith.