The essential journalist news source
Back
17.
August
2023.
Llongyfarchiadau gan Gyngor Caerdydd ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch 2023

17/8/2023

Mae dros 3,000 o ddisgyblion ledled Caerdydd wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol heddiw ac mae'r canlyniadau yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Eleni yw'r ail flwyddyn i ddysgwyr gynnal arholiadau haf wedi'u marcio a'u graddio gan fyrddau arholi ers 2019. Mae CBAC wedi ystyried yr aflonyddwch y mae dysgwyr wedi'i brofi wrth benderfynu ffiniau graddau ac mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau dull cenedlaethol o ymdrin â chanlyniadau yn hytrach na phenodol i'r ysgol.

Yng Nghaerdydd, yn seiliedig ar ganlyniadau dros dro TAG CBAC a gyhoeddwyd heddiw, mae 42.1% o ganlyniadau Safon Uwch ar gyfer 2023 yn cael eu graddio A* i A, o'i gymharu â ffigur Cymru o 34%. 

Mae canran y cofrestriadau Safon Uwch sy'n arwain at raddau A* - E yn 98.4%, o'i gymharu â ffigwr Cymru o 97.5%. 

Ar gyfer ceisiadau a raddiwyd A* i C, ffigwr 2023 yw 85.1%, o'i gymharu â ffigur Cymru gyfan o 78.9%.

Y darlun cenedlaethol ar draws Cymru yw bod y canlyniadau yn disgyn yn fras hanner ffordd rhwng y rhai a ddyfarnwyd yn 2019 a 2022.  Mae hyn yn golygu, ar gyfer pob pwnc, fod canlyniadau ar lefel genedlaethol yn uwch nag yr oeddent yn 2019, ac yn is nag yr oeddent yn 2022 lle rhoddwyd mesurau ychwanegol ar waith. Nid yw'r canlyniadau yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd:  "Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion a gasglodd eu canlyniadau heddiw.

"Yn yr ail flwyddyn y mae arholiadau ac asesiadau ffurfiol wedi dychwelyd, dylid cydnabod y garfan hon am y ffordd y maent wedi parhau i addasu yn ystod eu blynyddoedd diwethaf o addysg ysgol, gan ddangos gwytnwch a phenderfyniad er gwaethaf yr heriau a'r aflonyddwch y gallent fod wedi'u hwynebu ers dechrau'r pandemig.

"Er nad oes modd cymharu'n uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol, rwy'n falch o weld bod y perfformiad ar draws y ddinas eleni wedi parhau i godi a bodcanlyniadau yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer 2023.

"Hoffwn ddymuno pob lwc i'n myfyrwyr wrth iddynt ddechrau pennod newydd o'u bywydau, p'un a ydyn nhw'n symud ymlaen i'r brifysgol, cyflogaeth neu hyfforddiant."

Mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael mewn un lle ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu camau nesaf cyn diwrnod canlyniadau'r arholiadau yr wythnos hon.

Mae Beth Nesaf? yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i'r dyfodol.

Mae'r llwyfan wedi'i lansio a'i ddatblygu gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor i ddwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ymmydgwaith. 

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fynd i'r coleg neu'r brifysgol, paratoi ar gyfer gwaith, interniaeth, hyfforddeiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i:www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf