11.08.23
Diolch i'r chwyldro mewn cyfathrebu digidol a’r
lluaws o ffonau clyfar a dyfeisiau llechen, ni fu erioed yn haws cadw mewn
cysylltiad â'n gilydd.
Ac, fel pob awdurdod lleol ledled y gwledydd hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu'r dechnoleg i alluogi preswylwyr i gael gafael ar wasanaethau a chysylltu â'r cyngor ar-lein ar gyffyrddiad botwm neu ddau.
Ap Gov Caerdydd yw un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd y
bydd trigolion Caerdydd yn cysylltu â'r Cyngor. Ers ei lansio yn 2018, mae
wedi'i lawrlwytho fwy na 79,000 o weithiau ac mae'n galluogi defnyddwyr i weld
eu hymholiadau yn mynd at y tîm cywir ar draws ystod o wasanaethau'r cyngor,
gan gynnwys:
Mae sgyrsbot 24 awr dwyieithog y Cyngor BOBi eisoes
wedi trawsnewid y ffordd y mae preswylwyr yn cyrchu gwasanaethau yn sylweddol.
Mae ei brif wasanaethau'n cynnwys:
Wedi'i lansio yn 2020, mae BOBi yn sgwrsio tua 5,000 o weithiau bob mis ar gyfartaledd, gyda 1,000 o'r sgyrsiau hynny y tu allan i oriau swyddfa. Mae adborth yn awgrymu bod 80% o ddefnyddwyr yn ei gael yn iawn, yn dda neu'n dda iawn.
Nawr, wrth i fwy a mwy o bobl ryngweithio'n ddigidol gyda'r cyngor - a mwy o wasanaethau yn dod yn hygyrch - mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i glywed gan y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau ar-lein am eu profiadau ac yn eu hannog i gymryd rhan mewn arolwg ledled y ddinas.
Dwedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, fod gwasanaethau digidol yr awdurdod eisoes wedi trawsnewid y ffordd y mae’r Cyngor yn rhyngweithio â'r cyhoedd.
"Rydym am i'n gwasanaethau digidol ddod hyd yn oed yn fwy hygyrch a chynnig y gwasanaethau hynny sydd bwysicaf i'n trigolion. Rydym yn gwybod y bydd angen i rai preswylwyr allu cysylltu â'r Cyngor yn bersonol neu dros y ffôn, ond trwy ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ddefnyddio ein sianeli digidol, gallwn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau mewn ffyrdd sy'n addas i bawb."
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor yma - ArolwgGwasanaethau Digidol (caerdydd.gov.uk) neu ewch yn syth i'r arolwg - ArolwgGwasanaethau Digidol 2023 (snapsurveys.com)
Yn ogystal â Saesneg a Chymraeg, mae'r arolwg hefyd
ar gael mewn Pwyleg ac Arabeg ac mae copïau papur i'w gweld mewn Hybiau a
llyfrgelloedd ar draws Caerdydd. Gellir
dychwelyd y rhain gan ddefnyddio'r blwch glas yn yr Hybiau neu ddefnyddio'r
amlen Rhadbost barod.
- Mae’r arolwg yn cau ar-lein am 11.30pm Ddydd Sul 17 Medi.