The essential journalist news source
Back
28.
July
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 28 Gorffennaf 2023

28/07/23


Dyma eich diweddariad ar gyfer dydd Gwener, sy'n cynnwys; Ail-agor Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien; Diwrnod Chwarae Caerdydd; Dirwy o £68,000 i landlord yng Nghaerdydd; Datgelu Capel Bedyddwyr Bethany Caerdydd a chanmoliaeth i Ysgol Gynradd Gatholig St Cuthbert gan Estyn.

Ail-agor cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien

Mae ailagor cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien wedi cael ei groesawu gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas.

Mae'r newyddion, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Dŵr Cymru, yn dilyn ailddatblygiad mawr i ddod â'r cronfeydd dŵr Fictoraidd eiconig yn ôl yn fyw fel canolbwynt ar gyfer iechyd a lles ac yn hafan i fywyd gwyllt.

Dywedodd y Cyng. Thomas: "Mae agor y ganolfan ymwelwyr newydd yn arwydd o ddechrau pennod newydd sbon yn hanes hir Cronfeydd Ddŵr Llys-faen a Llanisien. "Mae wedi bod yn ymrwymiad gan fy ngweinyddiaeth ers tro i weld y mannau glas a gwyrdd pwysig hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto gan y gymuned ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Dŵr Cymru i helpu i wneud i hynny ddigwydd."

Mwy yam:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31893.html

Mae'n mynd i fod yn hwyl i bawb yn Niwrnod Chwarae Caerdydd

Mae gwyliau haf hir yr ysgol wedi cyrraedd ac i rieni plant ifanc, mae hyn fel arfer yn golygu gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn gallu chwarae'n hapus ac yn ddiogel.

Ond pan ddaw i chwarae diogel, ysgogol ac anturus, mae help wrth law ac eleni, mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Caerdydd yn cynnig gweithgareddau rhad ac am ddim i blant eu mwynhau.

Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol wedi bod yng nghalendr yr haf ers 1991 ac yn ogystal â dathlu hawl plant i chwarae, mae'n ymgyrch sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae yn eu bywydau.

Felly dewch draw, mwynhewch, cymerwch ran mewn gweithgareddau a chasglwch syniadau gwych i roi cynnig arnynt gartref dros yr haf!

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31890.html

Dirwy enfawr o £68,000 i landlord yng Nghaerdydd

Mae Mulberry Real Estate Ltd, a'i gyfarwyddwr, Mr David Bryant, sy'n landlordiaid eiddo yng Nghaerdydd, wedi cael dirwy am fethu â gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol i ddrysau tân, ffenestri dianc a cheginau ac am fethu ag ail-drwyddedu dau eiddo.

Cafodd Mulberry Real Estate Ltd ddirwy o £31,995 a chafodd Mr Bryant ddirwy o £36,300.

Ym mis Gorffennaf a mis Hydref 2021, daeth dwy drwydded Tai Amlfeddiannaeth gan gwmni Mr Bryant i ben ar gyfer eiddo ar Alfred Street, ac Arabella Street, ym Mhlasnewydd. Cafodd y ddau eiddo eu trwyddedu gan y cyngor ym mis Hydref 2016. Roedd y trwyddedau yn cynnwys amodau oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord wneud gwaith i'r drysau tân, ffenestri dianc, ac i'r ceginau yn y ddau eiddo o fewn 3 mis i ddyddiad cyhoeddi'r drwydded.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31887.html

Datguddio Bethany, Capel y Bedyddwyr Caerdydd

Mae capel sydd wedi ei guddio o'r golwg ers degawdau wedi cael ei ddatguddio fel rhan o waith parhaus ar Siop Adrannol flaenorol Howells.

Mae'r ddelwedd newydd yn dangosffasâd blaen ycapel hanesyddol yn ei holl ogoniant wrth i waith barhau i baratoi'r adeilad ar gyfer ei adnewyddu a'i ailddefnyddio, fydd yn amodol ar gael caniatâd pellach.

Adeiladwyd y capel, a guddiwyd o'r golwg am ryw 50 mlynedd, ym 1865 ac roedd yn disodli capel cynharach o 1807.

Yn flaenorol, pan oedd Howells yn masnachu, roedd llawr gwaelod y ffasâd blaen i'w weld yn adran deilwra'r dynion, gyda'r llawr gwaelod yn cael ei feddiannu gan yr adran esgidiau. Roedd y llawr cyntaf yn yr adran dillad Merched, gyda cholofnau haearn bwrw a'r gwaith plastr addurnol i'w gweld. Mae gan yr Ysgol Sul gysylltiedig neuadd ymgynnull fawr gyda balconi, nad oedd yn rhan o'r siop gyhoeddus, a chafodd ei ddefnyddio fel ardal storio yn unig.

Rhestrwyd y capel gan Cadw yn adeilad Gadd II* ynghyd â gweddill y siop adrannol ym 1988.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31884.html

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Gatholig Sant Cuthbert yn gynhwysol, yn ofalgar ac yn groesawgar, medd Estyn

Mae gan Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert ym Mae Caerdydd amgylchedd cynhwysol, gofalgar a chroesawgar i ddisgyblion, medd Estyn.

Yn ystod ymweliad diweddar, canfu arolygwyr Arolygiaeth Addysg Cymru fod pob aelod o staff yn cydweithio'n agos i ddathlu amrywiaeth gyfoethog ieithoedd a diwylliannau o fewn cymuned yr ysgol, ac o ganlyniad, mae pob disgybl yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, bod ganddo lefelau uchel o les, ac yn datblygu eu hyder yn dda, mewn awyrgylch meithringar.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr arferion hynod effeithiol ar gyfer integreiddio newydd ddyfodiaid heb unrhyw Saesneg i'r ysgol, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu lles, a nodir hefyd fod disgyblion yn derbyn lefel uchel o ofal, cefnogaeth ac arweiniad.

Nododd Estyn fod darpariaeth ar gyfer hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn gryf ac mae'r pwyslais ar werthoedd cadarnhaol, goddefgarwch a pharch tuag at eraill yn nodwedd amlwg ym mhob rhan o'r ysgol. Mae'r ysgol yn gwneud defnydd da iawn o hanes ddiwylliannol amrywiol y disgyblion i sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o'r angen i barchu ei gilydd.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31882.html