The essential journalist news source
Back
27.
July
2023.
Mae'n mynd i fod yn hwyl i bawb yn Niwrnod Chwarae Caerdydd

27.07.23
Mae gwyliau haf hir yr ysgol wedi cyrraedd ac i rieni plant ifanc, mae hyn fel arfer yn golygu gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn gallu chwarae'n hapus ac yn ddiogel.

Ond pan ddaw i chwarae diogel, ysgogol ac anturus, mae help wrth law ac eleni, mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Caerdydd yn cynnig gweithgareddau rhad ac am ddim i blant eu mwynhau.

Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol wedi bod yng nghalendr yr haf ers 1991 ac yn ogystal â dathlu hawl plant i chwarae, mae'n ymgyrch sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae yn eu bywydau.

Felly dewch draw, mwynhewch, cymerwch ran mewn gweithgareddau a chasglwch syniadau gwych i roi cynnig arnynt gartref dros yr haf!

Cynhelir y digwyddiad eleni ddydd Mercher, Awst 2 a'i thema yw Chwarae gyda Deupen Llinyn Ynghyd. Yn nigwyddiad Caerdydd, sy'n cael ei gynnal yn Parc y Mynydd Bychan rhwng 1-4pm, bydd  hwyl i blant o bob oed ac mae'r holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â Diwrnod Chwarae yn rhad ac am ddim i'w mwynhau!

Bydd tîm Gwasanaethau Chwarae Plant Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid yng nghanol y cae ger y rheilffordd fach sy'n cynnig cyfleoedd i fwynhau chwarae rhannau rhydd a modelu sothach, celf a chrefft, gemau traddodiadol a chwarae elfennol synhwyraidd – dod i nabod byd natur. 

A bydd sefydliadau eraill wrth law hefyd, mewn pebyll a gazebos o amgylch y safle, gan annog rhieni a phlant i gael cymaint o hwyl â phosibl, heb dalu drwy’r trwyn.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet y Cyngor sy'n gyfrifol am gefnogi pobl ifanc, fod y digwyddiad eleni yn addo bod y gorau wedi'i lwyfannu hyd yn hyn. "Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol wedi bod yn ddigwyddiad allweddol ers amser maith i'n tîm Gwasanaethau Chwarae Plant ac mae pawb wedi gweithio'n galed eleni i sicrhau ei fod yn cynnig syniadau gwych am sut y gellir diddanu eich plant yn ystod gwyliau'r ysgol hir gan ‘gyda deupen llinyn ynghyd’.

"Rydym am ddangos bod chwarae'n hanfodol er mwyn mwynhad plant o blentyndod ac yn hanfodol i'w hiechyd, lles a datblygiad."

I gael gwybod mwy am Ddiwrnod Chwarae, ewch i https://www.playday.org.uk/about-playday/whats-playday/