The essential journalist news source
Back
25.
July
2023.
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Gatholig Sant Cuthbert yn gynhwysol, yn ofalgar ac yn groesawgar, medd Estyn

25/72023

Mae gan Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert ym Mae Caerdydd amgylchedd cynhwysol, gofalgar a chroesawgar i ddisgyblion, medd Estyn.

Yn ystod ymweliad diweddar, canfu arolygwyr Arolygiaeth Addysg Cymru fod pob aelod o staff yn cydweithio'n agos i ddathlu amrywiaeth gyfoethog ieithoedd a diwylliannau o fewn cymuned yr ysgol, ac o ganlyniad, mae pob disgybl yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, bod ganddo lefelau uchel o les, ac yn datblygu eu hyder yn dda, mewn awyrgylch meithringar.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr arferion hynod effeithiol ar gyfer integreiddio newydd ddyfodiaid heb unrhyw Saesneg i'r ysgol, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu lles, a nodir hefyd fod disgyblion yn derbyn lefel uchel o ofal, cefnogaeth ac arweiniad.

Nododd Estyn fod darpariaeth ar gyfer hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn gryf ac mae'r pwyslais ar werthoedd cadarnhaol, goddefgarwch a pharch tuag at eraill yn nodwedd amlwg ym mhob rhan o'r ysgol. Mae'r ysgol yn gwneud defnydd da iawn o hanes ddiwylliannol amrywiol y disgyblion i sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o'r angen i barchu ei gilydd.

Daeth arolygwyr i'r casgliad bod ansawdd yr addysgu yn dda ac o ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sy'n briodol ar gyfer eu hoedran a'u gallu.  Fodd bynnag, mae'r ddarpariaeth yn amrywiol ac nid yw athrawon bob amser yn darparu gweithgareddau dysgu digon heriol 

sy'n adeiladu ar sgiliau'r disgyblion yn systematig dros amser.

Adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, ond mae Estyn wedi gwneud cyfres o argymhellion y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn eu cynllun gweithredu gwella.

  • Sicrhau bod cynllunio hunanwerthuso a gwella yn canolbwyntio'n briodol ar 

cryfhau canlyniadau i ddisgyblion

  • Sicrhau bod athrawon yn defnyddio gwybodaeth cynnydd disgyblion yn effeithiol i gynllunio ar gyfer 

gwelliant parhaus i'r holl ddisgyblion

  • Cynyddu effeithiolrwydd y corff llywodraethu o ran cynorthwyo'r ysgol a'i

dwyn i gyfrif

Wrth ystyried yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth Bernadette Brooks:  "Fel cymuned ysgol, rydym yn hapus iawn gyda chanfyddiadau arolwg diweddar ESTYN.  

"Rydym yn falch iawn bod yr arolygwyr wedi cydnabod y lefelau uchel o ofal, cymorth ac arweiniad a ddarparwn ar gyfer pob disgybl ac wedi gweld ein bod yn ysgol gynnes, gynhwysol a gofalgar lle mae croeso i bawb. 

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod Ysgol Gynradd Gatholig St Cuthbert's yn darparu addysg gadarn a diogel lle mae disgyblion yn unedig mewn ffydd ac yn gallu caru ei gilydd a dysgu gyda'i gilydd."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Dangoswyd bod Ysgol Gynradd St Cuthbert yn ysgol hynod gynhwysol gyda theimlad croesawgar a chynnes,

mae Estyn wedi tynnu sylw at y ffordd y mae staff yn hyrwyddo ethos cadarnhaol ac mae'r berthynas gref rhwng staff a disgyblion yn nodwedd gadarnhaol o'r ysgol. Fe wnes i fwynhau clywed yn arbennig sut mae'r tîm o staff ymroddedig yn ymateb yn sensitif i anghenion cymdeithasol ac emosiynol disgyblion.

"Dyma adroddiad cadarnhaol, a dylai disgyblion, staff a'r gymuned ehangach deimlo'n falch. Bydd yr ysgol nawr yn cael cymorth i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn."

Adeg yr arolygiad, roedd gan yr ysgol 139 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac roedd 44% o'r rhain yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae 66.1% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, a nodwyd bod gan 6% o'r disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.   Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddau crynodol (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddan nhw bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.

 

 

 

 

 

(ends)

Cardiff Council Media Advisor Danni Janssens Tel: 029 20872965

Email: danni.janssens@cardiff.gov.uk