Dyma ein newyddion diweddaraf, sy'n cynnwys: cyngor yn helpu i leddfu'r pwysau ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol; Phennaeth yr Ysgol Rithwir; Peidiwch â cholli'ch pleidlais; a gelf stryd newydd ysgol yng Nghaerdydd.
Cyngor yn helpu i leddfu'r pwysau ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol
Mae timau ar draws Cyngor Caerdydd, ynghyd â sefydliadau partner a grwpiau cymunedol ledled y ddinas, yn ymuno i helpu teuluoedd sy'n wynebu anawsterau ariannol yn ystod gwyliau'r haf i ysgolion.
Mae amrywiaeth o gymorth ar gael ar adeg pan fo pwysau ariannol cynyddol a gellir tywys rhieni a theuluoedd tuag at ffyrdd y gall pobl ifanc ymysgwyd a chael eu diddanu, yn ogystal â sut i ddod o hyd i ffyrdd rhad - ac am ddim - o fwydo teuluoedd.
Mae'r rhaglen 'Bwyd a Hwyl', bellach ar ei wythfed blwyddyn, ar gael mewn 27 o ysgolion yn y ddinas. Mae'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol arobryn yn darparu prydau am ddim ochr yn ochr â rhestr gyffrous o weithgareddau, sgiliau a chwaraeon hwyliog am ddim a ddarperir gan sefydliadau partner, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n cefnogi sesiynau addysg maeth.
Yn ogystal, mae llu o sefydliadau, elusennau a chwmnïau eraill yn hyrwyddo ffyrdd am ddim neu am gost isel i sicrhau bod pawb yn gallu bwyta'n iach.
Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Bydd llawer o bobl yn teimlo effeithiau'r argyfwng costau byw parhaus ond i rai teuluoedd mae'r effaith yn llawer mwy, yn enwedig gyda'r baich ariannol ychwanegol a ddaw yn sgil gwyliau ysgol hir.
"Rydym yn cydnabod yr angen a phwysigrwydd cael cynllun Bwyd a Hwyl Caerdydd. Dros yr wyth mlynedd diwethaf rydym wedi sefydlu gwaith partneriaeth llwyddiannus sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi iechyd a lles cadarnhaol ymhlith y plant hynny sy'n elwa fwyaf o'r cynllun.
"Gan roi mynediad i weithgarwch corfforol, prydau iach a sesiynau maeth a bwyd, mae'r fenter yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau hwyliog na fyddai rhai plant fel arfer yn cael cyfle i'w mwynhau.
"Rwy'n falch iawn bod y cynllun wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â llawer o'r sesiynau yr haf hwn i gwrdd â'r plant a'n haelodau staff ymroddedig."
Dwedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: "Mae ein tîm Cynghori Ariannol yn dal yma i helpu pobl sydd angen cymorth dros wyliau'r ysgol, a thu hwnt. Os oes unrhyw un yn ei chael hi'n anodd, mae'n bwysig cofio bod help ar gael i bawb, galwch draw i'ch canolfan leol neu ffoniwch y Llinell Gynghori. Mae ein tîm wrth law i helpu."
Darllenwch am weithgareddau a chyngor ymarferol yma
Ysgol Rithwir a Phennaeth yr Ysgol Rithwir:Adroddiad yn amlygu cynnydd y cynllun peilot
Mae'r cynnydd a wnaed gan Ysgol Rithwir (YR) Caerdydd a Phennaeth yr Ysgol Rithwir (PYR) wedi'i gyflwyno mewn adroddiad i Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor.
Wedi'i sefydlu ym mis Ebrill 2023, nod y cynllun peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw gwella cynnydd addysgol a chyflawniad yr holl blant sy'n derbyn gofal gan eu hawdurdod, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u lleoli mewn ysgolion mewn awdurdodau eraill.
Gan fod plant mewn gofal yn cael eu haddysgu ar draws nifer o ysgolion, mae Pennaeth yr Ysgol Rithwir yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb hanfodol o fonitro eu cynnydd fel pe baent yn mynychu un sefydliad.
Mae'r cynllun yn meithrin cydweithio rhwng addysg, gwasanaethau cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill a thrwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill, mae'n cefnogi cynnydd addysgol y plant hyn.
Mae prif gyfrifoldebau'r Ysgol Rithwir a Phennaeth yr Ysgol Rithwir yn cynnwys:
- Sefydlu system olrhain a monitro drylwyr i sicrhau cyrhaeddiad academaidd plant sy'n derbyn gofal.
- Sicrhau bod gan bob plentyn mewn gofal gynllun cadarn ac effeithiol ar waith i hwyluso mynediad at gymorth amserol a phriodol.
- Eirioli dros anghenion addysgol plant sy'n derbyn gofal ar draws yr awdurdod lleol a thu hwnt.
- Arwain a rheoli Tîm yr Ysgol Rithwir i gynnig cymorth ac arweiniad i ysgolion ac asiantaethau perthnasol eraill.
- Dylanwadu ar brosesau polisi a gwneud penderfyniadau sy'n gysylltiedig â lles addysgol plant sy'n derbyn gofal.
Nid yw'r Ysgol Rithwir yn adeilad corfforol y mae'r plant mewn gofal yn ei fynychu, gan eu bod yn parhau i fynychu'r ysgolion lle maent wedi'u cofrestru.
Peidiwch â cholli'ch pleidlais - anogir trigolion yng Nghaerdydd i wirio'u manylion cofrestru i bleidleisio
Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i wirio eu manylion cofrestru etholiadol er mwyn sicrhau bod ganddynt lais yn etholiadau'r dyfodol.
Mae'r canfasiad blynyddol yn caniatáu i'r Cyngor gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i nodi pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau, a'u hannog i gofrestru cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
Gall mwy o bobl bleidleisio yn etholiadau Cymru nag erioed o'r blaen, felly mae hwn yn gyfle pwysig i ddiweddaru'r gofrestr etholiadol. Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ac yn etholiad Senedd Cymru, ni waeth ble y cawsant eu geni a gall unrhyw un 14 oed a hŷn gofrestru.
Dywedodd Davina Fiore, Dirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Caerdydd: "Dylai trigolion gadw llygad am ddiweddariadau gan y Cyngor dros yr wythnosau nesaf. Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol am bob cyfeiriad yn y ddinas yn gywir ac yn gyfredol.
"Er mwyn sicrhau nad ydych chi'n colli'ch llais mewn etholiadau sydd i ddod, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch. Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw'n ymddangos yn y negeseuon a anfonwn. Os ydych chi am gofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Anogir pobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar i wirio eu manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod pobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar lawer yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rheini sydd wedi bod yn byw yn yr un cyfeiriad ers tro byd. Yng Nghymru, bydd 91% o'r rhai sydd wedi byw yn eu cartref ers 16 mlynedd wedi eu cofrestru, o'i gymharu â 30% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn.
Crochan Ceridwen sy'n byrlymu i gelf stryd newydd ysgol yng Nghaerdydd
Mae delweddau o hen fytholeg Cymru wedi cael triniaeth yr 21ainganrif ac erbyn hyn yn addurno waliau ysgol uwchradd yn y ddinas, o ganlyniad i gydweithrediad rhwng tîm gwaredu graffiti'r Cyngor, disgyblion ac artistiaid lleol.
Hanes crochan Ceridwen oedd ysbrydoliaeth prosiect a ddaeth ynghyd ag adran gelf Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, aelodau o dimau gwasanaethau gofalu'r Cyngor a'r artist stryd Myles Hindle.
Gweithiodd Myles gyda'r disgyblion i archwilio gwahanol dechnegau celf stryd cyn dylunio a phaentio'u campweithiau lliwgar sy'n darlunio stori'r wrach wen chwedlonol, sy'n enwog am ei ffisig hudol, ar wal ysgol.
Dywedodd Myles: "Fe wnes i fwynhau gweithio gydag Ysgol Plasmawr a'r disgyblion. Gwnes i ddarparu llawer o bren wedi'i drin, cynfasau, papur, cerdyn, paent, rholeri a hambyrddau i'r disgyblion baentio arnyn nhw. Roedden nhw wrth eu bodd yn defnyddio'r paent chwistrell."
Dywedodd yr athrawes gelf Bethan Karroumi yn Ysgol Plasmawr: "Sefydlwyd Prosiect Celf Stryd Plasmawr yn 2018 gyda'r bwriad o annog ymgysylltiad disgyblion â'r ysgol drwy roi perchnogaeth iddyn nhw dros gynnwys, lleoliad a gweithrediad gan oleuo waliau'r ysgol ar yr un pryd.
"Mae wedi bod yn werth chweil i'n disgyblion allu gweithio gydag artistiaid lleol dros y blynyddoedd ac nid oedd Myles yn eithriad. Mae'r prosiectau hyn yn dod â chymaint mwy na'r wobr weledol i'r plant a'r ysgol; mae'r holl ymwneud yn golygu eu bod yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu sydd o'r pwys mwyaf ar ôl cyfnod mor anodd yn dilyn Covid.
"Rydyn ni'n bwriadu cydweithio â Myles a'r Tîm Gwasanaethau Gofalu eto yn fuan ar brosiectau cymunedol lleol yn y Tyllgoed - mae'r disgyblion yn awyddus iawn i gymryd rhan."