18/7/2023
Mae gan Ysgol Gynradd Adamsdownddull meddylgar o ddiwallu anghenion disgyblion unigol sy'n gwella eu cyfleoedd mewn bywyd ac yn codi eu dyheadau, meddai Estyn.
Yn ystod arolygiad diweddar, canfu'r Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru fod yr ysgol yn creu amgylchedd cynnes a chroesawgar lle mae eichymuned ysgol amrywiol yn ffynnu.
Nododd arolygwyr fod disgyblion yn uchelgeisiol, yn barchus ac yn hapus iawn. Maent yn ymgartrefu yn gyflym yn yr ysgol, yn caru dysgu ac yn elwa'n fawr ar ddull hynod effeithiol yr ysgol o gaffael iaith.
Gyda chyfran sylweddol o ddisgyblion yn dod o wledydd yr effeithir arnynt gan wrthdaro, mae statws Ysgol Noddfa yr ysgol yn gadarn wrth wraidd ei gwaith. Mae athrawon, arweinwyr, staff cymorth a llywodraethwyr wedi ymrwymo i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar bob disgybl i gael mynediad i'r cwricwlwm, gan ddechrau gyda lles a chefnogaeth emosiynol.
Yn ei adroddiad, dywedodd arolygwyr fod y bartneriaeth gref gyda rhieni ac ethos meithringar yr ysgol yn sicrhau bod pob disgybl yn teimlo'n ddiogel ac yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn. Mae partneriaethau effeithiol yr ysgol gyda'i chymuned hefyd yn cyfrannu at ei llwyddiant wrth gefnogi lles disgyblion ac wrth ddarparu cwricwlwm deniadol.
Wrth adlewyrchu ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Emma Thomas: "Rwy'n falch iawn o'r adroddiad sy'n disgrifio safonau uchel ar draws pob maes o'n darpariaeth ysgol. Mae cymuned yr ysgol gyfan yn ymroddedig i roi'r addysg a'r profiadau i'n disgyblion y maent yn eu haeddu, ac mae'n wych bod yr adroddiad yn adlewyrchu hyn.
"Datblygwyd ein dulliau unigryw dros nifer o flynyddoedd, ac ynghyd â'r cwricwlwm pwrpasol yr ydym yn ei gynnig, rydym yn falch bod ein darpariaeth yn gwella cyfleoedd bywyd ein disgyblion."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae Ysgol Gynradd Adamsdown yn gwneud gwaith rhagorol ac mae'n braf gweld bod hyn yn cael ei gydnabod gan Estyn.
"Roedd natur gynhwysol yr ysgol a'r dull o ymdrin â sut mae anghenion unigolion yn cael eu diwallu yn arbennig o ddiddorol. Gwelais hefyd fod y gwaith ar hawliau dynol a pherthnasoedd sy'n rhoi dealltwriaeth i ddisgyblion o degwch, cyfiawnder ac empathi yn rhagorol.
"Hoffwn longyfarch y Pennaeth, y staff a'r llywodraethwyr a diolch iddynt am eu gwaith caled a'u hymroddiad."
Canmolodd Estyn y gefnogaeth y mae arweinwyr yn ei roi i bob aelod o staff sy'n datblygu eu gwybodaeth broffesiynol yn barhaus i wella eu hymarfer. Mae hyn yn gryfder gan yr ysgol ac, o ganlyniad, mae staff yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr at welliant parhaus a gwerthusiad effeithiol o waith yr ysgol.
Gan eu canmol am y gwaith y mae'r ysgol yn ei wneud o ranarweinyddiaeth ddosbarthedig a dylunio cwricwlwm, mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i baratoi dwy astudiaeth achos i'w cyhoeddi ar ei gwefan.
Adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, ond mae Estyn wedi gwneud cyfres o argymhellion y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn eu cynllun gweithredu gwella.
- Gwella safonau Cymraeg
- Rhannu arferion effeithiol yr ysgol yn ehangach
Ar adeg yr arolygiad, roedd gan yr ysgol 426 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac roedd 69% o'r rhain yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae 72% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, ac mae 9% o'r disgyblion yn nodi bod ganddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae Estyn wedi mabwysiadudull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru. Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddio crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.
Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.
Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.