12/07/23
Mae cyllid o rhwng £10,000 a £250,000 ar gael ar gyfer prosiectau a fydd o fudd i gymunedau lleol ledled Caerdydd.
Mae'r cyllid ar gael i amrywiaeth o sefydliadau sy'n gallu dangos eu bod yn gallu cyflawni prosiectau sydd o fudd i gymunedau lleol, yn creu balchder mewn lle, yn sicrhau manteision economaidd, ac sy'n unol â'r meini prawf gofynnol a chynllun cryfach, tecach, gwyrddach Cyngor Caerdydd. Y sefydliadau cymwys yw:
- Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus eraill
- Cwmnïau sector preifat sy'n cyflawni prosiectau
- Sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector
- Colegau a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.
Mae'r holl wybodaeth am y cyllid grant a'r meini prawf cymhwysedd ar gael arwefany cyngor. Rhaid i bob cynllun sy'n derbyn cyllid gael eu cyflawni rhwng Hydref 2023 a Mawrth 2025 a rhaid cyflwyno pob cais i'r Cyngor erbyn hanner dydd ar 18 Awst 2023.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae'r Cyngor wedi nodi'n glir ein blaenoriaethau yn y polisi Cryfach, Tecach, Gwyrddach sy'n darparu'r glasbrinta gweledigaeth ar sut y bydd y ddinas yn datblygu dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt.
"Mae'r cynllun yn nodi 7 amcan lles i gyflawni hyn, sy'n gwneudCaerdydd yn lle gwych i gael eich magu a thyfu'n hŷn; cefnogi pobl allan o dlodi; grymuso cymunedau; lleihau ein hôl troed carbon drwy Caerdydd Un Blaned a moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus.
"Bydd y ceisiadau a dderbynnir yn cael eu barnu yn erbyn amrywiaeth o bolisïau gan gynnwysy Polisi Cryfach, Tecach, Gwyrddach a Chynllun Lles Caerdydd, yn ogystal â'r meini prawf cymhwysedd sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth y DU sydd i'w gweld ar wefan y Cyngor. Rydym yn gobeithio y bydd cynifer o sefydliadau cymwys yn gwneud cais, fel y gallwn gyfeirio'r cyllid grant hwn i lle y mae ei angen fwyaf fel y gallwn wneud gwahaniaeth i bobl leol a bod o fudd i gymunedau lleol."