Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Cyrtiau tennis lleol yng Nghaerdydd ar fin cael buddsoddiad mawr; Addewid Caerdydd i blant mewn gofal, bod ‘Mae Fy Mhethau i'n Bwysig'; Cyngor Caerdydd yn ennill Prosiect Sifil y Flwyddyn 2023/24 Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru.
Cyrtiau tennis lleol yng Nghaerdydd ar fin cael buddsoddiad mawr
Mae cynllun tennis poblogaidd sydd wedi rhoi hwb i nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gamp ym maestref y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, ac a fyddai'n arwain at fuddsoddi cryn dipyn o arian mewn cyrtiau tennis lleol, ar fin cael ei gyflwyno mewn chwe pharc arall ar draws y ddinas.
Gwelodd y cynllun, a gymeradwywyd gan Gyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf, gyllid 'mewn egwyddor' yn cael ei gytuno, a allai weld yr LTA yn buddsoddi oddeutu £750,000 yn 29 o gyrtiau tennis y ddinas drwy eu Park Project, a ariennir gan Lywodraeth y DU a Sefydliad Tennis LTA.
Fel rhan o'r cytundeb, bydd y cyrtiau wedi'u hadnewyddu, gan ddechrau gyda'r rhai yng Ngerddi Bryn Rhymni, Parc Fictoria a Chaeau Llandaf, yn cael eu rheoli, eu gweithredu a'u cynnal gan Tennis Cymru, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu cyrtiau tennis Parc y Mynydd Bychan.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Mae buddsoddiad yr LTA a Tennis Cymru ym Mharc y Mynydd Bychan wedi trawsnewid safle a oedd mewn cyflwr gwael, heb lawer o weithgareddau tennis, yn ganolbwynt tennis bywiog lle mae'r gêm yn cael ei mwynhau bob dydd. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gamp yno, gyda hyfforddiant, gweithgaredd ysgolion, a chystadlaethau i gyd ar gael ochr yn ochr â gemau rheolaidd. Erbyn hyn mae 900 o aelodau yn chwarae ar gyrtiau'r Mynydd Bychan, gan gynnwys y clwb LHDTC cyntaf yng Nghymru. Mae wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau ac mae'n gyffrous iawn meddwl y bydd buddsoddiad yr LTA yn galluogi'r cynllun i gael ei gyflwyno ar draws y ddinas, gan ddod â'r gamp i hyd yn oed mwy o bobl."
Mae buddsoddiad yr LTA yn rhan o raglen £30 miliwn ledled y DU a fydd yn gweld miloedd o gyrtiau tennis sydd mewn cyflwr gwael neu rai nad oes modd eu defnyddio yn cael eu hadfer er budd cymunedau, trwy waith adnewyddu a thrwy wneud y cyrtiau'n fwy hygyrch gyda thechnoleg mynediad gât a systemau archebu newydd.
Ychwanegodd y Cyng Burke: "Yr uchelgais yw gwella profiad y cwsmer, cynyddu nifer y bobl sy'n chwarae'r gêm, a chreu lleoedd diogel i chwarae trwy leihau'r fandaliaeth, yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r camddefnydd yr ydym wedi'u gweld yn ein cyrtiau eraill. Yn bwysig iawn, bydd Tennis Cymru yn ailfuddsoddi unrhyw arian a godir trwy ffioedd chwarae yn y cyrtiau er mwyn eu cynnal a'u cadw i lefel uchel ac fel bod gan bobl le gwych i ddysgu a mwynhau'r gêm."
Addewid Caerdydd i blant mewn gofal, bod ‘Mae Fy Mhethau i'n Bwysig'
Mae Cyngor Caerdydd wedi addo ei gefnogaeth i'r ymgyrch 'Mae Fy Mhethau i'n Bwysig', menter sy'n helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal yn cael eu trin â pharch ac urddas pan fyddan nhw'n symud cartref.
Dan arweiniad NYAS (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol), mae'r ymgyrch ‘Mae Fy Mhethau i'n Bwysig' yn gwthio i roi terfyn ar y defnydd o fagiau bin pan fydd plant mewn gofal yn symud cartref ac yn gofyn i awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr ddarparu canllawiau ysgrifenedig ffurfiol i staff a gofalwyr i gefnogi plant sy'n cael eu symud.
Trwy gofrestru ar gyfer yr ymgyrch, mae Caerdydd yn addo i blant a phobl ifanc yn eu gofal y byddan nhw'n;
- Cadw eu heiddo mwyaf gwerthfawr yn ddiogel wrth symud ac yn addo na fyddan nhw'n cael eu symud mewn bagiau bin.
- Darparu canllawiau ysgrifenedig iddyn nhw ac unrhyw un sy'n eu helpu i symud.
- Byth yn symud nac yn taflu eu heiddo heb eu caniatâd ac yn parchu eu heiddo personol bob amser.
- Eu cefnogi i wneud cwyn os oes unrhyw eiddo wedi ei golli neu ei ddifrodi wrth eu symud. Ac yn olaf,
- Yn siarad â nhw am y symud ac yn gofyn sut aeth y symud.
Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Blant: "Mae sicrhau bod pob plentyn mewn gofal yn teimlo hunanwerth ac yn cael ei barchu yn flaenoriaeth. Gall symud cartref fod yn gyfnod pryderus a llawn straen i unrhyw un, ond yn enwedig i bobl ifanc a allai fod wedi wynebu trallod a chynnwrf yn ystod eu bywyd. Rydym wedi ymrwymo i wneud hwn yn drosglwyddiad esmwyth ac urddasol lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod wedi eu cefnogi, yn unol ag uchelgais Caerdydd o fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF y DU.
"Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu'r gorau a dyna pam rydyn ni mor falch o lofnodi'r addewid ‘Mae Fy Mhethau i'n Bwysig', ac yn gobeithio y bydd mwy o Awdurdodau Lleol yn ymuno â ni."
Cyngor Caerdydd yn ennill Prosiect Sifil y Flwyddyn 2023/24 Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru
Mae Cyngor Caerdydd wedi ennill Gwobr Prosiect Sifil y Flwyddyn ar gyfer 2023/24 am Gynllun Trafnidiaeth y Sgwâr Canolog.
Rhoddir y wobr am drawsnewidiad Stryd Wood, sy'n cynnwys trefn ffyrdd newydd; lonydd bysiau newydd; gerddi glaw i reoli draenio dŵr wyneb; gwelliannau i'r ardal gyhoeddus a rhwydwaith priffyrdd sy'n rhoi blaenoriaeth i fysiau, yn barod ar gyfer agoriad y Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd i'r cyhoedd.
Y cynllun hefyd yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, gyda chroesfan i gerddwyr wedi'i hadeiladu'n benodol i gynnwys pobl ddall a rhannol ddall, gyda phlannu ychwanegol a 'safleoedd bysiau i wenyn' wedi'u gosod i gynyddu bioamrywiaeth yng nghanol y ddinas.
Rhoddodd Cyngor Caerdydd gytundeb i Knights Brown ymgymryd â'r gwaith, a wnaed yn ystod Pandemig COVID.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r wobr yn dyst i'r holl waith caled a wnaed gan swyddogion y Cyngor a'r contractwr i gwblhau'r cynllun hwn ar amser ac o fewn y gyllideb. Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau drwy'r ymgynghoriad i sicrhau ein bod yn darparu cynllun sy'n addas ar gyfer pob defnyddiwr, yn ogystal â gwella llif y traffig yn yr ardal hon o'r ddinas.
"Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos iawn gyda grwpiau anabledd i osod croesfan bwrpasol i gerddwyr sy'n darparu ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall. Rwy'n gwybod bod hyn wedi cael croeso cynnes gan RNIB a'i gyflwyno fel model o arfer gorau ar gyfer pan fydd croesfannau cerddwyr eraill yn cael eu gosod ledled y ddinas.
"Mae Stryd Wood wedi'i thrawsnewid. Nid yn unig y mae'r stryd yn edrych yn llawer gwell nag o'r blaen gyda phlannu ychwanegol a chynllun ffordd newydd, ond mae'r peirianwaith hefyd yn sicrhau nad yw'r ffordd yn gorlifo mewn tywydd gwael ac y bydd y gyfnewidfa fysiau newydd yn gallu gweithredu'n effeithlon, gan sicrhau bod bysiau'n cael blaenoriaeth dros draffig cyffredinol."