The essential journalist news source
Back
27.
June
2023.
Addewid Caerdydd i blant mewn gofal, bod ‘Mae Fy Mhethau i'n Bwysig'

27/6/2023

Mae Cyngor Caerdydd wedi addo ei gefnogaeth i'r ymgyrch 'Mae Fy Mhethau i'n Bwysig', menter sy'n helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal yn cael eu trin â pharch ac urddas pan fyddan nhw'n symud cartref.

Dan arweiniad NYAS (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol), mae'r ymgyrch ‘Mae Fy Mhethau i'n Bwysig' yn gwthio i roi terfyn ar y defnydd o fagiau bin pan fydd plant mewn gofal yn symud cartref ac yn gofyn i awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegrddarparu canllawiau ysgrifenedig ffurfiol i staff a gofalwyr i gefnogi plant sy'n cael eu symud.

Trwy gofrestru ar gyfer yr ymgyrch, mae Caerdyddyn addo i blant a phobl ifanc yn eu gofal y byddan nhw'n;

  1. Cadw eu heiddo mwyaf gwerthfawr yn ddiogel wrth symud ac yn addo na fyddan nhw'n cael eu symud mewn bagiau bin.
  2. Darparu canllawiau ysgrifenedig iddyn nhw ac unrhyw un sy'n eu helpu i symud.
  3. Byth yn symud nac yn taflu eu heiddo heb eu caniatâd ac yn parchu eu heiddo personol bob amser.
  4. Eu cefnogi i wneud cwyn os oes unrhyw eiddo wedi ei golli neu ei ddifrodi wrth eu symud. Ac yn olaf,
  5. Yn siarad â nhw am y symud ac yn gofyn sut aeth y symud.

Candice Lloyd from NYAS, Cllr Rhys Taylor, Cllr Christopher Lay, Cllr Ash Lister, Cllr Sarah Merry, Cllr Peter Littlechild

 

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Blant: "Mae sicrhau bod pob plentyn mewn gofal yn teimlo hunanwerth ac yn cael ei barchu yn flaenoriaeth. Gall symud cartref fod yn gyfnod pryderus a llawn straen i unrhyw un, ond yn enwedig i bobl ifanc a allai fod wedi wynebu trallod a chynnwrf yn ystod eu bywyd. Rydym wedi ymrwymo i wneud hwn yn drosglwyddiad esmwyth ac urddasol lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod wedi eu cefnogi, yn unol ag uchelgais Caerdydd o fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF y DU.

 

"Mae ein plant a'n pobl ifanc yn haeddu'r gorau a dyna pam rydyn ni mor falch o lofnodi'r addewid ‘Mae Fy Mhethau i'n Bwysig', ac yn gobeithio y bydd mwy o Awdurdodau Lleol yn ymuno â ni."

 

Dywedodd Rita Waters, Prif Weithredwr Grŵp NYAS: "Rwy mor falch o'r gwahaniaeth mae ein hymgyrch yn ei wneud ac rwy'n falch iawn o weld nifer yr awdurdodau lleol sy'n cofrestru ar gyfer yr addewid Mae Fy Mhethau i'n Bwysig, sy'n cynyddu o fis i fis. Mae rhai awdurdodau lleol nad ydyn nhw wedi cofrestru o hyd, a hoffwn annog pob un ohonyn nhw i ymrwymo i'r addewid Mae Fy Mhethau i'n Bwysig yn ddi-oed a gwneud datganiad cyhoeddus i drin plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u heiddo â pharch ac urddas wrth symud lleoliad. Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o awdurdodau lleol yn ymuno â NYAS yn yr addewid pwysig hwn i blant a phobl ifanc."

Mae ymgyrch NYAS Mae Fy Mhethau i'n Bwysig wedi'i chefnogi ganMadlug,brand bagiau nodedig, i ddarparu bagiau cadarn i filoedd o blant mewn gofal i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei orfodi i symud ei eiddo mewn bagiau bin. Gall awdurdodau lleol sy'n cofrestru ar gyfer Mae Fy Mhethau i'n Bwysig dderbyn bagiau Madlug am ddim i blant mewn gofal.

I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch ewch i:https://www.nyas.net/news-and-campaigns/campaigns/current-campaigns/my-things-matter/