23/06/23 - Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio ymgyrch adfer Hen Lyfrgell Caerdydd gyda rhodd o £2 filiwn
Mae CBCDC wedi cyhoeddi heddiw bod y gŵr busnes llwyddiannus o Gymro-Americanwr Syr Howard Stringer wedi rhoi rhodd o £2 filiwn i'r Coleg, i'w helpu i adfer a thrawsnewid Hen Lyfrgell nodedig canol dinas Caerdydd.
23/06/23 - Mae Cynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet
Gallai mwy na 32,000 o swyddi a 26,400 o gartrefi newydd gael eu darparu yng Nghaerdydd erbyn 2036, gan fod Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar ei 'Strategaeth a Ffefrir' ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).
23/06/23 - Mae Gweithwyr Ieuenctid Caerdydd yn rhannu eu straeon. Wythnos Gwaith Ieuenctid 23 - 30 Mehefin 2023
Mae gweithwyr ieuenctid o bob rhan o'r ddinas wedi rhannu eu straeon i gyd-fynd ag Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni yng Nghymru (23 - 30 Mehefin 2023),sy'n gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid,gyda'r nodo hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o waith ieuenctid a'i gefnogi.
22/06/23 - Cynllun i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd wedi'i gytuno
Mae cynlluniau i uwchraddio Canolfan Hamdden Pentwyn Caerdydd wedi'u cytuno gan Gyngor Caerdydd.
22/06/23 - Cynigion swyddfeydd craidd y Cyngor wedi'u cymeradwyo i'r cam nesaf
Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi derbyn argymhellion adroddiad sy'n edrych ar yr opsiynau ar gyfer gofynion swyddfeydd hirdymor yr awdurdod lleol.
22/06/23 - Cynlluniau'n symud yn eu blaen i ddatblygu cartref newydd Ysgol Uwchradd Willows
Gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi bod y contract i gyflawni'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â datblygu llety newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows wedi'i ddyfarnu i Morgan Sindall Construction.
22/06/23 - Gyrfa Gymraeg: Cofleidio Grym y Gymraeg ar gyfer cael swydd yng Nghymru
Cynhelir ffair yrfaoedd arbennig yr wythnos hon ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Bro Edern ac Ysgol Plasmawr i dynnu sylw at werth sgiliau Cymraeg a hyrwyddo cyfleoedd i astudio a gweithio yn Gymraeg.
22/06/23 - Ysgol Uwchradd Llanisien yn agor Siop ‘Prom' Gynaliadwy
Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yn cymryd agwedd ysgol gyfan tuag at gynaliadwyedd a lleihau gwastraff, drwy agor siop prom mewn ymgais i fynd i'r afael â diwylliant taflu.
21/06/23 - £1.3 miliwn o gyllid i gefnogi natur yng Nghaerdydd
Mae Partneriaeth Natur Leol sydd wedi plannu miloedd o fylbiau da i wenyn, wedi gosod ‘waliau byw' gwyrdd mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol, ac sy'n helpu cymunedau Caerdydd i gymryd camau ymarferol i gefnogi bioamrywiaeth, wedi sicrhau £1.3 miliwn o gyllid.
20/06/23 - Cadarnhau'r arlwy ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd
Mae'r arlwy bwyd, diod a cherddoriaeth ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ym Mae Caerdydd wedi'i ddatgelu, ac mae'n cynnwys gwledd o ffefrynnau'r ŵyl yn ogystal â'r rheiny fydd yn gweini danteithion blasus yno am y tro cyntaf.
20/06/23 - Derbyniodd unig gyfarwyddwr Supatramp Ltd ddedfryd carchar ohiriedig o 10 mis yn Llys y Goron Caerdydd
Mae perchennog canolfan chwarae dan do Caerdydd, Supajump, wedi cael dedfryd carchar ohiriedig o 10 mis, 200 awr o waith di-dâl a gorchymyn i dalu £10,000 mewn costauam gyfres o droseddau iechyd a diogelwch, ac am fethu ag adrodd i'r awdurdodau cywir am anafiadau i blant a chwaraeodd ar offer diffygiol.