23/06/23
Gallai mwy na 32,000 o swyddi a 26,400 o gartrefi newydd gael eu darparu yng Nghaerdydd erbyn 2036, gan fod Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar ei 'Strategaeth a Ffefrir' ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).
Mae Cabinet y Cyngor wedi derbyn adroddiad ar y CDLlN yn ei gyfarfod Ddydd Iau, 22 Mehefin. Ynddo, argymhellwyd bod y Cabinet yn ymgynghori ar "Strategaeth a Ffefrir" a gynigiodd gyfradd twf blynyddol o 1% ar gyfer tai bob blwyddyn hyd at 2036. Caiff yr adroddiad bellach ei gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn ar 29 Mehefin i'w ystyried.
Mae'r adroddiad a'r dogfennau cysylltiedig yn awgrymu y gellir darparu pob un o'r 26,400 o gartrefi sy'n ofynnol yn y CDLlN drwy ganiatadau cynllunio presennol neu ar dir sydd eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer datblygiadau newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol.
Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid dod o hyd i dir newydd fel rhan o strategaeth dwf arfaethedig o 1% y CDLlN ar gyfer y ddinas hyd at 2036.
Gallai'r CDLlN hefyd weld 6,000 o dai fforddiadwy yn cael eu codi ar draws y ddinas dros oes y cynllun.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Wrth benderfynu ar y gyfradd twf ar gyfer y Cynllun Datblygu Newydd, cyflwynwyd tri opsiwn i'w trafod. Cyfradd twf o 0.6%, 1% ac 1.6% ar gyfer pob blwyddyn o'r cynllun. Mae dadansoddiad cadarn o'r data a'r dystiolaeth sydd ar gael yn pwyntio tuag at dwf o 1% fesul blwyddyn fel y rhagamcan mwyaf realistig. Gallai hyn greu 32,300 o swyddi newydd mawr eu hangen a 26,400 o gartrefi newydd dros gyfnod y cynllun.
"Mae'r 'Strategaeth a Ffefrir' yn cynnig bod yr holl gartrefi presennol sydd eisoes â chaniatâd cynllunio neu wedi eu clustnodi yn y CDLl Mabwysiedig presennol yn cael eu hadeiladu erbyn 2036, yn ogystal â chaniatáu i safleoedd eraill gael eu cyflwyno yn y ddinas, a elwir yn "Safleoedd Annisgwyl". Gyda chytuno ar yr adroddiad, mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i'r CDLlN glustnodi unrhyw dir ychwanegol ar gyfer cartrefi newydd. Gallai'r lefel twf yma o 1% ddarparu cyfanswm o hyd at 6,000 o gartrefi newydd fforddiadwy ledled y ddinas, ac efallai mwy na hynny.
"Nid yw'r Strategaeth a Ffefrir yn canolbwyntio ar dwf tai yn unig, ond ffactorau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio'r CDLlN i reoli datblygiadau newydd a datblygu cymdogaethau cynaliadwy a fydd yn gwella Caerdydd ymhellach fel dinas gynaliadwy a helpu i fynd i'r afael â bygythiad parhaus newid yn yr hinsawdd.
"Nawr bod y Cabinet wedi cymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir i fynd allan i ymgynghori arno, byddwn yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu â chymaint o bobl a grwpiau â phosibl yr haf hwn, gyda'r bwriad o gaelCynllun Datblygu Lleolnewydd wedi'i fabwysiadu'n llawn erbyn mis Tachwedd 2025. Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, bydd yr adborth yn cael ei ddadansoddi a'i fwydo i gam nesaf y broses sef cynhyrchu'r 'Cynllun Adneuo'. Yna bydd yn mynd trwy gam ychwanegol o ymgynghori ffurfiol yn haf 2024, cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w archwilio ym mis Mai 2025."
Nawr bod y Cabinet wedi cymeradwyo'r argymhelliad, bydd y cyngor yn cynnal ymgynghoriad 10 wythnos dros yr haf, bedair wythnos yn fwy na'r isafswm cyfreithiol rhwymol sy'n ofynnol gan ganllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys ystod eang o ddigwyddiadau ymgysylltu gan gynnwys sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb ar draws y ddinas ac amrywiaeth o weithdai i randdeiliaid er mwyn sicrhau y gallwn gasglu cymaint o safbwyntiau â phosibl.
Mae Cynllun Datblygu Lleol yn ddogfen defnydd tir strategol sy'n nodi polisïau manwl i reoli datblygiad, clustnodi safleoedd i'w gwarchod a hyrwyddo ystod o safleoedd "maes glas" a 'thir llwyd' er mwyn sicrhau y gellir rheoli twf y ddinas mewn ffordd gynaliadwy.
Mae'r 'Strategaeth a Ffefrir' yn nodi'r polisïau allweddol i gyflawni nodau a gweledigaethau'r cynllun ar ystod o ffactorau, o swyddi newydd a chartrefi newydd i gymdogaethau a thrafnidiaeth gynaliadwy a sut bydd y ddinas yn gwarchod yr amgylchedd wrth leihau ein heffaith o ran carbon.