14.6.23
Mae'r ardal chwarae yn Heol Llanisien Fach wedi ailagor yn swyddogol i'r cyhoedd yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Yr ardal chwarae yn Heol Llanisien Fach yw'r cyfleuster diweddaraf i elwa ar ein rhaglen fuddsoddi barhaus mewn parciau ac ardaloedd chwarae ledled Caerdydd a bydd yn gyfleuster gwych arall i deuluoedd lleol ei fwynhau."
Wedi'i gynllunio ar thema dderw, gyda mes, dail derw, creaduriaid a phryfed sy'n gysylltiedig â choed derw. Mae'r ardal chwarae yn cynnwys ardal i blant bach ac ardal chwarae iau, a'r cyfan wedi'i anelu at annog chwarae, dringo, addysg a gweithgaredd corfforol dychmygus.
Mae'n darparu ar gyfer plant sydd ag ystod eang o alluoedd, a bydd yr offer chwarae yn cynnwys cylchfan hygyrch i gadeiriau olwyn, troellwr, offer chwarae hygyrch a siglenni.
Mae man eistedd cylchol ac arwydd mynedfa newydd wedi'u hychwanegu ger mynedfa'r ardal chwarae, yn ogystal â thri cherfiad pren ar thema dderw, seddi wedi'u hadnewyddu, biniau newydd, gatiau newydd, llwybrau newydd ac wyneb diogelwch ledled yr ardal chwarae.