Dyma ein newyddion diweddaraf, sy'n cynnwys: Addewid am hwb o ran swyddi fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd; Adeiladu cymunedau cydlynol gyda chynllun grant newydd; Busnesau arloesol yn symud yn gynt at Gaerdydd carbon niwtral; a Cau ffyrdd ar gyfer gorymdaith Pride Cymru ar Fehefin 17.
Addewid am hwb o ran swyddi fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd
Gallai mwy na 32,000 o swyddi a 26,400 o gartrefi newydd gael eu darparu yng Nghaerdydd erbyn 2036 os yw Cyngor Caerdydd yn cytuno ar ei 'Strategaeth a Ffefrir' ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).
Bydd Cabinet y Cyngor yn derbyn adroddiad ar y CDLl yn ei gyfarfod Ddydd Iau, 22 Mehefin. Ynddo, argymhellir bod y Cabinet yn ymgynghori ar "Strategaeth a Ffefrir" sy'n cynnig cyfradd twf blynyddol o 1% ar gyfer tai bob blwyddyn hyd at 2036. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr adroddiad wedyn yn mynd i'r Cyngor Llawn ar 29 Mehefin i'w ystyried.
Mae'r adroddiad a'r dogfennau cysylltiedig yn awgrymu y gellir darparu pob un o'r 26,400 o gartrefi sy'n ofynnol yn y CDLlN drwy ganiata dau cynllunio presennol neu ar dir sydd eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer datblygiadau newydd yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol.
Mae hyn yn golygu na fyddai'n rhaid dod o hyd i dir newydd fel rhan o strategaeth dwf arfaethedig o 1% y CDLlN ar gyfer y ddinas hyd at 2036.
Pe bai'n cael ei gymeradwyo gallai'r CDLlN hefyd weld 6,000 o dai fforddiadwy yn cael eu codi ar draws y ddinas dros oes y cynllun.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Wrth benderfynu ar y gyfradd twf ar gyfer y Cynllun Datblygu Newydd, cyflwynwyd tri opsiwn i'w trafod. Cyfradd twf o 0.6%, 1% ac 1.6% ar gyfer pob blwyddyn o'r cynllun. Mae dadansoddiad cadarn o'r data a'r dystiolaeth sydd ar gael yn pwyntio tuag at dwf o 1% fesul blwyddyn fel y rhagamcan mwyaf realistig. Gallai hyn greu 32,300 o swyddi newydd mawr eu hangen a 26,400 o gartrefi newydd dros gyfnod y cynllun.
"Mae'r 'Strategaeth a Ffefrir' yn cynnig bod yr holl gartrefi presennol sydd eisoes â chaniatâd cynllunio neu wedi eu clustnodi yn y CDLl Mabwysiedig presennol yn cael eu hadeiladu erbyn 2036, yn ogystal â chaniatáu i safleoedd eraill gael eu cyflwyno yn y ddinas, a elwir yn "Safleoedd Annisgwyl". Os cytunir i hyn, bydd hyn yn golygu na fydd gofyn i'r CDLlN glustnodi unrhyw dir ychwanegol ar gyfer cartrefi newydd. Gallai'r lefel twf yma o 1% ddarparu cyfanswm o hyd at 6,000 o gartrefi newydd fforddiadwy ledled y ddinas, ac efallai mwy na hynny.
"Nid yw'r Strategaeth a Ffefrir yn canolbwyntio ar dwf tai yn unig, ond ffactorau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio'r CDLlN i reoli datblygiadau newydd a datblygu cymdogaethau cynaliadwy a fydd yn gwella Caerdydd ymhellach fel dinas gynaliadwy a helpu i fynd i'r afael â bygythiad parhaus newid yn yr hinsawdd.
"Os yw'r Cabinet yn cymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir i fynd allan i ymgynghori arno, byddwn yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu â chymaint o bobl a grwpiau â phosibl yr haf hwn, gyda'r bwriad o gael Cynllun Datblygu Lleol newydd wedi'i fabwysiadu'n llawn erbyn mis Tachwedd 2025. Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, bydd yr adborth yn cael ei ddadansoddi a'i fwydo i gam nesaf y broses sef cynhyrchu'r 'Cynllun Adneuo'. Yna bydd yn mynd trwy gam ychwanegol o ymgynghori ffurfiol yn haf 2024, cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w archwilio ym mis Mai 2025."
Adeiladu cymunedau cydlynol gyda chynllun grant newydd
Mae cynllun grant newydd i helpu i adeiladu cymunedau cydlynol a chryf wedi cael ei lansio.
Gwahoddir grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector ledled Caerdydd i wneud cais am gyllid hyd at £2,000 i gefnogi cynlluniau a mentrau sy'n amlygu ac yn dathlu amrywiaeth cymunedau ar draws y ddinas.
Gellir defnyddio cyllid at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, cynhyrchu llenyddiaeth gefnogol neu feithrin gallu o fewn cymuned.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd (Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb) y Cynghorydd Julie Sangani: "Rydym yn chwilio am gynlluniau sy'n canolbwyntio ar ddod â chymunedau at ei gilydd ac yn annog gwaith cydweithredol.
"Nod y cynllun yw sicrhau bod gan bobl o wahanol gefndiroedd yn ein cymunedau berthnasau cadarnhaol, ymdeimlad o barch at ei gilydd a'u bod yn teimlo'n ddiogel yn eu cymdogaethau.
"Rydym yn awyddus i glywed gan grwpiau a sefydliadau am y ffyrdd creadigol y maent am wneud hyn yn eu cymunedau. Gallai ymwneud â hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol, dod â phobl at ei gilydd mewn sesiynau coginio, creu cerddoriaeth gymunedol, prosiectau celfyddydol, chwaraeon, dawns a mwy."
Busnesau arloesol yn symud yn gynt at Gaerdydd carbon niwtral
Gyda 23% o'r 1.6 miliwn tunnell o allyriadau carbon a gynhyrchir bob blwyddyn yng Nghaerdydd yn cael eu cynhyrchu gan y sectorau masnachol a diwydiannol, daeth busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd heddiw (13 Mehefin) i ddysgu gan rai o'r busnesau lleol arloesol sydd eisoes yn lleihau eu hôl troed carbon yn sylweddol, i weld sut y gallant hwythau hefyd helpu i gyflymu Caerdydd tuag at ddyfodol carbon niwtral.
Wedi'i gynnal gan Gyngor Caerdydd yng nghanolfan ddarganfod gwyddoniaeth Techniquest ym Mae Caerdydd, daeth dros 100 o fusnesau a sefydliadau lleol o'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i'r Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned gyntaf.
Dwedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid yn yr Hinsawdd: "Mae ymateb i newid yn yr hinsawdd wrth wraidd ein hagenda ac fel cyngor rydym yn gwneud cynnydd da o ran lleihau ein hallyriadau ein hunain, ond rydym bob amser wedi bod yn glir, os ydym am gyflawni ein gweledigaeth o Gaerdydd carbon niwtral, bod angen i'r ddinas gyfan fod gyda ni a gwneud newidiadau.
"Mae llawer o fusnesau, sefydliadau ac unigolion lleol eisoes yn gwneud gwaith gwych i leihau eu hallyriadau - ond ochr yn ochr â'r arbenigedd a'r wybodaeth honno mae llawer o egni a brwdfrydedd hefyd, felly bydd cael yr holl bobl hynny mewn un man heddiw yn helpu i ddatblygu partneriaethau a all fod yn gatalydd ar gyfer gweithredu ar hyd yn oed fwy o frys."
Un o'r busnesau sydd eisoes yn bwrw ymlaen â datgarboneiddio yw Euroclad Group, cyflenwr datrysiadau adeiladu metel pensaernïol yng Nghaerdydd i'r diwydiant adeiladu. Trwy ei raglen gynaliadwyedd, Planet Passionate, ei nod yw creu effaith gadarnhaol ar dair her fawr fyd-eang: newid yn yr hinsawdd, cylchedd a gwarchod ein byd naturiol.
Cau ffyrdd ar gyfer gorymdaith Pride Cymru ar Fehefin 17
Mae Pride Cymru yn ôl gyda gŵyl ddeuddydd wedi'i threfnu yng nghanol dinas Caerdydd ar Fehefin 17 a Mehefin 18.
Bydd yr orymdaith ar 17 Mehefin a bydd ffyrdd ar gau i sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad yn ddiogel.
Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Stryd y Castell am 11am gan symud ymlaen i'r Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, yn ôl i'r Ais, ymlaen i Heol Eglwys Ioan, ar hyd Heol y Frenhines, i fyny Plas y Parc, yn ôl ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, ymlaen i Ffordd y Brenin gan orffen ar Stryd y Castell.
I hwyluso'r digwyddiad, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn ystod yr amseroedd canlynol ar 17 Mehefin.
- Bydd Stryd y Castell o'r gyffordd â Heol y Porth, Heol y Dug a Ffordd y Brenin i'r gyffordd â Heol y Gogledd ar gau rhwng 6am a 10.30pm (caniateir mynediad i fysiau sy'n gadael Heol y Brodyr Llwydion)
- 8.00am tan 2.30pm bydd y ffyrdd canlynol ar gau: Y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i'w chyffordd â Heol y Gadeirlan, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott, Heol Eglwys Fair, Lôn y Felin, Yr Ais, Heol Eglwys Ioan, Heol y Frenhines, Plas y Parc, Heol y Brodyr Llwydion (o'i chyffordd â Boulevard De Nantes drwodd i Ffordd y Brenin).