The essential journalist news source
Back
30.
May
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 30 Mai 2023

Dyma ein newyddion diweddaraf, sy'n cynnwys: Mae'n bryd enwebu i wobrau cyntaf Caerdydd sy'n Dda i Blant; Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned i helpu Caerdydd i gyflymu'r daith i net-sero; a Ceisio safbwyntiau ar gymorth Cyngor Caerdydd i Ofalwyr Di-dâl.

 

Mae'n bryd enwebu i wobrau cyntaf Caerdydd sy'n Dda i Blant

Bydd Gwobrau cyntaf Caerdydd sy'n Dda i Blant yn cael eu cynnal fis Gorffennaf yma, yn dathlu ac yn cydnabod plant, pobl ifanc a sefydliadau sydd wedi hyrwyddo hawliau plant yn eu cymuned, eu bywyd bob dydd a'u gweithle.

Wedi'i drefnu gan Gaerdydd sy'n Dda i Blant, gall aelodau'r cyhoedd enwebu pobl a sefydliadau cyn dydd Llun 12 Mehefin, gyda'r enillwyr yn cael eu hysbysu erbyn dydd Llun 3 Gorffennaf a'r enillwyr yn derbyn eu gwobr mewn digwyddiad 'Gŵyl Hawliau' ddydd Mawrth 11 Gorffennaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae Caerdydd sy'n Dda i Blant wedi bod yn cefnogi'r Cyngor i wreiddio hawliau plant yn ei bolisïau a'i strategaethau, a chyflawni prosiectau sydd â'r nod o gynnal hawliau a dathlu plant a phobl ifanc ers lansio Strategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant yn 2018, a oedd yn nodi'r uchelgais i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant. Mae hyn wedi arwain at nifer o ysgolion yn rhoi hawliau plant ar waith yn swyddogol, a llu o raglenni gyda phartneriaid yn darparu profiadau a gweithgareddau cadarnhaol i gefnogi iechyd meddwl ac annog dysgu a datblygu.

Gellir gwneud enwebiadau ar gyfer y gwobrau ar gyfer sawl categori, ond gall yr enwebai ennill uchafswm o un wobr.

Y categorïau yw:

  • Cyflawnwr Ifanc y Flwyddyn
  • Cyflawnwr Ifanc Iau y Flwyddyn
  • Partner y Flwyddyn Caerdydd sy'n Dda i Blant
  • Pencampwr Cymunedol Iau y Flwyddyn
  • Prosiect Hawliau a Gweithredu Cymdeithasol y Flwyddyn
  • Gwobr y Celfyddydau, Diwylliant a'r Cyfryngau Digidol y Flwyddyn

Darllenwch fwy yma

 

Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned i helpu Caerdydd i gyflymu'r daith i net-sero

Bydd busnesau a sefydliadau'r trydydd sector o bob rhan o Gaerdydd yn ymgynnull ar gyfer 'Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned' i helpu i gyflymu taith y ddinas i ddyfodol sero-net.

Cyngor Caerdydd sy'n cynnal yr uwchgynhadledd ar 13 Mehefin. Yn rhan ohoni bydd amrywiaeth o sgyrsiau, dadleuon, trafodaethau panel, gweithdai cydweithredol, a chyfleoedd rhwydweithio. Mae popeth wedi'i ddylunio i ysbrydoli a llywio ymdrech ar y cyd i symud y ddinas tuag at ddyfodol carbon niwtral.

Mae'r uwchgynhadledd yn rhad ac am ddim i fusnesau a sefydliadau yng Nghaerdydd,  ond rhaid cofrestru ymlaen llaw.

Mae siaradwyr yn yr Uwchgynhadledd, a gynhelir yn Techniquest ym Mae Caerdydd, rhwng 9am a 1pm, yn cynnwys:

 

  • Cyngor Ieuenctid Caerdydd a'r Cynghorydd Wild - Gosod gweledigaeth Caerdydd
  • Darren Stewart, Cyfarwyddwr Masnachol Euroclad - Pam a sut rydyn ni'n cynllunio ar gyfer dyfodol carbon isel.
  • Jarrad Morris, sefydlydd busnes lleol ac entrepreneur - Gwasanaethau a chyfleoedd newydd.
  • Clare Sain-ley-Berry, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru - Sustain Wales - "Ar gyfer y daith - cymorth ac arweiniad" 

Darllenwch fwy yma

 

Ceisio safbwyntiau ar gymorth Cyngor Caerdydd i Ofalwyr Di-dâl

Ydych chi'n gofalu am berthynas neu ffrind drwy eu helpu gyda'u gweithgareddau a'u hanghenion bob dydd?

Rydym yn gweithio gyda Carers Wales i adolygu cymorth i ofalwyr di-dâl a hoffem gael eich barn ar gymorth Cyngor Caerdydd.

Rydym yn cynnal y grwpiau ffocws canlynol a hoffem wahodd gofalwyr di-dâl i ymuno â ni a rhannu eich adborth:

27 Mehefin, 10am - 12pm yn Hyb Y Llyfrgell Ganolog

28 Mehefin, 10am - 12pm ar-lein drwy Teams

I archebu eich lle, ewch  yma.

Os na allwch ddod i'r digwyddiad, byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth o hyd, Anfonwch e-bost i info@carerswales.org