The essential journalist news source
Back
30.
May
2023.
Y newyddion gennym ni - 30/05/23

Image

30/05/23 - Mae'n bryd enwebu i wobrau cyntaf Caerdydd sy'n Dda i Blant!

Bydd Gwobrau cyntaf Caerdydd sy'n Dda i Blant yn cael eu cynnal fis Gorffennaf yma, yn dathlu ac yn cydnabod plant, pobl ifanc a sefydliadau sydd wedi hyrwyddo hawliau plant yn eu cymuned, eu bywyd bob dydd a'u gweithle.

Darllenwch fwy yma

 

Image

27/05/23 - Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned i helpu Caerdydd i gyflymu'r daith i net-sero

Bydd busnesau a sefydliadau'r trydydd sector o bob rhan o Gaerdydd yn ymgynnull ar gyfer 'Uwchgynhadledd Caerdydd Un Blaned' i helpu i gyflymu taith y ddinas i ddyfodol sero-net.

Darllenwch fwy yma

 

Image

25/05/23 - Canmoliaeth i Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ar ôl ymweliad gan Estyn

Mae un o ysgolion Catholig mwyaf Caerdydd wedi cael ei ganmol gan arolygwyr am ei "chymuned ofalgar a meithringar" ac am geisio "cyfoethogi bywydau disgyblion trwy ffydd a gofal, cefnogaeth ac arweiniad o ansawdd uchel dros ben".

Darllenwch fwy yma

 

Image

25/05/23 - Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer newydd Caerdydd yn dechrau eu rolau

Mae cynghorydd Caerdydd, Bablin Molik, sydd wedi dod yn 118fed Arglwydd Faer Caerdydd, wedi enwi UCAN Productions - elusen berfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant dall a rhannol ddall - fel ei helusen ddewis am ei chyfnod yn y swydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

24/05/23 - Datgelu cynlluniau i adnewyddu Marchnad hanesyddol Caerdydd

Mae cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd wedi'u datgelu i adnewyddu Marchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd a fyddai'n gwarchod, cadw a diogelu'r adeilad rhestredig Gradd II* i'r dyfodol, gan adfer nodweddion dylunio gwreiddiol, a chyflwyno ardal newydd ar y llawr gwaelod ar gyfer bwyd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

23/05/23 - Y Cynghorydd Graham Hinchey - Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd - yn camu i lawr o'i ddyletswyddau swyddogol

Bydd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey yn rhoi'r gorau i'w rôl fel Arglwydd Faer ddydd Iau yn ogystal â'i Ddirprwy, y Cynghorydd Abdul Sattar yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yn Neuadd y Ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

22/05/23 - Gwirfoddoli yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn cael hwb ariannol gan y Loteri Genedlaethol

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi derbyn grant o £95,000 gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi ei brosiect gwirfoddoli ffyniannus, sydd ar hyn o bryd â rhwng 30 a 40 o wirfoddolwyr newydd yn cael eu derbyn bob wythnos.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/05/23 - Gerddi Cogan yn ailagor yn dilyn gwaith gwella

Mae Gerddi Cogan, man gwyrdd bach yng nghanol cymuned Cathays, wedi ailagor yn swyddogol i'r cyhoedd yn dilyn gwelliannau mawr.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/05/23 - ‘Mental Elf' a straeon eraill yn cychwyn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Cafodd ffilmiau byr animeiddiedig a grëwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl o Gaerdydd eu dangosiad cyntaf yn y ddinas heddiw (dydd Llun 15 Mai) mewn digwyddiad arbennig i gychwyn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/05/23 - Gofyn i'r cyhoedd roi eu barn ar ffyrdd y cynigir eu cadw fel rhai 30mya

Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus o Ddydd Llun nesaf (15 Mai) tan 7 Mehefin ar ffyrdd a allai gael eu cadw fel rhai 30mya pan ddaw'r cyfyngiad cyflymder diofyn 20mya newydd ar gyfer ardaloedd preswyl i rym ym mis Medi 2023.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/05/23 - Pelydrau porffor ledled y ddinas wrth i Gaerdydd gael ei goleuo ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth 2023

I ddathlu gofalwyr maeth ymroddgar Caerdydd ac i nodi dechrau'r Pythefnos Gofal Maeth, bydd dau o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas yn disgleirio ym mis Mai.

Darllenwch fwy yma