The essential journalist news source
Back
26.
May
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 26 Mai 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer newydd Caerdydd yn dechrau eu rolau; Cynlluniau i adnewyddu Marchnad Caerdydd; Cartref Cŵn Caerdydd yn cael hwb ariannol gan y Loteri; Canmoliaeth i Corpus Christi gan Estyn.

 

Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer newydd Caerdydd yn dechrau eu rolau

Mae cynghorydd Caerdydd, Bablin Molik, sydd wedi dod yn 118fed Arglwydd Faer Caerdydd, wedi enwi UCAN Productions - elusen berfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant dall a rhannol ddall - fel ei helusen ddewis am ei chyfnod yn y swydd.

Bydd y Cynghorydd Molik yn cael cymorth yn rôl cennad allweddol y ddinas gan y Cynghorydd Jane Henshaw sef y Dirprwy Arglwydd Faer newydd.

Bydd y ddau gynghorydd yn ymgymryd â'u swyddi newydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 25 Mai.

"Mae'n anrhydedd mawr i fod yn 118fed Arglwydd Faer Caerdydd. Fi yw'r 16eg Arglwydd Faer benywaidd, y dynes o liw gyntaf ac Arglwydd Faer Fwslimaidd cyntaf Caerdydd. Yn ogystal â'r dyletswyddau dinesig a roddir imi, rwy'n awyddus iawn i fynd allan i'r gymuned i hyrwyddo fy elusen ddewis sef UCAN Productions. Mae gan Gaerdydd gymaint i'w gynnig, ac rwy'n edrych ymlaen at yr amserlen brysur sydd o'm blaen. Eisoes mae cyfres eang o ddigwyddiadau'n cael eu trefnu er mwyn i ni allu ymweld â chymaint o gymunedau â phosib ar draws y ddinas."

Mae'r Arglwydd Faer yn gweithredu fel prif gennad ar gyfer swyddogaethau dinesig y ddinas, ac fel y cadeirydd yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn.

Mae'r Cynghorydd Molik yn gynghorydd dros Gyncoed a Lakeside. Cafodd ei hethol i'r cyngor am y tro cyntaf yn 2017 ac fe'i hail-etholwyd yn 2022. Bydd ei gŵr, Molik Musaddek Ahmed yn dod yn Gydweddog yr Arglwydd Faer.

Yn briod a gyda dwy ferch yn eu harddegau, symudodd y Cynghorydd Molik i Gymru fel plentyn chwech oed o Fangladesh. Cafodd ei haddysg yng Nghaerdydd, gan fynychu Ysgol Gynradd Marlborough, yna Ysgol Gatholig Corpus Christi cyn astudio ar gyfer Lefel A yng Ngholeg Catholig Dewi Sant. Mae gan y Cynghorydd Molik Radd BSc mewn Biocemeg a PhD mewn Bioleg Llygaid o Brifysgol Caerdydd.

Mae'r Dirprwy Arglwydd Faer newydd, y Cynghorydd Jane Henshaw, yn gynghorydd dros ward Sblot. Yn wreiddiol o Wrecsam, symudodd y Cynghorydd Henshaw i Gaerdydd yn 2014 ac fe'i hetholwyd gyntaf i'r cyngor yn 2017. Ei merch, Angharad Anderson Ba ddaw'n Gyweddog y Dirprwy Arglwydd Faer newydd.

Yn fam i bedwar o blant gyda phedwar o wyrion ac wyresau, mae gan y Cynghorydd Henshaw radd BA mewn Saesneg a Hanes ac mae'n falch iawn o fod yn Ddirprwy Arglwydd Faer Caerdydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dywedodd y Cynghorydd Henshaw: "Mae'n anrhydedd cael y teitl Dirprwy Arglwydd Faer a byddaf yn cefnogi'r Cynghorydd Molik yn ei rôl, yn ogystal â chynorthwyo â'r amserlen brysur o swyddogaethau dinesig sydd o'n blaenau."

Y Cynghorydd Molik yn cymryd yr awenau fel Arglwydd Faer gan y Cynghorydd Graham Hinchey a'r Cynghorydd Henshaw yn cymryd drosodd fel Dirprwy Arglwydd Faer gan Y Cynghorydd Abdul Sattar.

 

Datgelu cynlluniau i adnewyddu Marchnad hanesyddol Caerdydd

Mae cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd wedi'u datgelu i adnewyddu Marchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd a fyddai'n gwarchod, cadw a diogelu'r adeilad rhestredig Gradd II* i'r dyfodol, gan adfer nodweddion dylunio gwreiddiol, a chyflwyno ardal newydd ar y llawr gwaelod ar gyfer bwyd.

Agorwyd y farchnad sy'n gyforiog o hanes ym 1891 ac yn dilyn y gwaith adnewyddu, mae Cyngor Caerdydd, sy'n berchen ar y farchnad, hefyd yn bwriadu cyflwyno a rhannu ei hanes yn well gyda'r 2.2 miliwn o ymwelwyr y mae'n eu denu yno bob blwyddyn, gan ddefnyddio pwyntiau stori gweledol a thafluniadau.

Mae'r cynlluniau, sy'n amodol ar sicrhau cyllid yn llwyddiannus a chaniatâd cynllunio'n cael ei roi, yn cynnwys:

 

                     adfer mynedfeydd Heol y Drindod a Heol Eglwys Fair. 

                     adfer y to, ffenestri gwreiddiol a'r gweddluniau allanol.

                     gosod gwydro a theils newydd.

                     adfer tu mewn y farchnad, gan gynnwys gwelliannau i'r stondinau hanesyddol.

                     cael gwared ar 'lawr ffug' y 1960au wrth fynedfa Heol y Drindod i ddatgelu'r dyluniad gwreiddiol.

                     paneli solar wedi'u gosod ar y to, a storfa fatri integredig.

                     atgyweiriadau i gloc marchnad H.Samuel.

                     lle bwyta 70 sedd newydd ar y llawr gwaelod.

                     ystafell weithgareddau ac addysg newydd. 

                     gwelliannau draenio.

                     gosod goleuadau LED ynni-effeithlon.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:   "Mae cwsmeriaid wedi bod yn ymweld â Marchnad Caerdydd ers dros ganrif a nod ein cynlluniau adnewyddu helaeth yw sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy i'r adeilad, cadw a gwella ei dreftadaeth, a sicrhau ei fod yn parhau yn ganolfan brysur yng nghanol y ddinas am flynyddoedd lawer i ddod."

Bydd y farchnad, sy'n gartref i 61 o fusnesau annibynnol eclectig gan gynnwys groseriaid traddodiadol, cigyddion a gwerthwyr pysgod, stondinau bwyd stryd, cynhyrchwyr artisan, dillad, cerddoriaeth a chaledwedd a mwy, yn parhau ar agor gydol cyfnod y gwaith, gyda rhai masnachwyr yn cael eu hadleoli i safle cyfagos ar sail tymor byr dros dro.

Os yn llwyddiannus, mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn haf 2024 ar hyn o bryd a chymryd tua dwy flynedd i'w gwblhau.

 

Gwirfoddoli yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn cael hwb ariannol gan y Loteri Genedlaethol

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi derbyn grant o £95,000 gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi ei brosiect gwirfoddoli ffyniannus, sydd ar hyn o bryd â rhwng 30 a 40 o wirfoddolwyr newydd yn cael eu derbyn bob wythnos.

Bob blwyddyn mae'r tîm arobryn yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn gofalu am gannoedd o gŵn coll neu strae wrth iddyn nhw ddisgwyl cael eu haduno â'u perchnogion neu gael cartref am byth. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan sylweddol yn y tîm hwnnw, yn helpu i gyflawni llawer o wahanol dasgau, ond yn bennaf yn mynd â'r cŵn allan am dro.

Bydd grant y Loteri Genedlaethol yn helpu i ariannu rôl Cydgysylltydd Gwirfoddoli, yn ogystal â hyfforddiant i wirfoddolwyr, cyfarfodydd rheolaidd a chyfleuster gwirfoddolwyr yn y Cartref a redir gan Gyngor Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae gwirfoddoli gyda chŵn yn dod â llawer o fuddion i wirfoddolwyr, ond mae ein gwirfoddolwyr hefyd yn werthfawr iawn i'r cŵn rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw, gan ein helpu i'w cadw'n ffit, yn iach ac yn barod am eu cartref am byth. Bydd yr arian hwn gan y Loteri Genedlaethol yn helpu ein rhaglen wirfoddoli i barhau i ffynnu am dair blynedd arall."

Dywedodd Andrew Owen, Pennaeth Cyllid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl a chymunedau ledled Cymru. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Cartref Cŵn Caerdydd yn gallu dod â phobl yng Nghaerdydd ynghyd i gefnogi ac ymgysylltu â'u cymuned trwy gyfleoedd gwirfoddoli lle maen nhw'n byw."

 

Canmoliaeth i Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ar ôl ymweliad gan Estyn

Mae un o ysgolion Catholig mwyaf Caerdydd wedi cael ei ganmol gan arolygwyr am ei "chymuned ofalgar a meithringar" ac am geisio "cyfoethogi bywydau disgyblion trwy ffydd a gofal, cefnogaeth ac arweiniad o ansawdd uchel dros ben".

Yn ei adroddiad diweddaraf gan Estyn, a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, dywedodd arolygwyr mai cryfder nodedig Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi yn Llysfaen oedd ei hethos sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at lesiant, ymddygiad ac ymgysylltiad disgyblion mewn dysgu.

Ychwanegon nhw fod gan yr ysgol "weledigaeth sefydledig ar gyfer lles disgyblion a staff, sydd â'i  hethos Catholig yn sail iddi, ac sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod holl aelodau'r ysgol yn sylwgar, tosturiol a geirwir. Mae arweinwyr a staff yr ysgol yn hyrwyddo'r weledigaeth hon yn gyson ac mae disgyblion yn gwerthfawrogi'r lefelau uchel o gefnogaeth y maent yn eu derbyn."

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg ei bod wrth ei bodd gyda'r arolygiad. "Mae'n amlwg bod Patrick Brunnock a'i dîm yn cael effaith wirioneddol ar yr ysgol.  Mae eu datblygiadau arloesol yn gwneud gwahaniaeth ym meysydd disgyblion sydd wedi'u dadrithio ac mae'n braf bod Estyn wedi cydnabod hyn wrth wahodd yr ysgol i rannu ei harbenigedd ExCel ag eraill.

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Corpus Christi yn y dyfodol wrth iddi ymdrechu am ganlyniadau gwell fyth yn y dyfodol."

Darllenwch fwy  yma