The essential journalist news source
Back
25.
May
2023.
Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer newydd Caerdydd yn dechrau eu rolau

25/05/23


Mae cynghorydd Caerdydd, Bablin Molik, sydd wedi dod yn 118fed Arglwydd Faer Caerdydd, wedi enwi UCAN Productions - elusen berfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant dall a rhannol ddall - fel ei helusen ddewis am ei chyfnod yn y swydd.

Bydd y Cynghorydd Molik yn cael cymorth yn rôl cennad allweddol y ddinas gan y Cynghorydd Jane Henshaw sef y Dirprwy Arglwydd Faer newydd.

Bydd y ddau gynghorydd yn ymgymryd â'u swyddi newydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 25 Mai.

"Mae'n anrhydedd mawr i fod yn 118fed Arglwydd Faer Caerdydd. Fi yw'r 16eg Arglwydd Faer benywaidd, y dynes o liw gyntaf ac Arglwydd Faer Fwslimaidd cyntaf Caerdydd. Yn ogystal â'r dyletswyddau dinesig a roddir imi, rwy'n awyddus iawn i fynd allan i'r gymuned i hyrwyddo fy elusen ddewis sef UCAN Productions. Mae gan Gaerdydd gymaint i'w gynnig, ac rwy'n edrych ymlaen at yr amserlen brysur sydd o'm blaen. Eisoes mae cyfres eang o ddigwyddiadau'n cael eu trefnu er mwyn i ni allu ymweld â chymaint o gymunedau â phosib ar draws y ddinas."

Mae'r Arglwydd Faer yn gweithredu fel prif gennad ar gyfer swyddogaethau dinesig y ddinas, ac fel y cadeirydd yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn.

Mae'r Cynghorydd Molik yn gynghorydd dros Gyncoed a Lakeside. Cafodd ei hethol i'r cyngor am y tro cyntaf yn 2017 ac fe'i hail-etholwyd yn 2022. Bydd ei gŵr, Molik Musaddek Ahmed yn dod yn Gydweddog yr Arglwydd Faer.

Yn briod a gyda dwy ferch yn eu harddegau, symudodd y Cynghorydd Molik i Gymru fel plentyn chwech oed o Fangladesh. Cafodd ei haddysg yng Nghaerdydd, gan fynychu Ysgol Gynradd Marlborough, yna Ysgol Gatholig Corpus Christi cyn astudio ar gyfer Lefel A yng Ngholeg Catholig Dewi Sant. Mae gan y Cynghorydd Molik Radd BSc mewn Biocemeg a PhD mewn Bioleg Llygaid o Brifysgol Caerdydd.

Mae'r Dirprwy Arglwydd Faer newydd, y Cynghorydd Jane Henshaw, yn gynghorydd dros ward Sblot. Yn wreiddiol o Wrecsam, symudodd y Cynghorydd Henshaw i Gaerdydd yn 2014 ac fe'i hetholwyd gyntaf i'r cyngor yn 2017. Ei merch, Angharad AndersonBa ddaw'n Gyweddog y Dirprwy Arglwydd Faer newydd.

Yn fam i bedwar o blant gyda phedwar o wyrion ac wyresau, mae gan y Cynghorydd Henshaw radd BA mewn Saesneg a Hanes ac mae'n falch iawn o fod yn Ddirprwy Arglwydd Faer Caerdydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dywedodd y Cynghorydd Henshaw: "Mae'n anrhydedd cael y teitl Dirprwy Arglwydd Faer a byddaf yn cefnogi'r Cynghorydd Molik yn ei rôl, yn ogystal â chynorthwyo â'r amserlen brysur o swyddogaethau dinesig sydd o'n blaenau."

Y Cynghorydd Molik yn cymryd yr awenau fel Arglwydd Faer gan y Cynghorydd Graham Hinchey a'r Cynghorydd Henshawyn cymryd drosodd felDirprwy Arglwydd Faer ganY Cynghorydd Abdul Sattar.