The essential journalist news source
Back
23.
May
2023.
Datganiad Cyngor Caerdydd ar y gwrthdrawiad a’r anhrefn yn Nhrelái

23.5.23

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae fy meddyliau a'm cydymdeimladau dwysaf bore 'ma gyda theuluoedd y bobl ifanc a fu farw yn y gwrthdrawiad ffordd ddoe. Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac mae angen iddyn nhw, a ninnau, ddeall beth ddigwyddodd a pham.

"Y ffordd orau i ni wneud hyn yw drwy adael i'r ymchwiliad ddechrau cyn gynted â phosib. Bydd unrhyw drafferth arall ond yn oedi'r ymchwiliad hwnnw.

"Rwy'n gwybod bod y rhan fwyaf o drigolion Trelái yn poeni'n fawr ac yn bryderus iawn am y golygfeydd neithiwr.  Mae'n bwysig iawn bod ymchwiliad llawn i'r hyn ddigwyddodd, a sut digwyddodd y gwrthdrawiad, yn gallu digwydd ar unwaith.

"Er mwyn i hyn ddigwydd mae angen i bethau dawelu. Bydd unrhyw barhad o'r trafferthion neithiwr yn amharu ar unrhyw ymchwiliad.

"Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn dod at ein gilydd, ac yn gweithio gyda'n gilydd nawr i ddysgu beth yn union ddigwyddodd. Rwy'n annog pawb i wneud popeth o fewn eu gallu i dawelu'r sefyllfa."