The essential journalist news source
Back
22.
May
2023.
Gwirfoddoli yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn cael hwb ariannol gan y Loteri Genedlaethol

22.5.23

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi derbyn grant o £95,000 gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi ei brosiect gwirfoddoli ffyniannus, sydd ar hyn o bryd â rhwng 30 a 40 o wirfoddolwyr newydd yn cael eu derbyn bob wythnos.

Bob blwyddyn mae'r tîm arobryn yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn gofalu am gannoedd o gŵn coll neu strae wrth iddyn nhw ddisgwyl cael eu haduno â'u perchnogion neu gael cartref am byth. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan sylweddol yn y tîm hwnnw, yn helpu i gyflawni llawer o wahanol dasgau, ond yn bennaf yn mynd â'r cŵn allan am dro.

Bydd grant y Loteri Genedlaethol yn helpu i ariannu rôl Cydgysylltydd Gwirfoddoli, yn ogystal â hyfforddiant i wirfoddolwyr, cyfarfodydd rheolaidd a chyfleuster gwirfoddolwyr yn y Cartref a redir gan Gyngor Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae gwirfoddoli gyda chŵn yn dod â llawer o fuddion i wirfoddolwyr, ond mae ein gwirfoddolwyr hefyd yn werthfawr iawn i'r cŵn rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw, gan ein helpu i'w cadw'n ffit, yn iach ac yn barod am eu cartref am byth. Bydd yr arian hwn gan y Loteri Genedlaethol yn helpu ein rhaglen wirfoddoli i barhau i ffynnu am dair blynedd arall."

Dywedodd Andrew Owen, Pennaeth Cyllid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl a chymunedau ledled Cymru. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Cartref Cŵn Caerdydd yn gallu dod â phobl yng Nghaerdydd ynghyd i gefnogi ac ymgysylltu â'u cymuned trwy gyfleoedd gwirfoddoli lle maen nhw'n byw."