The essential journalist news source
Back
17.
May
2023.
Datganiad Cyngor Caerdydd: Caffi’r Ardd Gudd

17.5.23

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:   "Mae Parc Bute yn hynod o bwysig i bobl Caerdydd ac mae'r diddordeb yn nyfodol y caffi dros y dyddiau diwethaf yn dangos hynny.

"Mae Caffi'r Ardd Gudd wedi bod yn rhan o gymuned Parc Bute ers pum mlynedd a does dim amheuaeth am y cyfraniad y mae wedi'i wneud i'r parc yn y cyfnod hwnnw, fodd bynnag, mae'r denantiaeth wreiddiol wedi dod i ben, ac mae angen math newydd o gytundeb rheoli a phrydles gysylltiedig erbyn hyn.

"Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod hynny'n peri ansicrwydd i'r gweithredwr presennol, ond o dan reolau caffael y Cyngor, sy'n cael eu llywodraethu gan y cyfansoddiad, nid oes modd gwneud dyfarniad uniongyrchol yn yr amgylchiadau hyn.

"Mae disgwyl i broses gaffael gadarn, sydd wedi'i chynllunio i sicrhau'r gwerth gorau am arian cyhoeddus, ac yn unol â phrosesau caffael safonol y cyngor, ddechrau ar 5 Mehefin, a byddwn yn annog gweithredwr presennol y caffi i wneud cais er mwyn ei ystyried ochr yn ochr ag unrhyw geisiadau eraill gan weithredwyr posibl eraill.

"I fod yn glir, nid yw'r gweithredwr presennol yn cael ei droi allan ond mae Rhybudd i Ymadael ffurfiol wedi'i gyhoeddi, gan fod hynny'n ofyniad cyfreithiol.

"Tan ddiwedd yr ymarfer caffael, mae'r Cyngor wedi cytuno ar drefniant dros dro bod ygweithredwr presennol yn aros yn ystod y cyfnod pontio i'r trefniadau newydd, ac mae cynnig hefyd wedi'i wneud i ymestyn y trefniant hwn am fis ychwanegol, yr holl ffordd drwy dymor prysur yr haf tan fis Medi. Os yw'r gweithredwr presennol yn cyflwyno cais llwyddiannus byddai'n parhau o dan y trefniadau newydd, ar ôl y pwynt hwnnw.

"Mae disgwyl i broses gaffael y cytundeb rheoli newydd a'r brydles gysylltiedig ddechrau ar 5 Mehefin a bydd y tendr yn cael ei hysbysebu'n agored i'r farchnad drwy Werthwch i Gymru a'r porth caffael, Proactis. 

"Byddwn yn parhau i siarad â'r gweithredwr presennol drwy gydol y cyfnod pontio hwn ac edrychwn ymlaen at werthuso'r holl geisiadau i reoli'r safle, darparu toiledau yn y parc, cynnal cyfleusterau'r safle, i'w mwynhau gan ymwelwyr â Pharc Bute."