The essential journalist news source
Back
5.
May
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 05 Mai 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:Neges Coroni gan Wir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd; Dweud eich dweud am gynigion i ailwampio ac adfywio darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu rhannau o Ogledd Caerdydd; ac Adroddiad Estyn yn canmol profiadau dysgu 'hynod fuddiol' ysgol.

 

Neges Coroni gan Wir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd

"Mae coroni brenin newydd yn ddigwyddiad o bwys cenedlaethol mawr, ac yn un a fydd yn sicr o gael ei gofio'n hir i'r dyfodol. Fel prifddinas Cymru, gwlad sy'n agos at galon y Brenin Charles III, mae Caerdydd yn falch o gynnal y gyfres hon o ddigwyddiadau gwych i nodi'r achlysur.

"Law yn llaw â'r rheiny, mae hefyd yn wych gweld cymunedau ledled y ddinas yn trefnu eu dathliadau eu hunain, ac fel Arglwydd Faer Caerdydd, rwy'n dymuno penwythnos gŵyl banc y Coroni hapus a phleserus i chi."

Wir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey

 

Bydd Caerdydd yn nodi Coroni'r Brenin Charles III gyda chyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus swyddogol, gan gynnwys saliwt gynnau brenhinol, picnic ‘Brenhinol Go Iawn', partïon stryd, a dangosiadau o Wasanaeth y Coroni a Chyngerdd y Coroni.

Mae'r amserlen lawn o ddigwyddiadau Coroni swyddogol Caerdydd, a gynhelir ar y penwythnos, ar gael yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31319.html

 

Dweud eich dweud am gynigion i ailwampio ac adfywio darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu rhannau o Ogledd Caerdydd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor heddiw, sy'n rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd gael dweud eu dweud ar gynlluniau i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, Y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd.

Bydd y cynigion - sy'n anelu at sicrhau'r cydbwysedd cywir o ran darpariaeth gynradd Cymraeg a Saesneg fel bod modd bodloni'r galw presennol ac yn y dyfodol yn yr ardal - yn destun ymgynghoriad ag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a phlant.

Mae tri opsiwn posib yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau sydd wedi'u llunio i wella cyfleoedd dysgu a chynorthwyo ag unrhyw bwysau ariannol sy'n cael ei brofi gan ysgolion yr ardal ar hyn o bryd. Y dewisiadau yw:

 

Opsiwn 1

Sefydlu Ysgol Gynradd Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) drwy gyfuno Ysgolion Cynradd Gladstone ac Allensbank, gyda meithrinfa ar safle a rennir presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica

Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.

Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96.  

 

Opsiwn 2

Byddai Ysgol Gynradd Allensbank yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone/Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, a byddai'r ysgol yn lleihau ei chapasiti o 315 o leoedd i 210 o leoedd, gyda'r ystod oedran yn lleihau o 3-11 i 4-11 drwy derfynu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.

Byddai nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Gynradd Gladstone yn cynyddu o 64 i 96

Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol. 

Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96.  

 

Opsiwn 3

Byddai Ysgol Gynradd Allensbank yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan ac yn lleihau ei chapasiti o 315 i 192 o leoedd.

Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96. 



Ay hynny byddai'r cynlluniau yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu addysg Gymraeg a chyflawni targedau Llywodraeth Cymru a nodwyd yn 'Cymraeg 2050'. 

Bydd ystyriaeth hefyd yn cael ei roi i farn am ble i leoli dosbarth Lleferydd ac Iaith y ddinas, sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Ysgol Gynradd Allensbank.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31306.html

 

Adroddiad Estyn yn canmol profiadau dysgu 'hynod fuddiol' ysgol

Mae ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi derbyn adroddiad gwych gan arolygwyr, wnaeth ganmol ei ffocws ar arloesi sy'n helpu i gyflwyno "profiadau dysgu pleserus a hynod fuddiol i ddisgyblion."

Roedd adroddiad Estyn, a gynhaliwyd yn dilyn archwiliad ym mis Ionawr yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach yn Rhiwbeina, yn pwysleisio arweinyddiaeth gref ac effeithiol yr ysgol. Mae arweinwyr yn annog staff i arbrofi gyda'u gwersi a rhoi cynnig ar ddulliau newydd, meddai'r adroddiad, gan eu grymuso i arloesi a chymryd risgiau wedi'u rheoli i wella profiadau dysgu a chanlyniadau i ddisgyblion.

Yn unol ag arwyddair yr ysgol - 'Meithrin meddyliau chwilfrydig... galluogi plant i ffynnu... fel eu bod nhw'n barod am fywyd, yn barod am waith, ac yn barod am y byd' - tynnodd yr adroddiad sylw at gwricwlwm amrywiol a diddorol yr ysgol, gyda llawer o brofiadau dysgu dilys yn dal dychymyg a brwdfrydedd dysgwyr yn hynod effeithiol ym mhob ystafell ddosbarth yn ogystal â chaniatáu i'r disgyblion ymarfer ystod o sgiliau "mewn sefyllfaoedd go iawn."

Canmolodd hefyd gynllunio a pharatoi manwl gan y staff addysgu.  O ganlyniad: Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Mae gan Llanisien Fach 511 o ddisgyblion, gydag 8% yn gymwys am brydau ysgol am ddim, o'i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 23%. Mae gan ychydig dros 10% anghenion dysgu ychwanegol (ADY) - y cyfartaledd cenedlaethol yw 16.1%. Er nad oes yr un o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Cymraeg gartref, mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 4.3% o'r plant yno.

Fe wnaeth Estyn gydnabod bod disgyblion yn gwneud llai o gynnydd wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg o ganlyniad i ddiffyg cyfle, gydag argymhelliad fod yr ysgol yn gwneud gwelliant yn y maes yma.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31197.html