4/5/2023
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor heddiw, sy'n rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd gael dweud eu dweud argynlluniau i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, Y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd.
Bydd ycynigion- sy'n anelu at sicrhau'r cydbwysedd cywir o ran darpariaeth gynradd Cymraeg a Saesneg fel bod modd bodloni'r galw presennol ac yn y dyfodol yn yr ardal - yn destun ymgynghoriad ag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a phlant.
Mae tri opsiwn posib yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau sydd wedi'u llunio i wella cyfleoedd dysgu a chynorthwyo ag unrhyw bwysau ariannol sy'n cael ei brofi gan ysgolion yr ardal ar hyn o bryd. Y dewisiadau yw:
Opsiwn 1
- Sefydlu Ysgol Gynradd Saesneg newydd â 420 o leoedd (2DM) drwy gyfuno Ysgolion Cynradd Gladstone ac Allensbank, gyda meithrinfa ar safle a rennir presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica
- Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.
- Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96.
Opsiwn 2
- Byddai Ysgol Gynradd Allensbank yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Gladstone/Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, a byddai'r ysgol yn lleihau ei chapasiti o 315 o leoedd i 210 o leoedd, gyda'r ystod oedran yn lleihau o 3-11 i 4-11 drwy derfynu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.
- Byddai nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Gynradd Gladstone yn cynyddu o 64 i 96
- Byddai Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.
- Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96.
Opsiwn 3
- Byddai Ysgol Gynradd Allensbank yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan ac yn lleihau ei chapasiti o 315 i 192 o leoedd.
- Byddai Ysgol Mynydd Bychan yn trosglwyddo i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank a chynyddu o 192 o leoedd i 420 o leoedd, gyda nifer y llefydd meithrin yn codi o 64 i 96.
Ay hynny byddai'r cynlluniau yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu addysg Gymraeg a chyflawni targedau Llywodraeth Cymru a nodwyd yn 'Cymraeg 2050'.
Bydd ystyriaeth hefyd yn cael ei roi i farn am ble i leoli dosbarth Lleferydd ac Iaith y ddinas, sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Ysgol Gynradd Allensbank
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Ar ddechrau 2021, ymgynghorwyd ar gynnig dros dro ar gyfer Ysgol Mynydd Bychan ac Ysgol Gynradd Allensbank ac ar ôl gwrando ar yr adborth, cytunwyd bod angen cynllun hirdymor i fynd i'r afael â lleoedd ysgol yn yr ardal.
"Gall aelodau'r cyhoedd bellach roi eu barn ar y set newydd o opsiynau, y mae pob un wedi'i ddyfeisio'n ofalus i sicrhau bod y nifer iawn o leoedd cyfrwng Saesneg yn parhau i gael eu cynnig mewn cyfleusterau gwell yn wardiau Cathays a Gabalfa, a bod y rhain yn cael eu trefnu mewn ffordd sy'n cefnogi'r ysgolion i ddod yn fwy cynaliadwy wrth roi sylw i'r galw am leoedd cyfrwng Cymraeg.
"Pe bai'r cynigion yn symud ymlaen, byddai'r cynigion yn helpu i ail-gydbwyso nifer y lleoedd mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg sy'n golygu y bydd nifer mwy o blant yn cael mynediad i'w hysgol leol. Yn ogystal, drwy ailddefnyddio asedau presennol yn fwy effeithlon a thrwy weithio ar y cyd, byddai'r ysgolion dan sylw yn mwynhau nifer o fanteision gan gynnwys gwell adnoddau a chyfleoedd dysgu ar gyfer disgyblion a staff. Mae'r cynigion yn cadw'r holl adeiladau presennol fel y gall cymuned yr ysgol fod â sicrwydd y bydd digon o lefydd i ymateb i unrhyw newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol."
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn para tanDdydd Gwener 30 Mehefin 2023. Bydd nifer o gyfarfodydd cyhoeddus wyneb yn wyneb ac ar-lein a sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal drwy'r cyfnod ymgynghori.
I weld y cynigion ac i ddweud eich dweud, ewch i:www.Caerdydd.gov.uk/YsgolionCynraddCathaysGabalfa