The essential journalist news source
Back
27.
April
2023.
Cytundeb mewn egwyddor i archwilio'r opsiynau ar gyfer Codi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd Caerdydd

27/04/23

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cytuno mewn egwyddor aradroddiad newyddsy'n archwilio dulliau lle gellid ail-fuddsoddi taliadau gan ddefnyddwyr ffyrdd er mwyn helpu i greu cynnig trafnidiaeth a allai helpu'r ddinas i leihau effeithiau niweidiol llygredd aer ar drigolion Caerdydd, gwneud gwahaniaeth yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd  a mynd i'r afael â thagfeydd.

Cyn hir gallai gwasanaeth bws estynedig â thocynnau rhatach am £1, rhwydwaith tramiau newydd, a chysylltiadau rhanbarthol gwell fod yn rhan o system drafnidiaeth lanach, gwyrddach, a mwy modern i Gaerdydd. Ond efallai mai dim ond drwy gyflwyno codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd i'w hariannu y gellid gwireddu'r newidiadau hynny, yn ôl adroddiad.

Cyfarfu'r Cabinet Ddydd Iau, 27 Ebrill i ystyried yr adroddiad ac mae recordiad o we-ddarllediad y cyfarfod ar gaelyma.

Ddydd Llun 24 Ebrill, daeth yr adroddiad ger bron y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, ac mae recordiad o we-ddarllediad y cyfarfod hwnnw ar gaelyma.

Cyhoeddwyd adroddiad Caerdydd yr un wythnos ag y rhyddhaodd Coleg Imperial Llundain ganfyddiadau ei astudiaeth i oblygiadau iechyd yn deillio o ansawdd aer gwael.

Mae'r astudiaeth newydd yn dod â chanfyddiadau trawstoriad o brif astudiaethau at ei gilydd, gan gynnwys adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon a chanllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at risgiau difrifol a chyfyngu bywyd llygredd aer a sut mae'n effeithio ar sawl agwedd ar iechyd corfforol a meddyliol person dros gyfnod beichiogrwydd a genedigaeth, ymlaen trwy gyfnod datblygiad plant, ac i fod yn oedolyn.

Roedd yr astudiaethau'n canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng llygredd aer ac afiechyd trwy ddadansoddi effeithiau'r llygryddion canlynol, Carbon Du (parddu), Gronynnau (PM2.5) Nitrogen Deuocsid (NO2), Nitrogen Monocsid (NO), a Sylffwr Deuocsid (SO2).

Mae'r canfyddiadau'n amlwg, gyda'r dystiolaeth yn awgrymu bod llygredd aer yn cael yr effaith ganlynol ar iechyd pobl:

  • Effaith ar ffrwythlondeb, trwy ostwng nifer a symudoldeb sberm. Gall llygredd aer hefyd amharu ar ddatblygiad arferol y ffetws yn y groth, gan gynyddu'r risg o gamesgor, pwysau geni isel a genedigaethau cyn-amser.
  • Cyflyrau cronig gydol oes, gan gynnwys ysgyfaint â datblygiad gwael, asthma, pwysedd gwaed uchel, diffyg o ran canolbwyntio a gorfywiogrwydd, a salwch meddwl.
  • Mwy o risg o strôc, dementia, canser, salwch tymor hwy lluosog gan gynnwys clefydau anadlol a cardiofasgwlaidd, a marwolaeth gynnar.

 

Ar hyn o bryd, mae trafnidiaeth ffyrdd yn gyfrifol am 40% o allyriadau C02e (carbon deuocsid) Caerdydd. Caerdydd ac un ddinas arall sydd ar frig y rhestr o 11 o ddinasoedd craidd y DU o ran lefelau C02e, sy'n cynnwys Belfast, Birmingham, Bryste, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Manceinion, Newcastle, Nottingham, a Sheffield. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydyn ni'n gwybod bod ein trigolion eisiau gweld gweithredu ar newid hinsawdd ac maen nhw eisiau aer glanach i'w plant a'u hanwyliaid. Rydyn ni'n gwybod bod trigolion am weld bysiau a thacsis trydan yn gwasanaethu'r ddinas, cysylltiadau a gorsafoedd trên/tram newydd, ffyrdd mewn cyflwr gwell, a llwybrau beicio a cherdded diogel. Rydyn ni'n gwybod eu bod yn gweld y ciwiau traffig ac yn ymwybodol o'r niwed mae hyn yn ei achosi i'w hiechyd a'r amgylchedd, ac yn effeithio'n andwyol ar economi'r ddinas." Mae'n amlwg bod angen gweithredu os ydyn ni'n mynd i newid cyfeiriad ar hyn. O leihau'r ffigyrau hyn bydd angen i ni edrych ar y ffordd rydyn ni'n byw a'r ffordd rydyn ni'n teithio.  Mae Caerdydd angen ac yn haeddu system drafnidiaeth lanach a gwyrddach. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd hynny ond yn bosibl drwy gyflwyno rhyw fath o daliad defnyddiwr ffyrdd cost-isel, fyddai'n cynnwys eithriadau i'r sawl sydd lleiaf abl i'w dalu.

 

"Cyn i unrhyw gynllun o'r fath gael ei gyflwyno, yn amlwg bydd yn rhaid i ni wneud gwelliannau i'r system drafnidiaeth bresennol fel bod gan bobl opsiynau i leihau eu dibyniaeth ar y car. Byddai angen llwybrau bysiau gwell, ehangach, a rhatach, ochr yn ochr â gwelliannau i opsiynau cymudo rhanbarthol, ac arwyddion gweladwy o rwydwaith tramiau newydd yn y ddinas.

 

"Gall system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithio gael effaith hynod gadarnhaol ar y rhai sy'n gorfod teithio ar y ffyrdd. Ac yn sicr dyw ein system drafnidiaeth ddim yn gweithio i'r niferoedd enfawr o bobl sy'n dibynnu arno fwyaf. Yn aml, y bobl a'r cymunedau sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael eu gwasanaethu waethaf gan ein gwasanaethau bysiau a threnau.

 

"Nhw hefyd sy'n anadlu'r aer mwyaf brwnt ac sy'n dioddef y cyfraddau gwaethaf o asthma plentyndod ac afiechydon eraill. Mae gwella ein system drafnidiaeth yn hanfodol os ydyn ni am gysylltu rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig â'r cyfleoedd sydd ar gael yn y ddinas. 

 

"Rwy'n deall y bydd rhai'n dweud mai 'dim ond treth arall yw hyn pan fo'r wlad yn wynebu argyfwng costau byw.' Felly gadewch i fi fynd i'r afael â hynny'n uniongyrchol.  Mae lefelau presennol y traffig yng Nghaerdydd yn costio cannoedd ar gannoedd o bunnoedd bob blwyddyn i drigolion nodweddiadol, ac yn dal ein heconomi yn ôl. Mae hynny ar ben y niwed mae tagfeydd yn ei achosi i'r amgylchedd ac i iechyd.   Felly, mae'n hanfodol ein bod yn creu system drafnidiaeth lle gall pawb - yn enwedig ein cymunedau tlotaf a mwyaf difreintiedig - gael eu cysylltu'n well â'r swyddi a'r cyfleoedd rydyn ni'n gwybod eu bod ar gael yn y ddinas.

 

"Gwyddom hefyd, yng Nghaerdydd, fod y lefelau isaf o berchnogaeth ceir ymhlith pobl ifanc, pobl anabl, pobl sy'n byw yn yr arc ddeheuol a phobl o gefndir ethnig lleiafrifol. O ganlyniad, maen nhw'n dibynnu'n llwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, y bobl sy'n cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw nawr fydd y rhai caiff y budd mwyaf os caiff cynllun ei gyflwyno ymhen pedair neu bum mlynedd, pan fyddwn ni i gyd yn wynebu hinsawdd economaidd well gobeithio."

 

Daw'r adroddiad newydd ar ôl lansiad Papur Gwyn Trafnidiaeth y Cyngor yn 2020 - a oedd yn nodi'r angen am welliannau mawr i opsiynau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus y ddinas, os yw Caerdydd am wireddu ei huchelgeisiau o ran y newid yn yr  hinsawdd a lleihau dibyniaeth ar y car modur preifat. Roedd y Papur Gwyn yn dadlau o blaid nifer o opsiynau trafnidiaeth newydd. Llwybrau bws rhatach a gwell, llinellau trên/tram newydd, a rhwydwaith beicio gwell, a allai helpu i'n gwneud ni'n ddinas lanach ac iachach sy'n chwarae ei rhan yn well o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

 

Fodd bynnag, mae'r adroddiad newydd sydd wedi dod gerbron Cabinet Cyngor Caerdydd yn rhybuddio y bydd hi'n annhebygol y caiff y ddinas fyth y system drafnidiaeth sydd ei ‘dirfawr angen arni' heb godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd a diogelu'r cyllid ddaw ohono.  

Bydd y prosiect yn ystyried amrywiaeth o gynlluniau, gan gynnwys, ymhlith eraill, codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd; parthau tagfeydd; ardaloedd aer glân a thâl am barcio mewn gweithleoedd. Byddai hefyd yn penderfynu, mewn ymgynghoriad â'r cyhoedd, beth fyddai taliad 'teg a chyfartal'. Bydd gwaith y prosiect hefyd yn ystyried unrhyw ddefnyddwyr lleol y byddai angen eu heithrio, eu had-dalu, neu fyddai'n gymwys i gael gostyngiadau. Bydd yn ceisio lleihau effeithiau ar y trigolion tlotaf, ac ar ddefnyddwyr rheolaidd yn y ddinas a'r rhanbarth. Un enghraifft o hyn yw Llundain, lle mae trigolion yn gymwys am ostyngiad o 90% ar y Tâl Tagfeydd os ydyn nhw'n byw o fewn parth ULEZ.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Mae cymaint o fanteision posib.  Bydd lleihau allyriadau carbon wrth reswm yn ein helpu i leihau llygredd aer a newid hinsawdd, ond rhan yn unig yw hynny. Rydyn ni hefyd yn credu y gallai taliad helpu i leihau tagfeydd. Mae INRIX wedi amcangyfrif mai £109 miliwn oedd cost tagfeydd i'r economi yng Nghaerdydd yn 2019. Os gallwn leihau tagfeydd, gallwn helpu pawb i gyrraedd pen eu teithiau yn y ddinas yn gynt. Gall hyn greu cyfleoedd gwaith i bobl a marchnadoedd llafur i gyflogwyr, ac effaith economaidd gadarnhaol i'r ddinas gyfan.

 

"Rydyn ni'n gwybod nad yw hyn yn rhywbeth fydd yn digwydd dros nos.   Yn gyntaf, bydd angen ymgynghori â thrigolion a busnesau, ac ochr yn ochr â hynny, bydd angen newid deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru.

 

"Rydyn ni am i drigolion a busnesau ein helpu i adeiladu'r dyfodol sy'n gweithio orau i Gaerdydd. Felly, bydd cyfres o ymgynghoriadau, a byddwn ni'n sefydlu grwpiau rhanddeiliaid a phanel trigolion i glywed lleisiau a barn  pawb.

 

"O gael sêl bendith, bydd yn cymryd efallai hyd at bum mlynedd i'w weithredu, ond ni fydd y problemau y mae'r byd yn eu hwynebu yn sgil newid yn yr  hinsawdd yn diflannu yn y cyfamser.  Mae angen system drafnidiaeth gredadwy - un fydd yn annog pobl allan o'u ceir - ac mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o'i hariannu.

 

"Mae Cyngor Caerdydd, fel cynghorau ledled y wlad, yn gorfod gwneud mwy gyda llai. Er gwaethaf gwneud cais llwyddiannus am gyllid Codi'r Gwastad y DU a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddechrau gweithio ar ein system dramiau arfaethedig, nid oes gan y Cyngor y buddsoddiad sydd ei angen i gyrraedd ei dargedau trafnidiaeth a hinsawdd.  Mae Caerdydd angen system drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Gallai cynllun taliad defnyddiwr ffordd rhesymol gefnogi hyn os bydd ar gyfer mentrau trafnidiaeth yn unig ac, yn bwysig, os bydd yn ychwanegol at y cyllid sydd eisoes ar gael i'r cyngor gan y Llywodraeth. Hynny yw, ni all gael ei ddefnyddio i lenwi bwlch yn sgil toriadau cyllid gan y Llywodraeth.  Yn hytrach, mae cronfa ychwanegol o'r fath yn rhoi cyfle mawr i'r Cyngor a Llywodraeth Cymru i weithredu gweledigaeth drawsnewidiol er mwyn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol a lleol cyffredin gan gynnwys Cledrau Croesi, gwasanaethau bws gwell, a'r Metro, gan roi opsiynau trafnidiaeth a helpu i leihau ein dibyniaeth ar y car modur preifat."

 

Er mwyn helpu i ddarbwyllo'r cyhoedd y gallai taliad defnyddwyr ffyrdd helpu i gyflawni newid, mae'r adroddiad yn argymell y dylid cyflwyno gwelliannau trafnidiaeth allweddol cyn unrhyw sefydlu unrhyw gynllun taliadau.

 

Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a defnyddio arian grant a benthyca ar incwm o'r cynllun yn y dyfodol, gallai'r mentrau canlynol fod ar gael cyn cyflwyno Tâl Defnyddwyr Ffyrdd:

  • Cyflwyno tocynnau bws £1 ar lwybrau allweddol.
  • Gwasanaethau bws gwell ac ehangach.
  • Cam 1 o'r gwaith i gyflwyno tram o'r Orsaf Ganolog i Orsaf Pierhead yn y Bae, teithiau amlach ar linellau Coryton a'r Ddinas.
  • Gwelliannau cymudo rhanbarthol.

 

Gallai'r arian yn sgil unrhyw gynllun - ochr yn ochr â chyfraniadau ariannol gan y Llywodraeth - helpu wedyn i gyflwyno'r mentrau canlynol.

  • System tramiau Metro i'r ddinas gyfan gan gynnwys y Cledrau Croesi (yn ardal y ddinas) a'r Llinell Gylch, a gorsafoedd newydd, gydag o leiaf 4 tram yr awr.
  • Rhwydwaith bysiau â blaenoriaeth i'r ddinas gyda gwasanaethau dibynadwy ac aml - â tharged i gynyddu defnydd bysiau 100%.
  • Cyflwyno fflyd bysiau a thacsis trydan.
  • Cefnogi datblygiad Metro a rhwydwaith bysiau rhanbarthol ehangach ar gyfer cymudo/siopa.
  • Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae, fyddai, yn ogystal â gwelliannau i'r ffyrdd yng nghanol y ddinas, i wella'r llif traffig yn y ddinas ehangach.
  • Cymhellion teithio cynaliadwy - teithio rhatach, tocynnau, talebau prynu beic.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol:  "Mae llawer o ddinasoedd mawr y DU eisoes wedi cymryd y cam hwn neu maen nhw wrthi'n ei ystyried.  Mae taliad defnyddiwr ffordd yn helpu i gyflawni eu nodau ac amcanion o ran lleihau carbon, aer glanach, a thrafnidiaeth.  Mewn ymgynghoriad â thrigolion, busnesau, a chymudwyr, rydyn ni eisiau deall sut y gallai taliad o'r fath greu cyllid er mwyn - gyda threfniadau cyllid ehangach - trawsnewid y cynnig trafnidiaeth yng Nghaerdydd yn llwyr. Rydym am i bobl Caerdydd ein helpu ni i adeiladu'r dyfodol newydd hwn gyda'n gilydd.

 

"Mae pobl yn dweud wrthon ni drwy'r amser nad yw'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas yn cyrraedd y safon.  Rydyn ni'n gwybod bod hynny'n wir, ond os ydyn ni'n mynd i gael y system drafnidiaeth sydd ei hangen arnon ni, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o dalu amdani. Ar ddiwedd y dydd, dyw'r llywodraeth ddim yn rhoi'r holl arian sydd ei angen i ni. Ar hyn o bryd, rydym yn credu mai dim ond 10-15% rydyn ni'n ei gael o'r cyllid y byddai ei angen i ni wneud y newidiadau angenrheidiol.  Felly, rydyn ni am weld a allai taliad defnyddiwr ffordd o ryw fath - yn benodol ar gyfer ariannu mentrau trafnidiaeth - chwarae rhan i gael system lân, werdd, effeithlon, a chost isel i Gaerdydd, gan leihau ein gorddibyniaeth ar geir.

 

"Ond rydyn ni hefyd yn gwybod y bydd y cyhoedd eisiau deall manteision unrhyw gynllun taliad defnyddiwr ffordd cyn ei gyflwyno.  Dyma pam mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r bwriad yn glir o flaen llaw a'r hyn y gall ei gyflawni yn y dyfodol."

 

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ystyriaethau allweddol wrth gyflwyno unrhyw daliad defnyddiwr ffordd gan gynnwys:

  • Byddai'n rhaid i'r taliad fod yn deg: Bydd unrhyw gynllun taliad defnyddiwr ffordd yn amddiffyn y rhai mwyaf bregus, a bod 'y baich ariannol rhesymol iawn' ond yn disgyn ar ysgwyddau'r sawl sy'n gallu ei fforddio.
  • Mae'n mynd i drawsnewid ein dinas:  Dyma'r cam nesaf i greu Caerdydd fodern sy'n rhoi pobl a natur yn gyntaf.
  • Mae'n cyflawni strategaeth Un Blaned y Cyngor i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
  • Mae'n fuddsoddiad hirdymor yn ein heconomi.  Mae'n rhan o weledigaeth hirdymor i adeiladu dinas sydd wedi'i chysylltu'n well ac adfywio ein heconomi leol.
  • Mae'n mynd i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol.  Pwrpas unrhyw ffi yw cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol i ystyried anghenion y genhedlaeth nesaf a'r tu hwnt.

 

 

Yn ôl yr adroddiad, heb adnabod dull newydd o godi arian cyfalaf a refeniw mawr, ni fydd Caerdydd yn gallu cyrraedd ei dargedau a'i huchelgeisiau o ran trafnidiaeth, lleihau carbon, ac yn wir, yr economi, fel dinasoedd mawr eraill y DU.

  •  Bydd lefelau ansawdd aer ledled y ddinas yn parhau i fod yn anniogel.
  •  Bydd y strydoedd yn parhau i fod yn llawn ceir a llygredd.
  •  Ni fydd y ddinas yn dod yn garbon niwtral.
  •  Bydd cludiant yn y tymor hir yn parhau i fod yn dameidiog, aneffeithiol, a chostus.
  •  Bydd mwy fyth o dagfeydd.
  •  Bydd economi Caerdydd yn parhau i fod mewn cyffion - a chynhyrchiant yn llai.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd De'Ath: "O'i weithredu'n llwyddiannus, gydag ymrwymiad clir i ddefnyddio'r incwm ar gyfer blaenoriaethau trafnidiaeth, mae cyfle i drawsnewid y system drafnidiaeth a hefyd rhagolygon economaidd y ddinas, cynhyrchiant, iechyd a lles, a'r amgylchedd.  Gydag opsiynau trafnidiaeth gwell, bydd pobl yn gallu cyrraedd mwy o gyfleoedd gwaith, bydd y pwll o weithwyr i fusnesau'n ehangach, a bydd tagfeydd yn lleihau - gyda'r cyfan yn gwella cynhyrchiant y rhanbarth.

 

"Dydyn ni ddim am guddio dim i'n trigolion. Mae penderfyniadau anodd o'n blaenau, penderfyniadau bydd angen i ni eu gwneud gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol ein dinas, ac ar gyfer ein plant sy'n haeddu cael eu magu mewn Caerdydd lanach, wyrddach."

 

Dyddiadau Targed a Cherrig Milltir Drafft

Dyddiad Targed Drafft

Disgrifiad o'r Garreg Filltir

2023/24

Ymchwil, cynllunio ac ymgynghori â'r cyhoedd 

Diwedd 2024

Penderfyniad Cabinet

Diwedd 2025

Cwblhau dyluniad manwl gan gynnwys pob gofyniad cynllunio, cyfreithiol ac ariannol cysylltiedig.

Yn gynnar yn 2026

Cyflwyno unrhyw orchmynion drafft sydd angen Cymeradwyaeth gan Weinidog.

2027/28

Gweithredu yn amodol ar gymeradwyaeth.

2026/27 ac ymlaen

Gweithredu/adeiladu cynlluniau cyfochrog a fyddai'n cael eu hariannu o'r Tâl Defnyddwyr Ffyrdd.

 

 

 

Barn ar Dâl Defnyddwyr Ffyrdd posibl

 

Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r FroDywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod "llygredd aer a segurdod yn fygythiadau mawr i iechyd y cyhoedd yng Nghaerdydd, ynghyd â newid hinsawdd. I fynd i'r afael â'r rhain, rhaid i ni helpu mwy o bobl i adael y car adre ar gyfer teithiau byr a mentro i'r awyr agored drwy gerdded, beicio, a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen llwybrau diogel o ansawdd uchel, a dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas sy'n rhad a dibynadwy.  Rydyn ni'n llwyr gefnogi Cyngor Caerdydd i edrych ar ffyrdd o alluogi ac ariannu'r newid hwn, gan gynnwys cynllun taliad defnyddiwr ffordd posibl, a allai fod o fudd i ni i gyd. Byddai angen i unrhyw gynllun fod yn deg a chyfartal, gan ystyried amgylchiadau pobl a chan gynnig eithriadau neu ostyngiadau lle bo hynny'n briodol - ond gyda chynllunio gofalus, gallai helpu i drawsnewid iechyd a lles yn ein dinas."

 

Dywedodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru: "Yn Sustrans rydyn ni'n credu y dylai dinasoedd a threfi fod yn llefydd sy'n blaenoriaethu'r bobl sy'n byw ac yn treulio amser yno. Mae mannau sy'n cael eu dominyddu gan geir yn creu tagfeydd ac yn niweidio ein hamgylchedd a'n hiechyd.  Mae'n golygu bod llai o le i gerdded, beicio a threulio amser yno - pethau sy'n gwneud ein bywydau'n well ac yn ychwanegu at ein hapusrwydd. Maen nhw'n niweidio'r bobl mwyaf difreintiedig.

 

"Gallai'r ymrwymiad newydd hwn gan Gyngor Caerdydd ar gyfer gwaith archwiliadol ar fodelau Taliadau Defnyddwyr Ffordd fod yn gam cadarnhaol tuag at greu dinas fyw, decach a iach i bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.  Rydym yn gweld potensial i leihau tagfeydd a hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy, tra hefyd yn creu cronfa i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Gallai hyn gynnig dewis amgen gwirioneddol i yrru i lawer o bobl, gan ei wneud yn haws ac yn fwy fforddiadwy i ddewis dulliau teithio cynaliadwy.

 

"Rhaid hefyd rhoi ystyriaeth i degwch wrth ddylunio unrhyw system. Rydym yn gwybod bod effeithiau llygredd aer a thagfeydd traffig yn aml yn cael eu teimlo fwyaf gan gymunedau incwm isel a phobl ag anableddau. Drwy sicrhau bod y cynllun yn deg, o ran y ffordd y caiff taliadau eu casglu ac o ran y mathau o ymyriadau ac ardaloedd lle mae cyllid yn cael ei ail-fuddsoddi, gallwn weithio tuag at greu dinas decach a mwy cynaliadwy i bawb."

 

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Caerdydd: "Rydyn ni'n gwybod bod pobl Caerdydd eisiau i'r ddinas wneud popeth posibl i ymateb i newid hinsawdd. Rhan o gael ein hethol oedd ein Hymrwymiadau Un Blaned i ddangos arweiniad cryf ar faterion hinsawdd ac ar ein huchelgais i leihau allyriadau carbon. Mae'r pwerau sydd gan y Cyngor yn gyfyngedig o ran lleihau allyriadau yn y ddinas, ond mae polisi trafnidiaeth o fewn ein cylch cyfrifoldeb. Yng Nghaerdydd, mae 40% o'n hallyriadau C02 yn dod o drafnidiaeth ffordd, felly mae adnabod sut gallwn ni leihau ein dibyniaeth ar y car modur yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau allyriadau a llygredd. Mae gennym ni gyfrifoldeb i wneud penderfyniadau da i blant a chenedlaethau'r dyfodol fyw bywydau llawn ac iach, ac mae hynny'n golygu gweithredu i ddiogelu ein planed, ac i wneud yr aer yr ydym ni i gyd yn ei anadlu mor lân â phosibl."

 

Mae Cwestiynau Cyffredin am adroddiad y Cyngor ar gaelyma

 

Y Camau Nesaf:

  • Os caiff ei gytuno, ym mis Ebrill/Mai bydd y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gysylltiedig â Cham 1 Astudiaeth Ganllaw Arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn dechrau.
  • Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau a nodir yng Ngham 1 yn cael ei gynnal yn astudiaeth Cam 2 yn hwyrach yn 2023.