The essential journalist news source
Back
21.
April
2023.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 21 Ebrill 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Gorchymyn i gyfarwyddwr a chwmni talu a chario yng Nghaerdydd dalu dros £10,000 yn Llys Ynadon Caerdydd; Cyflwyno trysor o'r 17eg canrif yn Amgueddfa Caerdydd; a Cyngor teithio ar Ddydd y Farn yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 22 Ebrill.

 

Gorchymyn i gyfarwyddwr a chwmni talu a chario yng Nghaerdydd dalu dros £10,000 yn Llys Ynadon Caerdydd

Mae cyn-gyfarwyddwr busnes cyfanwerthu talu a chario mawr ar Heol Bessemer yng Nghaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £1,517 yn sgil pla llygod mawr yn ei safle yn ogystal â methu sicrhau'r gymeradwyaeth angenrheidiol gan yr awdurdod awdurdodi i gyflenwi bwydydd 'sy'n dod o anifeiliaid' gan gynnwys cynnyrch cig i'w fwyta gan bobl sydd ymhellach na radiws o 30 milltir.

Mae LS Wholesale Ltd, sydd wedi'i leoli yn Uned 16d yr Wholesales Fruit Centre yn Heol Bessemer, Caerdydd, yn fusnes cyfanwerthu sy'n cyflenwi sbeisys, llysiau, cig, pysgod a bwydydd eraill sy'n 'dod o anifeiliaid' i siopau a bwytai cyfagos.

Rhwng 6 Rhagfyr 2021, ac 20 Medi 2022, ymwelodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar ran Cyngor Caerdydd â'r busnes ar sawl achlysur a chanfod pla eang o lygod mawr a throseddau hylendid bwyd eraill, gan gynnwys:

 

  • Baw llygod mawr helaeth lle roedd bagiau sbeisys yn cael eu storio
  • Gwelwyd llygod mawr byw o dan y paledi storio bwyd
  • Roedd tyllau yn strwythur yr adeilad a oedd yn caniatáu i gnofilod fynd i'r safle
  • Roedd cig dafad cymysg yn cael ei werthu, heb y gwaith papur cywir i ddangos o le daeth y cig; a
  • Roedd cig yn cael ei gludo i Loegr ymhellach na 30 milltir o'r fan lle lleolir y busnes ac nid oedd y gymeradwyaeth angenrheidiol gan yr awdurdod awdurdodi ganddo.

Darllenwch fwy yma

 

Cyflwyno trysor o'r 17eg canrif yn Amgueddfa Caerdydd

Mae trysor o'r 17eg ganrif i'w weld yn Amgueddfa Caerdydd ar ôl i chwilotwr metel lleol ei ddatguddio.

Y gred yw yr oedd y thimbl arian prin yn rhodd rhamantus oherwydd y neges ‘I AM YOVRS' (fi yw dy gariad) ar y gwaelod. Roedd wedi'i gladdu ym Mhentyrch 18cm o dan y ddaear.

Dywedodd Rheolwr yr Amgueddfa, Alison Tallontire:  "Dyma'r darn cyntaf o drysor i gael ei arddangos yn yr Amgueddfa erioed, felly mae'n gyffrous iawn i ni.

"Ar un adeg roedd y thimbls hyn fel arfer yn eiddo i uchelwyr y dosbarth uchaf, ond erbyn hyn maen nhw'n brin iawn. Gwnaeth menywod cefnogol o'r Seneddwyr yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr 1642 - 1652 eu rhoi at yr achos, a chafodd yr arian ei doddi a'i ailddefnyddio.

Ar ôl dod o hyd i'r trysor yn 2017, gwnaeth y chwilotwr metel Peter Morgan hysbysu'r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru, a gwnaeth Crwner cynorthwyol De Cymru, Mr Nadim Bashir, ddatgan ei fod yn drysor yn 2019.

Wedi hynny, daeth i law Amgueddfa Caerdydd drwy broject partneriaeth Arbed Trysorau; Adrodd Straeon(2015-2020) dan arweiniad Amgueddfa Cymru ac wedi'i ariannu gan raglen Casglu Treftadaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae'r thimbl bellach yn rhan o arddangosfa 'Caerdydd Cynnar' yr amgueddfa, ochr yn ochr â darganfyddiadau archeolegol eraill o cyn 1794, gan gyfoethogi'r stori y mae'r amgueddfa'n gallu ei hadrodd am Gaerdydd gynnar.

Gellir gweld y thimbl yn yr adran Caerdydd Gynnar, sy'n rhan o Oriel Caerdydd mewn Cyd-destun. Mae ar agor bob dydd 10am - 4pm.

 

Cyngor teithio ar Ddydd y Farn yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 22 Ebrill

Bydd Dydd y Farn yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn yma ac i wneud yn siŵr y gall pob deiliad tocyn fynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel, bydd rhai ffyrdd ar gau rhwng 11am a 9pm yng nghanol y ddinas, ond bydd Stryd y Castell yn parhau ar agor i draffig.

Mae pobl sy'n mynd i'r gemau rygbi hyn yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar. Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn  principalitystadium.cymru,  yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma